Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddio ar ôl canfod corff mewn fan ar dân

Cafodd y corff ei ganfod mewn fan ar dân yn ardal Gas Works Lane ym Mhrestatyn
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 38 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio wedi i gorff gael ei ganfod mewn fan yn Sir Ddinbych.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Gas Works Lane ym Mhrestatyn tua 23:30 nos Sul, yn dilyn adroddiad bod fan ar dân.
Wrth gadarnhau yn gynharach ddydd Llun bod ymchwiliad llofruddiaeth ar droed, dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod corff wedi ei ganfod yn y fan.
"Mae ein hymchwiliad yn dal yn y cyfnod cychwynnol ac rydym eto i adnabod y person, yn anffodus, a fu farw," dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Zoie Dunkerley mewn datganiad ddiwedd y prynhawn.
"Bydd ymholiadau'n parhau dros y dyddiau nesaf a bydd yna bresenoldeb heddlu fwy amlwg yn yr ardal."

Cerbydau a swyddogion heddlu yn ardal y llofruddiaeth ym Mhrestatyn yn gynnar ddydd Llun
Yn eu datganiad gwreiddiol, dywedodd y Ditectif Brif Uwch-arolygydd Chris Bell fod swyddogion yn "gweithio'n gyflym i geisio adnabod y person".
Ar ôl adnabod y corff, meddai, "bydd swyddogion arbenigol wedi'u hyfforddi yn cefnogi teulu'r person cyn gynted â phosibl".
Ychwanegodd: "Rydyn ni'n deall y gall y digwyddiad yma achosi pryder yn y gymuned leol a hoffwn roi sicrwydd i'r cyhoedd bod presenoldeb gweladwy gan yr heddlu yn yr ardal.
"Hoffwn apelio ar unrhyw un oedd yn ardal Gas Works Lane ym Mhrestatyn rhwng 22:45 a 23:45 ddoe, a welodd neu glywodd unrhyw beth anarferol, i gysylltu â ni."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.