Sut i redeg (a thorri recordiau) fel Angharad Mair

Angharad Mair gyda'i medal ar ôl torri record hanner marathon Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Dydd Sul 4 Hydref, roedd 29,000 person dewr yn rhedeg hanner marathon Caerdydd.
Un o'r rheiny oedd y cyflwynydd, Angharad Mair, a lwyddodd i dorri record Prydeinig i ferched dros 65 oed, gan redeg y cwrs mewn 1:26:04.
"I unrhyw un sy'n rhedeg, byddan nhw'n gwybod, os chi'n mynd ychydig eiliadau dros y funud, chi'n cicio eich hunain!" eglurodd Angharad ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru.
"Mae rhywun yn rhedeg mor gyflym â maen nhw'n gallu ac yn trio rhedeg y ras orau maen nhw'n gallu, ac wedyn wrth gwrs yn gallu teimlo, ble gollais i'r eiliadau?!
"Ond fi'n gorfod bod yn hapus efo sut aeth y ras ddoe. Hanner Marathon Caerdydd yw un o'r goreuon a chi'n rhan o rywbeth arbennig iawn."
Caniatáu cynnwys Instagram?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Instagram. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Instagram Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.‘derbyn a pharhau’.
Dydy Angharad ddim yn newydd i dorri recordiau rhedeg wrth gwrs; torrodd record ym Marathon Llundain yn 2016 i redwyr benywaidd dros 55, a churo'r amser yn hanner marathon Casnewydd ym mis Mawrth 2023 i ferched dros 60, gan wedyn dorri ei record ei hun ychydig wythnosau yn ddiweddarach.
Er ei bod hi ddim o reidrwydd wedi dechrau'r ras yng Nghaerdydd gyda'r bwriad o dorri record, roedd hi'n ymwybodol o'r amser y byddai'n rhaid iddi ei guro, oherwydd ei bod hi'n gwybod mai rhedwraig o ogledd Lloegr, Treena Johnson, oedd yn dal y record.
"Mae hi a fi wedi bod yn cystadlu yn erbyn ein gilydd ers blynyddoedd," eglurodd. "Pan 'nes i dorri record marathon Llundain, 'nath hi dorri'n un i.
"'Nath hi dorri record Prydain bythefnos yn ôl, 'nath hi redeg rhywbeth fel 1:28:01.

Angharad pan dorrodd record Ewrop ym Marathon Llundain i ferched dros 55 oed gydag amser o 2:57:53
"Mae 'na ferch arall o'r enw Fiona Matherson o'r Alban, ac mae hi'n gwneud yn ardderchog. Wythnos cyn ei phen-blwydd hi [yn 65], 'nath hi redeg rhywbeth fel 1:26:26; os yw hi'n gallu gwneud hynny wythnos cyn ei phen-blwydd, mae hi'n gallu gwneud hynny wedyn hefyd.
"Beth fyddai'n synnu pobl, waeth beth yw eich hoedran chi, chi dal yn weddol gystadleuol, yn edrych i weld pwy sy'n rhedeg beth. Mae rhywbeth eitha braf bod yn rhan o glwb rhedeg lle dwi'n gwybod dwi'n cadw golwg arnyn nhw ac maen nhw'n cadw golwg arna i hefyd."
Pam fod y corff yn cwyno ar y dechrau?
A hithau wedi bod yn rhedeg ers blynyddoedd bellach, mae'n siŵr y byddech chi'n tybio fod Angharad yn rhedeg yn rhwydd bob tro a'i chorff byth yn cwyno. Ond mae ymchwil diweddar yn profi fod rheswm ffisegol dros pam fod y corff yn tueddu i 'sgrechian' yn fewnol pan ydych chi'n dechrau rhedeg.
Y gwir amdani yw fod y corff yn brwydro gyda'i hun, ac mae Angharad bendant yn profi hyn pan mae hi'n rhedeg, meddai.
"O'n i'n ffeindio'r erthygl mor ddiddorol, achos mae'n effeithio pawb, o bobl sy'n dechrau i redwyr elite.
"Pan chi'n mynd mas i redeg, mae 'na sgwrs yn digwydd rhwng eich cyhyrau chi a'r system anadlu – mae'r cyhyrau'n dweud eu bod nhw angen egni, a'r ysgyfaint a'r galon yn dweud 'rho siawns i ni'.
"Felly mae'r galon yn gweithio'n galetach i gael mwy o ocsigen i'r gwaed a'r cyhyrau. Dyna pam, pan chi'n dechrau rhedeg, mae'n cymryd rhyw 10-15 munud i'r corff fynd mewn i sync – mae'r anadlu'n mynd yn haws, mae'r galon yn setlo a'r cyhyrau'n hapus."
"I unrhyw un sy’n rhedeg, byddan nhw’n gwybod, os chi’n mynd ychydig eiliadau dros y funud, chi’n cicio eich hunain! "
Angharad Mair yn siarad ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru
I bobl sydd yn dechrau rhedeg am y tro cyntaf, mae'r broses yma yn gallu eu digalonni, gan wneud iddyn nhw boeni eu bod nhw ddim ddigon ffit. Ond mae o'n rhywbeth sydd tu hwnt i'n rheolaeth ni, meddai Angharad, felly mae'n rhaid rhedeg yn gall.
"Os ewch chi'n rhy gyflym yn y filltir gynta' pan mae'r cyhyrau'n brwydro'n erbyn y galon a'r ysgyfaint, mae asid lactig yn cynyddu'n y corff, a 'newch chi ffeindio fod eich run i gyd ar chwâl.
"Mae'n wers i bawb. Y corff yw e, yn dweud wrth yr ymennydd bod rhaid mynd yn araf ar y dechrau. Wedyn 'newch chi setlo mewn, a falle hyd yn oed ei fwynhau e!"
Felly beth yw cyngor Angharad?
Cyn ras, gwneud ychydig bach o redeg, dim ond rhyw bum munud, i rybuddio'r corff
Peidiwch â mynd yn rhy gyflym ar y dechrau (sydd yn anodd mewn ras gyda miloedd o bobl o'ch cwmpas!)
Os yn dechrau rhedeg am y tro cyntaf, cerdded ychydig, wedyn loncian, wedyn cerdded, ayyb
Dechrau'n hamddenol, neu ewch chi mas o bwff, ewch chi'n goch, ac ewch chi fyth mas eto!
Ewch amdani flwyddyn nesa'!
Mae'r balot i gymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd 2027 nawr ar agor, a gyda bron i 30,000 o bobl wedi cymryd rhan eleni, mae'r ras yn mynd o nerth i nerth ac yn boblogaidd ymhlith rhai o redwyr gorau'r byd.
Mae Angharad yn annog unrhyw un a gafodd ei ysbrydoli gan y ras i fynd amdani, gan ganmol yr awyrgylch wych o amgylch y brifddinas.
"Mae miloedd o bobl mas ar y cwrs yn cefnogi, felly mae hwnna'n gwneud y ras yn arbennig iawn. A'r ffordd mae'r cwbl wedi cael ei drefnu, a'r anthem genedlaethol ar ddechrau'r ras yn ychwanegu at y naws.

Roedd 29,000 o bobl yn rhedeg strydoedd Caerdydd ddydd Sul 4 Hydref, ac mae'r balot ar gyfer ras 2027 ar agor
"Mae Hanner Marathon Caerdydd hefyd yn un o'r Super Halves, gyda Lisbon, Prague, Berlin, Copehagen a Valencia. Chi'n cael 36 mis i redeg pob hanner marathon yn y dinasoedd hynny, ac wedyn chi'n cael medal aur arbennig iawn.
"Roedd rhywun i'r chwith ohona i ddoe, o Ffrainc, yn gwneud y Super Halves, ac i'r dde oedd rhywun o'r Iseldiroedd oedd ar ei Super Half ola' fe. Ac o'dd e'n meddwl mai Caerdydd oedd y ddinas orau oedd e wedi bod iddi erioed.
"Roedd 7,000 o redwyr ddoe o dramor, sydd jest yn dangos fel mae digwyddiadau fel ddoe yn gwneud gymaint ar gyfer y ddinas, a'i rhoi hi ar y map."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd3 Ebrill 2023

- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl

- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2025
