O wneud y te i ddarlledu ar Hyrox: Y cyflwynydd sy'n byw ei breuddwyd

Lauren SmithFfynhonnell y llun, Lauren Smith
GanLlio Rhys
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Roedd chwaraeon wastad yn rhan o fywyd Lauren Smith pan oedd hi'n tyfu i fyny; roedd hi bob amser ar feic neu geffyl, yn gwneud gymasteg neu'n chwarae pêl-foli. Prin y byddai byth wedi meddwl y byddai hi un diwrnod yn cael ei thalu i siarad am y peth mae hi'n ei garu.

Ond mae Lauren bellach yn byw a bod ym myd y campau, gan ddarlledu ar ffitrwydd cystadleuol fel Hyrox, gemau rygbi a rasys beiciau, a dydy hi bron methu credu ei lwc, meddai.

"Dwi'n angerddol iawn am ffitrwydd, ac mae cyfuno chwaraeon ffitrwydd, darlledu, a rhywbeth dwi'n mwynhau ei wneud fel hobi yn sefyllfa berffaith. Dwi'n cael ei drafod, ei fyw, ei hyfforddi, ei anadlu, a theithio i gymunedau sydd yr un mor angerddol â fi amdano.

Lauren SmithFfynhonnell y llun, Lauren Smith

"Rydw i wedi adeiladu fy mywyd o amgylch beth dwi'n caru ei wneud. Ac mae'r ffaith mod i'n gallu cael fy nhalu am wneud hynny yn wyllt!"

Gwneud y te ac ochr-gamu

Ond doedd y llwybr i'w swydd ddelfrydol ddim bob amser yn llyfn, meddai.

Gweithio ym myd teledu oedd y freuddwyd pan oedd hi'n ei harddegau, a phan y cafodd dreulio diwrnod gyda chriw teledu ar leoliad yn Rasys Llwydlo, sylweddolodd Lauren mai'r wefr o ddarlledu byw oedd yn mynd â'i bryd. Ond sut oedd mynd ati i ddod o hyd i swydd ym myd darlledu chwaraeon?

"Ym Mhrifysgol Caerdydd, 'nes i gwrs newyddiaduraeth, a chymryd unrhyw gyfle o'n i'n gallu i ddysgu a chael profiadau gweithio yn y cyfryngau ac o fewn chwaraeon," eglurodd. "Ges i gyfleodd gwych, fel gweithio fel intern gyda Gleision Caerdydd.

"Fy swydd gynta' i oedd gwneud te a choffi yn yr ystafell cyfryngau yng Nghriced Morgannwg. Ges i gwrdd â'r holl enwau mawr 'ma yn y byd darlledu criced, a chreu cysylltiadau a chael cyfleoedd.

"Doedd gen i ddim syniad sut o'n i am gyrraedd yna, ond dwi'n mwynhau gweithio'n galed iawn. Dwi wedi gwneud llawer o rolau bach, ond maen nhw i gyd yn brofiad. Ti jest angen cymryd y cam cynta', wedyn ochr-gamu ychydig a mynd am gyfleoedd gwahanol sydd i'r cyfeiriad cywir, sy'n dy wthio tuag at dy uchelgais."

Lauren SmithFfynhonnell y llun, Lauren Smith

Yn anffodus, fel mae Lauren wedi ei ddysgu, unwaith ti mewn swydd, does yna ddim sicrwydd y byddi di yn y swydd honno am byth. Collodd Lauren "swydd anhygoel" fel gohebydd maes mewn rasys beicio i lawr allt gyda Red Bull.

Mae hynny wedi gwneud iddi sylweddoli efallai fod angen sicrhau fod arian yn dod o rywle arall hefyd, nid o ddarlledu yn unig.

"'Nes i fyw'r freuddwyd yna am dair blynedd, yn teithio'r byd gyda thîm gwych. Ac yn dilyn penderfyniad gan rywun yn y top, collodd pawb eu swydd.

"A doedd gen i ddim cynllun, achos ro'n i'n meddwl fod hyn am bara'.

"Dyna pryd 'nes i sylweddoli pa mor anwadal mae'n gallu bod. 'Naeth o wir agor fy llygaid i am glymu fy hunaniaeth i fy swydd."

O ganlyniad, mae Lauren, sy'n byw ym Mhontyclun yn Rhondda Cynon Taf, hefyd yn cyd-berchen ar ddwy gampfa ac asiantaeth dalent ar gyfer athletwyr proffesiynol.

Lauren SmithFfynhonnell y llun, Lauren Smith

Yn rhan o'r gymuned ffitrwydd

Ond wrth gwrs, darlledu ar chwaraeon yw'r prif nod o hyd, a'r hyn sy'n mynd â rhan fwyaf o amser Lauren y dyddiau yma, yw ffitrwydd cystadleuol.

Mae hi wedi gwneud CrossFit ei hun ers blynyddoedd. Yn gynnar yn ei gyrfa, penderfynodd ddechrau podlediad am y gamp er mwyn mireinio ei sgiliau darlledu. A hithau'n gyfarwydd iawn â'r byd hwnnw, roedd hi'n teimlo ei bod yn fwy naturiol wrth ei drafod nag oedd hi wrth siarad am gampau eraill, fel rygbi.

Lauren SmithFfynhonnell y llun, Lauren Smith

O ganlyniad i'r podlediad, cafodd wahoddiad i ddarlledu ar gystadleuaeth CrossFit fawr yn Llundain, "ac unwaith ti dros y trothwy," eglurodd, "ti'n cael dy wahodd yn ôl, ac wedyn yn gallu bownsio i wahanol swyddi".

Mae Lauren bellach yn darlledu ar gystadlaethau Hyrox.

"Mae o am wylio'r athletwyr elite 'ma yn perfformio ar y lefel uchaf, ond y tu ôl i hynny mae'r person cyffredin yn mynd i'r gampfa. Galli di uniaethu a dwi'n caru hynny. Efallai fod Annie Thorisdottir yn codi 100kg dros ei phen, a finnau ond yn codi 40kg, ond mae'r symudiad – a'r blinder ti'n ei deimlo – yr un fath.

Lauren SmithFfynhonnell y llun, Lauren Smith

"Mae darlledu chwaraeon yn gystadleuol iawn, felly maen rhaid i ti fod yn ei wylio a'i wneud o hyd, a bod yng nghanol y byd rwyt ti'n gweithio ynddo.

"Dwi wedi bod yn rhan o'r gymuned ffitrwydd am hir, felly mae'n dod yn naturiol i mi siarad amdano. Ges i erioed y teimlad yma gyda darlledu rygbi, achos doedd gen i ddim wir y ddealltwriaeth clir o beth mae'r chwaraewyr yn mynd drwyddo ar y cae.

"Ti'n gallu adrodd stori, pan ti wir yn dod i 'nabod y bobl, eu bywydau, a be' sy'n digwydd yn y cefndir. Straeon am bobl sy'n bwysig – a dwi'n meddwl fod hynny'n gwneud darllediadau gwell."

Lauren SmithFfynhonnell y llun, Lauren Smith

'Lwcus, ond mae'n waith caled'

Ynghyd â chyfleoedd i deithio o amgylch y byd yn darlledu ar gampau mae hi'n eu caru, mae Lauren hefyd wedi cael bod yn dyst i fomentau bythgofiadwy, meddai, fel James Sprague (sydd â'r teitl Fittest Man on Earth) yn ennill ei wobr gyntaf, neu weld stadiwm Eden Park, Auckland yn llawn cefnogwyr ar gyfer gêm derfynol Cwpan Rygbi Merched y Byd yn Seland Newydd.

"Dwi wedi bod wir yn lwcus – mae bendant yn waith caled, ond dwi wedi bod yn lwcus iawn.

Lauren SmithFfynhonnell y llun, Lauren Smith

"Ti'n gweld recordiau yn cael eu torri, athletwyr oedd ddim yn meddwl ei bod hi'n bosib yn sefyll ar y podiwm. Dwi wedi tyfu ochr-yn-ochr â rhai o'r athlewyr yma, a dwi wedi cael gweld eu datblygiad a'u gweld yn gwireddu eu breuddwydion.

"Mae mor anhygoel – a dwi'n mynd yn emosiynol iawn. Alla i ddim gofyn am fwy o'r yrfa yma – a gobeithio fydda i yma am ychydig mwy o flynyddoedd!

Yn sicr, mae gan Lauren ychydig o fisoedd prysur o'i blaen. Bydd hi'n mynd i Budapest wrth i'r tymor Hyrox elite ailddechrau ddiwedd Hydref, i'r Alban ar gyfer un o gystadlaethau mwya'r calendr CrossFit rhyngwladol, wedyn i Hamburg ar gyfer y gyntaf o ras Elite 15 Hyrox.

Lauren SmithFfynhonnell y llun, Lauren Smith

Ac mae calendr flwyddyn nesa' yn llenwi hefyd, gyda theithiau i Bangkok, Las Vegas, Awstralia a mwy eisoes wedi eu trefnu.

O deithio'r byd, i ddarlledu ar rai o'i hoff gampau, mae Lauren wrth ei bodd a'i swydd, ond oes yna un digwyddiad yr hoffai ddarlledu arno rhyw ddiwrnod tybed?

"'Swn i wrth fy modd cael Hyrox yn y Gemau Olympaidd, sy'n rhywbeth maen nhw'n trio'i wneud.

"Byddai'n wych gallu gweithio ar gamp dwi wir yn ei garu yn y Gemau, a gweld ffrindiau ac athlewyr dwi'n gweithio gyda nhw yn dod yn bencampwyr Olympaidd. Byddai hynny'n cŵl iawn."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig