Dyn, 92, wedi marw ar ôl mynd yn sownd mewn weiren bigog ar fynydd

Roedd Mr Kitts wedi mynd i gerdded ar Fynydd Maerdy ar y diwrnod yr aeth ar goll
- Cyhoeddwyd
Bu farw dyn 92 oed gyda dementia ar ôl mynd yn sownd mewn weiren bigog tra allan yn cerdded, mae cwest wedi clywed.
Fe gysylltodd teulu Malcolm Kitts o Gwmdâr â'r heddlu wedi iddo beidio â dychwelyd adref ar ôl mynd am dro ar 21 Medi.
Clywodd y cwest ym Mhontypridd iddo gael ei ddarganfod gan yr heddlu ar fynydd Maerdy.
Roedd ei goes wedi mynd yn sownd mewn ffens gyda weiren bigog arni, ac roedd ganddo hypothermia.
Cafodd Mr Kitts ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru ond bu farw ar 1 Hydref.
Mae'r cwest wedi ei ohirio ac nid oes dyddiad wedi ei bennu ar gyfer y gwrandawiad nesaf.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.