Cylchgrawn ffilmiau yn cynnwys Leisa Gwenllian ar restr sêr y dyfodol

Leisa GwenllianFfynhonnell y llun, Peter Searle
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Leisa yn un o'r 20 gafodd eu cynnwys ar restr Stars of Tomorrow 2026

GanIfan Ywain
  • Cyhoeddwyd

Mae Leisa Gwenllian yn gobeithio y bydd cael ei chynnwys mewn rhestr o actorion sy'n cael eu hystyried fel sêr y dyfodol yn rhoi hwb pellach i ffilmiau Cymraeg.

Yn gynharach eleni fe wnaeth Leisa chwarae'r brif ran yn Effi o Blaenau - ffilm wnaeth sicrhau'r agoriad mwyaf erioed i ffilm Gymraeg yn y swyddfa docynnau.

Mae cylchgrawn Screen International bellach wedi cynnwys yr actores ifanc o Lanrug ar restr 'Stars of Tomorrow 2026' - rhestr sydd wedi cynnwys enwau mawr fel Benedict Cumberbatch, Jodie Comer a Florence Pugh yn y gorffennol.

Dywedodd ei bod yn falch iawn am y gydnabyddiaeth a'i fod yn arwydd arall fod y diwydiant ffilm yng Nghymru yn ffynnu ar hyn o bryd.

Roedd Screen International wedi derbyn dros 350 o geisiadau eleni ac wedi dewis dim ond 10 o actorion a 10 o gyfarwyddwyr ar gyfer y rhestr derfynol.

Dywedodd Charles Gant o'r cylchgrawn fod Leisa yn "dalent anhygoel" ac y byddai nifer o fewn y diwydiant yn ymwybodol o hynny wedi ei pherfformiad yn Effi o Blaenau.

"Mae'n beth prin i weld actor ifanc ar ddechrau ei gyrfa yn chwarae'r brif ran mewn ffilm, ond hefyd yn ymddangos ym mhob golygfa," meddai.

"Mae ganddi gynhesrwydd a charisma a'r peth hwnnw sydd methu ei fesur - sef y teimlad yna ei bod hi'n haeddu statws seren."

'Effi yn brawf bod 'na alw am ffilmiau Cymraeg'

Dywedodd Leisa fod hyn yn gyfle arbennig all, o bosib, agor drysau iddi yn y dyfodol.

"Fyswn i bendant ddim yma oni bai am Effi, a dwi'n teimlo'n ddiolchgar iawn fy mod i wedi gallu chwarae'r rhan yna a'i fod o wedi cael ei weld gan gymaint o bobl.

"Dwi mor falch i gael fy nghynnwys ar y rhestr gan ei fod yn gydnabyddiaeth, nid yn unig o fy ngwaith i, ond hefyd i'r ffilm. Mae'n hwb i sinema iaith Gymraeg hefyd."

Ychwanegodd fod y diwydiant ffilm yng Nghymru mewn cyfnod cyffrous ar hyn o bryd a bod pobl yn dechrau gweld nad yw'r iaith yn rhwystr.

"Be mae Effi wedi ei brofi yw bod 'na alw am ffilmiau Cymraeg," meddai.

"Mae pobl yn hapus iawn i wylio ffilmiau mewn ieithoedd eraill gydag is-deitlau, felly pam ddim gwneud hynny yn Gymraeg?"

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig