Rhybudd pysgotwyr cwrwgl y Tywi am ddiwedd traddodiad am fod yr 'afon wedi marw'

Leighton Morgans mewn crys polo glas tywyll a jeans glas golau. Yn sefyll gyda chwrwgl; cwch bach crwn ar ei gefn yn sefyll ar lan yr afon Tywi.
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Leighton Morgans, mae niferoedd y pysgod yn "gwaethygu bob blwyddyn"

GanSara Dafydd
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae'n draddodiad sy'n dyddio'n ôl canrifoedd yng ngorllewin Cymru, ond mae pysgotwyr cwrwgl ar Afon Tywi yn Sir Gaerfyrddin yn dweud bod "dim pysgod" ar ôl oherwydd effaith llygredd.

Mae profion gan ymgyrchwyr lleol, Achub y Tywi, yn dangos tystiolaeth o lygredd diwydiannol, amaethyddol ac o wastraff dynol.

Disgrifiodd un pysgotwr y tymor diwethaf fel un "anhygoel o wael" wrth iddo ddal hyd at bum pysgodyn yn unig.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn dweud bod adroddiadau diweddar wedi cael eu "hasesu ac yn rhan o'n hymchwiliadau parhaus".

Pysgodyn arian wedi marw mewn dŵr budr.Ffynhonnell y llun, Ben James
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai wedi rhannu lluniau o bysgod wedi marw ar yr afon ar-lein

Mae Leighton Morgans wedi bod yn pysgota mewn cwrwgl ar y Tywi am saith mlynedd.

Wrth siarad gyda BBC Cymru fe wrthododd cais i fynd ar y dŵr yn ei gwrwgl oherwydd y llygredd presennol.

Dywedodd ei fod yn gweld y "pethau rhyfedda" wrth bysgota yno gyda'r nos.

"Ni wedi gweld pysgod wedi marw ar yr afon, chi'n gallu gweld staens o le mae'r llygredd wedi dod, chi'n gallu actually gweld e'n cael ei bwmpio mewn i'r afon. Dyw e ddim yn beth neis o gwbl," meddai.

'Yr afon wedi marw'

Eglurodd ei fod wedi dal pedwar neu bum pysgodyn trwy'r tymor pysgota - sy'n para rhwng mis Mai a Gorffennaf.

"Mae'n gwaethygu bob blwyddyn. I fi mae'r afon wedi marw."

Ychwanegodd fod y drewdod sy'n dod o'r Afon Tywi yn "ofnadwy".

"Mae'n rhoi pennau tost i chi a neud chi deimlo'n sâl. Fydden i ddim moyn disgrifio i chi y pethau ni wedi gweld yn mynd lawr yr afon."

Beth yw cwrwgl?

Mae'r traddodiad o bysgota â chwrwgl wedi bod yn rhan o fywyd ar Afon Tywi ers canrifoedd.

Yn nodweddiadol, mae pysgotwyr yn pysgota gyda'r nos gan ddefnyddio cychod crwn bach a rhwydi wedi'u gosod rhyngddynt i ddal eog a sewin.

Ar un adeg, roedd yn ffordd bwysig o ennill bywoliaeth yng ngorllewin Cymru, ond erbyn hyn mae'n draddodiad sy'n ymwneud â threftadaeth yn bennaf, yn hytrach na ffynhonnell incwm llawn amser.

Roedd yr arlywydd Jimmy Carter hyd yn oed yn mwynhau pysgota ar hyd afonydd gorllewin Cymru, ond erbyn heddiw mae pysgotwyr yn dweud ei fod yn amhosib.

Tri dyn yn sefyll ar lan yr afon Tywi gyda chwrwglau ar eu cefnau.Ffynhonnell y llun, Keith Elias
Disgrifiad o’r llun,

Dyma tair allan o bum cenhedlaeth o deulu Keith Elias sydd wedi pysgota â chwrwgl

Mae teulu Keith Elias wedi bod yn pysgota ar yr afon ers 300 mlynedd – dywedodd ei fod ond wedi dal un pysgodyn y tymor yma.

"Mae wedi bod yn rhan o fy nheulu ers cyhyd; rwy'n dwlu cynnal y traddodiad, ond mae pethau'n cyrraedd y pwynt lle rydych chi'n cyrraedd diwedd y tymor heb ddal pysgod. Dydych chi ddim eisiau mynd."

Er i Leighton Morgans a physgotwyr eraill adrodd achosion o lygredd "o hyd" i Gyfoeth Naturiol Cymru, maen nhw o'r farn nad oes digon o weithredu gan y corff.

"Does neb moyn neud unrhyw beth ambyti fe, a dyna'r broblem sy' 'da ni. Does dim ots sawl gwaith ni'n riportio fe i unrhyw un, dydyn nhw ddim yn gwneud digon i safio'r afon."

Yn draddodiad hynafol yn yr ardal, mae Leighton yn poeni y bydd cyflwr yr afon yn golygu bod pysgota â chwrwgl yn dod i ben.

"Mae'n hala' fi'n drist. Mae mab a merch 'da fi ac mae diddordeb 'da nhw i ddod mas i neud hwn ar ôl fy amser i, ond fel ma' fe nawr fi'n credu ma' fe wedi beni. Does dim byd iddyn nhw edrych 'mlaen i. Fi'n gweld bod y traddodiad wedi mynd."

sylwedd melyn ar hyd yr afon Tywi. Ffynhonnell y llun, Ben James
Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl wedi cwyno am sylwedd melyn ar hyd yr afon

Dywedodd Dŵr Cymru, sydd â phibellau ar hyd yr afon, eu bod yn "buddsoddi £2.5 biliwn mewn prosiectau amgylcheddol rhwng 2025 a 2030... mae hyn yn cynnwys £889 miliwn ar orlifoedd stormydd – gyda chwe phrosiect i leihau eu heffaith ar Afon Tywi."

"Rydym yn benderfynol o chwarae ein rhan i wella ansawdd dŵr Afon Tywi, ond nid mater i gwmnïau dŵr yn unig yw hyn; mae angen cydweithio ar draws sectorau, gan gynnwys diwydiant ac amaethyddiaeth, er mwyn sicrhau gwelliannau."

Mae pobl leol hefyd wedi rhannu fideos ar-lein o wastraff yn cael ei ollwng i'r afon, a'n ymddangos i fod yn honni ei fod yn dod o Mekatek, cwmni ailgylchu electroneg gyfagos. Mae gan y cwmni drwydded ollwng gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mewn ymateb, dywedodd y cwmni eu bod yn "rhannu pryderon y cyhoedd ynghylch y gostyngiad yn niferoedd y sewin yn Afon Tywi. Rydym wedi treulio dros 40 mlynedd yn datblygu ac yn gwella ein prosesau i sicrhau nad ydym yn ffactor yn y gostyngiad hwnnw".

"Mae croeso mawr i unrhyw un sydd am ddeall beth rydym yn ei wneud drefnu ymweliad â'r safle i weld ein gweithrediadau drostynt eu hunain."

Beth sy'n achosi'r llygredd?

Mae'r grŵp Achub y Tywi wedi cynnal profion ar y dŵr dros y flwyddyn ddiwethaf, maen nhw'n honni ei fod yn gymysgedd o lygredd amaethyddol, diwydiannol ond hefyd gwastraff dynol.

Yn ôl yr aelod seneddol dros Gaerfyrddin, Ann Davies, mae angen i Gyfoeth Naturiol Cymru fod "yn llawer mwy cadarn" yn erbyn cwmnïoedd sy'n "llygru ar bwrpas."

"Oedd e'n siomedig iawn i weld llygredd yn dod o wahanol lefydd ar hyd y Tywi, yn enwedig o Gaerfyrddin lawr. Mae 'na drwyddedi gan rai cwmnïoedd i adael peth gwastraff mewn ond mae eisiau gwneud yn siŵr taw dyna'i gyd maen nhw'n gadael mewn a dim byd ychwanegol."

"Mae 'na gyfrifoldeb arnom ni gyd, nid jest y busnesau yna. Ni fel amaethwyr, dwi'n amaethu'n hunan, mae 'na gyfrifoldeb ar y deunyddiau ni'n defnyddio o fewn ein cartrefi.

"Mae 'na overflows gyda Dŵr Cymru ar hyd Afon Tywi, a phob afon arall. Dwi ddim yn dweud taw bai Dŵr Cymru yw hyn, na bai ffermwyr, dwi ddim yn dweud taw bai ni yw e, nag unrhyw gwmni arall ar hyd yr afon. Ond mae'n gyfrifoldeb arnom ni i gyd."

CNC 'yn ymchwilio i bob adroddiad'

Dywedodd Huwel Manley, pennaeth gweithrediadau'r de-orllewin Cyfoeth Naturiol Cymru: "Fel llawer o afonydd, mae afon Tywi yn wynebu amrywiaeth o bwysau amgylcheddol, gan gynnwys llygredd.

"Mae hefyd yn cael ei heffeithio gan y tywydd sych sydd wedi achosi cynnydd yn nhymheredd y dŵr a heriau ecolegol ehangach."

"Rydym yn cymryd pob adroddiad am lygredd o ddifrif.

"Byddwn yn asesu ac yn ymchwilio i bob adroddiad a dderbyniwn yn unol â'n gweithdrefnau rheoleiddio... Ar hyn o bryd mae gennym nifer o ymchwiliadau gorfodi a chydymffurfio yn mynd rhagddynt o fewn dalgylch Tywi - gan gynnwys materion a fydd yn mynd ymlaen at achosion llys."

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod amddiffyn ac adfer afonydd yn flaenoriaeth iddyn nhw, a'u bod yn "cydnabod cryfder y teimladau yn Sir Gaerfyrddin ynghylch cyflwr Afon Tywi".

"Mae Cyfoeth Naturiol Cymru a'n partneriaid yn parhau i ystyried pob digwyddiad a adroddwyd, ac yn ymchwilio i ffynhonnell wahanol bosib i lygredd sy'n mynd i mewn i'r Afon Tywi," meddai llefarydd.