Lluniau Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2026

Dafydd OwainFfynhonnell y llun, Gwobr Gerddoriaeth Gymreig
Disgrifiad o’r llun,

Dafydd Owain gyda'i wobr tu allan i Ganolfan y Mileniwm

GanIwan Arwel
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Wedi noson lwyddiannus a lliwgar yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd, Dafydd Owain ddaeth i'r brig yn seremoni Gwobr Gerddoriaeth Gymreig eleni.

Roedd y noson yn cael ei harwain gan y DJ o Gaernarfon sydd bellach yn cyflwyno ar BBC Radio 1, Sian Eleri.

Ar ôl derbyn ei wobr, dywedodd Dafydd Owain wrth BBC Cymru Fyw fod yr "holl beth 'chydig o blurr'.

"Ond dwi'n meddwl bod hynna'n ok achos dwi'n siŵr y daw 'na deimlada' anhygoel i'r syrffes yn fuan iawn."

Dyma luniau o'r noson yng Nghaerdydd.

Huw StephensFfynhonnell y llun, Gwobr Gerddoriaeth Gymreig
Disgrifiad o’r llun,

Huw Stephens yn siarad o'r llwyfan

Sian Eleri
Disgrifiad o’r llun,

Sian Eleri oedd yn cyflwyno'r noson

Dafydd OwainFfynhonnell y llun, Gwobr Gerddoriaeth Gymreig
Disgrifiad o’r llun,

Dafydd Owain a'i fand yn paratoi i berfformio

MwsogFfynhonnell y llun, Gwobr Gerddoriaeth Gymreig
Disgrifiad o’r llun,

Y band Mwsog gyda'u dillad trawiadol

CynulleidfaFfynhonnell y llun, Gwobr Gerddoriaeth Gymreig
Disgrifiad o’r llun,

Y gynulleidfa'n mwynhau'r gerddoriaeth fyw

LocalFfynhonnell y llun, Gwobr Gerddoriaeth Gymreig
Disgrifiad o’r llun,

Local yw seren rap newydd o Gaerdydd wnaeth gyrraedd y rhestr fer am y tro cyntaf

Gwenifer RaymondFfynhonnell y llun, Gwobr Gerddoriaeth Gymreig
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd y gitarydd Gwenifer Raymond ei henwebu eleni gyda Last Night I Heard the Dog Star Bark hefyd yn 2021 gyda Strange Lights Over Garth

Gwobr Ysbrydoliaeth Gerddoriaeth GymreigFfynhonnell y llun, Gwobr Gerddoriaeth Gymreig
Disgrifiad o’r llun,

Merch y gantores o Bontardawe, Jessica Lee Morgan, wnaeth dderbyn y Wobr Ysbrydoliaeth Cerddoriaeth Gymreig ar ran Mary Hopkin

Papaya NoonFfynhonnell y llun, Gwobr Gerddoriaeth Gymreig
Disgrifiad o’r llun,

Papaya Noon yn perfformio ar y llwyfan

BetsanFfynhonnell y llun, Gwobr Gerddoriaeth Gymreig
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y gantores Betsan ymhlith enillwyr wobr flynyddol ar gyfer talentau newydd mwyaf cyffrous Cymru

BetsanFfynhonnell y llun, Gwobr Gerddoriaeth Gymreig
Disgrifiad o’r llun,

Betsan yn perfformio

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig