Y dramodydd o Forfa Nefyn sydd wedi ail-ddychmygu nofel Islwyn Ffowc Elis

- Cyhoeddwyd
"Dwi'n meddwl fasa fo'n ei gasáu o... dwi'm yn gwybod... ond dwi'n meddwl fasa fo o leiaf yn falch fod mwy o bobl wedi troi yn ôl at y nofel."
Dyw'r dramodydd Mared Llywelyn Williams ddim yn hollol siŵr sut fyddai'r diweddar Islwyn Ffowc Elis wedi ymateb i'w hail-ddychmygiad theatrig o'i nofel Wythnos yng Nghymru Fydd.
Bron i 70 mlynedd ers i glasur Islwyn Ffowc Elis sy'n sôn am Gymru fel y gallai fod yn y flwyddyn 2033, mae cwmni theatr Frân Wen yn mynd â'r ddrama sydd wedi ei chyfarwyddo gan Gethin Evans ac yn serennu'r actorion Garmon Rhys, Lois Elenid, Siôn Eifion, Morfudd Hughes a Sam Reeves ar daith.
"Dwi wastad wedi edmygu gwaith Islwyn Ffowc Elis, dwi'n cofio darllen Cysgod y Cryman ac Yn ôl i Leifior a meddwl fod o'n wych," eglurodd Mared ar raglen Llwyfan, Radio Cymru.
"Yna mynd 'mlaen i ddarllen Ffenestri Tua'r Gwyll pan o'n i'n y brifysgol a'i edmygu fo fel person achos fod o'n wleidydd a hefyd yn berson creadigol," ychwanegodd.
Blwyddyn brysur i Mared
O chwarae rhan Yvonne yn y ffilm Effi o Blaenau, i actio'n y ddrama Parti Priodas yn Efrog Newydd, i gyhoeddi ei nofel gyntaf sef Suddo, a rŵan gweld ei hail-ddychmygiad theatrig mewn theatrau ledled y wlad, mae 2026 wedi bod yn flwyddyn fawr i'r dramodydd, awdures ac actores o Forfa Nefyn.

Mared yn lansiad ei nofel gyntaf, Suddo, yn Neuadd Dwyfor yn ddiweddar
Ond fel Islwyn ei hun, mae gan Mared hefyd gefndir gwleidyddol fel ymgyrchydd iaith a'r argyfwng tai.
"Dwi fy hun wastad wedi bod yn 'neud efo ymgyrchoedd Hawl i Fyw Adra a weithiau mae'n anodd gwahaniaethu chdi dy hun o ran be' ydw i - person creadigol neu person sy'n canolbwyntio ar wleidydda ac ymgyrchu.
"Weithia' mae'r hunaniaeth yna'n wahanol felly dwi'n edmygu rhywun fatha Islwyn Ffowc Elis am allu gwneud hynna i gyd a defnyddio ei weledigaeth o fel cendlaetholwr i drio 'neud gwahaniaeth," meddai.

Mae 2026 wedi bod yn flwyddyn fawr i Mared sydd hefyd newydd fod yn Efrog Newydd i actio'n y ddrama Parti Priodas, gan gyfarfod Matthew Rhys
Yn ôl cwmni theatr Frân Wen mae Wythnos yng Nghymru Fydd yn "ail-ddychmygiad beiddgar o glasur Islwyn Ffowc Elis sy'n gofyn pa ddyfodol sy'n cael ei greu gan ein heddiw?".
Mared sy'n dweud sut aeth hi ati i ail-ddychmygu'r nofel: "O'n i wedi darllen hi pan o'n i'n y brifysgol ond i fod yn gwbl onast do'n i ddim yn 'nabod hi tu chwith allan o gwbl.
"Be' sy'n ddiddorol am Wythnos yng Nghymru Fydd ydy ti'n ymwybodol o'r strwythur, ti'n ymwybodol o be' sy'n cael ei ddweud ynddo fo a ti'n ymwybodol o'r prif ddelweddau sy'n dyst i ba mor bŵerus ydi'r nofal, a dwi'm yn meddwl y gwna i dramgwyddo fawr o neb pan dwi'n dweud dydi hi ddim y nofal fwya' gyffrous, achos mae hi'n darllen fel maniffesto a dyna oedd hi.
"Mi gafodd hi ei 'sgwennu yn bwrpasol i Blaid Cymru a'i chyhoeddi yn 1957 - nofel efo bwriad oedd hi a dyna sy'n ddifyr amdani."

Golygfa o Wythnos yng Nghymru Fydd
Ail-ddychmygu clasur Islwyn Ffowc Elis
Bydd darllenwyr nofel Islwyn Ffowc Elis yn gyfarwydd â thaith Ifan Powell mewn amser i Gaerdydd yn 2033 lle mae'n canfod fod Cymru wedi ennill hunan-lywodraeth, a'r iaith Gymraeg yn ffynnu, cyn dychwelyd i Gymru ddystopaidd, hefyd yn 2033, lle mae'r hunaniaeth Gymreig yn marw.
Mared fu'n trafod yr heriau wrth addasu nofel Islwyn gydag adnabyddiaeth o'r oes yr oedd Islwyn yn ei dychmygu, a ninnau lai na degawd i ffwrdd o 2033.
"Dwi'n meddwl fod angen cofio cyd-destun y cyfnod gafodd y nofel ei 'sgwennu. Dydi Mair, y ferch mae Ifan mewn cariad â hi, ddim y cymeriad ffeministaidd fasa hi'n gallu bod heddiw er enghraifft.
"Yr unig beth o'n i'n teimlo'n gryf iawn drosto fo oedd cadw'r effaith ga'th y prif ddelwedda' yn y nofel - bod rheiny yr un mor bŵerus yn yr addasiad llwyfan a bod nhw'n gwasanaethu pwrpas."

Mared yn sgwrsio gyda Manon Steffan Ros ar raglen Llwyfan ar BBC Radio Cymru
"Mae'n nofel eiconig felly mae'n rhaid i chdi gael adlais o'r elfennau eiconig yna yn y cynhyrchiad llwyfan. Ond ailddychmygiad ydy hi - mae 'na fwy o gig a gwaed ar gymeriad Ifan - mae o'n mynd ar daith â hanner.
"Nid taith wleidyddol ond taith bersonol fawr lle mae o'n delio efo trawma eithriadol o'i blentyndod, felly mae hynny ei hun yn elfen newydd i'r stori.
"Mae'r stori wleidyddol o dan yr wyneb yn yr addasiad yma, stori y cymeriadau ti'n sbio arno fo ac wedyn mae o fyny i chdi sut wyt ti am lywio yr elfen dwi'n drio ei ddeud fel dramodydd - fedri di gytuno neu anghytuno.
"Be' sy'n bwysig ydi sut mae'r cymeriadau yma yn ymdrin â'i gilydd ac yn goroesi mewn byd sy'n ei 'neud o'n anodd i fyw."

Yr actorion Morfudd Hughes sy'n chwarae rhan Gwenda/Nain/Ms Powell a Garmon Rhys sy'n chwarae rhan Ifan
Ag Ifan yn cael ei daflu ymlaen ddegawdau mewn amser wrth i storm wleidyddol godi yng ngogledd Cymru yn yr ailddychmygiad theatrig hefyd, gan wynebu un dyfodol yn cynnig Cymru rydd yn llawn cariad a gobaith, a'r llall yn fyd llwm heb iaith, ffiniau, a chymuned, dywed Mared bod ysgrifennu rhai darnau wedi bod yn "anodd iawn" iddi.
Meddai: "Y prif beth 'dan i'n ymdrin efo fo ydi'r ffin yna efo pa mor bell ti'n mynd i warchod be' ti'n garu.
"Rydan ni wedi gweld twf yr adain dde eithafol dros y blynyddoedd dwytha, ac adegau lle mae baner y ddraig goch yn chwifio yn un o'r protestiadau yna.
"Dwi wedi meddwl sut fath o fyd fasa fo tasa ni newid y fflagia' Jac yr Undeb i gyd i fod yn rhai'r Ddraig Goch a bod pobl yn ymddwyn fel'na - be' ydi'r gwrthdaro rhwng cenedlaetholdeb Prydeinig a chenedlaetholdeb Cymreig.
"Mae'n anodd ac oedd yna adega' lle do'n i ddim isio 'sgwennu y darna' yna achos ei fod o'n rhy boenus i wynebu."

Golygfa wleidyddol yn ailddychmygiad Mared o Wythnos yng Nghymru Fydd
Gydag Wythnos yng Nghymru Fydd wedi cychwyn ei thaith o amgylch theatrau'r wlad, sut brofiad yw gwylio ei gwaith ar lwyfan?
"Mae'n deimlad od a gwych iawn, mae pawb sy'n gweithio ar y cynhyrchiad wedi gweithio mor galad.
"Mae yna lot o ddawnsio, lot o symud sy'n gyffrous iawn ac mae sut mae'r elfen yna yn cael ei blethu i mewn i'r testun wedi dod â rwbath arbennig iawn i bob cymeriad."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2024

- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2024
