Cerddoriaeth - a phaned o de - yn uno diwylliannau Cymraeg ac Arabaidd

- Cyhoeddwyd
Mae'r band Panedeni, yn rhoi blas o'r Dwyrain Canol i gynulleidfaoedd eu cyngherddau drwy blethu diwylliannau Arabaidd a Chymreig.
O dan arweinad y gyfansoddwraig Yasmine Latkowski, mae'r cerddorion o'r gogledd ddwyrain yn canu'n Gymraeg i rhythmau Eifftaidd, yn chwarae alawon mewn steil Twrcaidd ar offerynnau Cymreig, ac yn mwynhau arbrofi gyda chyfuno seiniau cyfarwydd ac anghyfarwydd fel ei gilydd.
Hunaniaeth a cherddoriaeth Arabaidd
Yn wreddiol o Sir Lincoln, symudodd Yasmine i Wrecsam bum mlynedd yn ôl. Mae hi o dras ddeuol – Prydeinig a Yemenaidd – ond dim ond yn ei hugeiniau canol y dechreuodd ddysgu mwy am gerddoriaeth Arabaidd, meddai, er ei fod yn rhan o'i threftadaeth.
"Dwi wedi sylwi hyn am gantorion eraill dwi'n eu 'nabod sy'n hanner Eifftaidd. Mae'n rhannol i'w wneud â hunaniaeth; dwi'n meddwl fod llawer o bobl ddim yn edrych ar ran arall eu hunaniaeth tan maen nhw ychydig hŷn. Mae'n gyffredin iawn – a dwi'n ei weld o yma; pobl sydd ond yn penderfynu yn eu 20au neu 30au eu bod nhw am ddysgu Cymraeg.
"Yr amser yma 'nes i ddechrau dod o hyd i fy llais cyfansoddi, felly o bosib yr oed yna ti wir yn dechrau dod i 'nabod dy hun ychydig mwy."
Rheswm arall, ydy fod cerddoriaeth Arabaidd ddim yn cael ei annog mewn sefydliadau addysg yn y Deyrnas Unedig, meddai, a "ddim yn cael ei ddysgu yn dda iawn".
Roedd hyn yn rhywbeth y sylweddolodd pan ddechreuodd berfformio mewn sefydliadau cymunedol yn ardal Wrecsam ar ôl y Cyfnod Clo; doedd ganddi hi ddim cyd-berfformwyr na neb oedd yn gyfarwydd â'r math o gerddoriaeth roedd hi'n awyddus i'w pherfformio.

Mae Yasmine hefyd yn cyfansoddi i ffilmiau, teledu a'r theatr
Drwy grant Camau Creadigol gan y Cyngor Celfyddydau, dechreuodd gydweithio gyda cherddorion sy'n arbenigo mewn cerddoriaeth Arabaidd.
Dyma a arweiniodd y ffordd iddi allu sefydlu Panedeni ddwy flynedd yn ôl.
Paned i uno diwylliannau
Daw'r enw, Panedeni, o 'paned' Cymraeg a the Adeni o Yemen, sydd yn adlewyrchiad perffaith o blethiad dau ddiwylliant, eglura Yasmine.
"'Paned o de a rhoi'r byd yn ei le'... Mae hynny hefyd yn bwysig yn y Dwyrain Canol a'r rhanbarthau Arabaidd, sydd wir yn arwydd o gymuned a bod gyda'ch gilydd. Dwi'n hoffi'r dywediad yna, achos dwi'n teimlo fel mai dyna 'da ni'n ei wneud efo Panedeni."
Mae Yasmine yn mwynhau creu cysylltiad rhwng Cymru â'r Dwyrain Canol, ynghyd ag addysgu'r gynulleidfa am ddiwylliannau a thraddodiadau cerddorol gwahanol.
Mae aelodau'r band yn gerddorion sy'n dod ag ystod eang o brofiad o ddiwylliannau gwahanol - pibau Cymreig, clarinet klezmer, gitâr, drwm darbuka Eiftaidd, feiolin, oud. Mae artistiaid gwadd o amryw ddiwylliannau hefyd yn perfformio gyda'r criw.
Mae'r rhan fwyaf o ganeuon y band wedi eu hysbrydoli gan gerddoriaeth werin Arabaidd a Chymreig, ond mae traddodiadau eraill yn cael eu cynrychioli a'u cyfuno ar EP cyntaf y band, Atamanaa, hefyd, meddai.
"Ar yr EP, 'naethon ni alaw werin o Bosnia, wedi ei ddylanwadu gan steil Dwrcaidd, gyda phibau Cymreig, ac fel cyfeiliant i gân Gymraeg, mae rhythmau traddodiaol Eifftaidd.
"Ysgrifennodd Ayoub Boukhalfa y geiriau ar gyfer y gân Atamanaa; mae o'n dod o Morocco felly mae blas Eifftaidd ar y gân, ond mae hefyd yn ei steil ei hun, sy'n hyfryd.
Caniatáu cynnwys Instagram?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Instagram. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Instagram Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.‘derbyn a pharhau’.
"'Dan ni wedi aildrefnu caneuon traddodiadol ar yr EP i swnio'n wahanol iawn. Ar Beth yw'r Haf i mi, 'nes i weithio gyda Emad El Rashidi sy'n ganwr oedd yn arfer gweithio yn Nhŷ Opera Cairo, a ymgynghorodd ar y steil Saidi Eifftaidd, sy'n defnyddio'r offeryn mizmar.
"Ro'n i eisiau defnyddio pibau Cymreig a gweld sut oedd hynny'n gweithio; roedd o braidd yn anodd achos y scale maqam yng ngherddoriaeth draddodiadol yr Aifft, ond 'naethon ni o!
"Dwi'n arbrofi – dyna dwi'n ei wneud fel cyfansoddwr. Roedd cyfuno'r ddau fath o bibau yn gwneud synnwyr i mi.
"Mae hefyd elfen hanesyddol, o ran y pethau oedd yn arfer cael eu chwarae ar ein hofferynnau, amser maith yn ôl – daeth y gitâr o'r byd Arabaidd drwy Sbaen i fama, felly mae hynny yn fy ysbrydoli i."
Cyfuno cerddoriaeth a phrofiadau
Mae'r criw newydd orffen taith ledled Cymru i hyrwyddo'r EP Atamanaa, ac wedi cael ymateb hyfryd gan eu cynulleidfaoedd, eglurai Yasmine.
"Mae 'na deimlad o nostaljia i rai aelodau'r gynulleidfa, achos dydyn nhw ddim yn clywed y synau Arabaidd rhyw lawer yng Nghymru.
"Pan 'da ni'n cyflwyno'r caneuon ac yn egluro'r stori, mae hynny'n gweithio'n dda, achos mae pobl yn tueddu i gysylltu efo'u diwylliant eu hunain. Dwi'n siarad am hiraeth ac mae 'na gân benodol Arabeg 'dan ni'n ei chanu sydd am ddadleoli a hiraeth – mae 'na gysylltiad yn dod efo'r gynulleidfa."
Â'r record gyntaf wedi ei rhyddhau, y gobaith nawr yw parhau â mwy o recordio, cydweithio ac arbrofi, meddai Yasmine sydd yn synnu gyda llwyddiant diweddar y band.
"O'n i ddim yn gwybod ei fod o am dyfu i mewn i hyn pan 'nes i ddechrau.
"Mae'n siŵr fod hwn yn llenwi bwlch nad oedd angen ei llenwi! Mae 'na grwpiau eraill yng Nghymru sy'n cyfuno cerddoriaeth diwylliannau gwahanol – 'World Music Fusion', am wn i. Ond dwi ddim yn meddwl fod yna lawer yn gwneud gyda cherddoriaeth Arabaidd.

Ar ôl taith ledled Cymru dros yr haf, mae Panedeni yn edrych ymlaen at fwy o recordio a pherfformio
"Fel cyfansoddwr, mae'n braf cael bod gyda cherddorion eraill ar y llwyfan. O'n i'n arfer perfformio fy ngherddoriaeth ar fy mhen fy hun, a do'n i ddim wir yn mwynhau. Ond i mi, mae o wir am y cydweithio; dyna sy'n gyffrous.
"Dwi wastad yn edrych am bobl sy'n gweithio gyda cherddoriaeth Arabaidd yn y Deyrnas Unedig, a rhoi llwyfan i enwau newydd. Ond does 'na ddim llawer ohonyn nhw; mae nifer o'r athrawon yn hen, a does yna ddim llawer o bobl newydd yn ei bigo fyny.
"Dwi eisiau pobl sydd eisiau cyfansoddi ac arbrofi hefyd, a dysgu am yr ochr Gymreig. A dwi wastad yn trio dysgu am steiliau gwerin newydd y medra i eu cynnwys. Dydy o ddim jyst am yr iaith – mae 'na hanes, offerynnau, traddodiad y gallwn ni edrych arno."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd16 Medi

- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf

- Cyhoeddwyd29 Mai
