Goreuon y byd seiclo yng Nghymru ar gyfer y Tour of Britain

Tour of Britain yn Yr WyddgrugFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd torfeydd mawr yn Yr Wyddgrug fore Gwener wrth i'r trydydd cymal ddechrau yno

  • Cyhoeddwyd

Mae rhai o seiclwyr gorau'r byd yn wynebu ffyrdd Cymru am y deuddydd nesaf, wrth i ddau gymal y Tour of Britain gael eu cynnal yma.

Dechreuodd y ras - y fwyaf i fenywod yn y Deyrnas Unedig – yn Cumbria ddydd Mercher, a bydd yn gorffen yn Sir Warwick ddydd Sul.

Mae'r ras yn cael ei chynnal dros bum cymal am y tro cyntaf, gyda dau ohonyn nhw yng Nghymru.

Yn y trydydd cymal ddydd Gwener, mae'r peloton yn teithio 104.7km o'r Wyddgrug i'r Gogarth yn Llandudno.

Dydd Sadwrn fe fyddan nhw'n teithio 138.3km o Lanidloes i'r Gelli Gandryll ar y pedwerydd cymal.

Zoe BackstedtFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Zoe Backstedt yn ystod y Tour de France Femmes eleni

Dyma'r tro cyntaf i'r Wyddgrug gynnal dechrau cymal, a'r tro cyntaf i'r ardal gynnal y ras i fenywod, er bod Sir y Fflint wedi croesawu'r ras i ddynion yn y gorffennol.

Bydd Powys unwaith eto yn croesawu beicwyr i'w ffyrdd ddydd Sadwrn, ar ôl cynnal cymalau o rasys y menywod a'r dynion yn yr ardal ers 2010.

Mae'r rhan o'r ras o Lanidloes i'r Gelli Gandryll yn cynnwys y dringfeydd anoddaf y ras, a'r cyfanswm dringo uchaf o unrhyw gymal - 2,280m.

Achlysur teuluol i Backstedt

I gefnogwyr Cymreig, mae'r ras yn cynnig cyfle i wylio grŵp cryf o feicwyr lleol yn cystadlu ochr yn ochr â rhai o enwau mwyaf y gamp, gan gynnwys yr enillydd yn 2024, a phencampwr y byd ar ddau achlysur, Lotte Kopecky.

Ymhlith y sêr Cymreig mae'r pencampwr Prydeinig Zoe Backstedt, sy'n dechrau'r trydydd cymal yn y 51fed safle - dau funud a 48 eiliad y tu ôl i'r arweinydd Lorena Wiebes.

Mae'r Gymraes 21 oed yn cymryd rhan lai na thair wythnos ar ôl gwneud ei hymddangosiad cyntaf yn y Tour de France Femmes, lle gorffennodd yn 50fed.

Zoe Backstedt (chwith), Magnus Backstedt (canol) a Elynor Backstedt (de)Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd tad Zoe ac Elynor, Magnus Backstedt ras enwog y Paris–Roubaix yn 2004

Bydd rasio ar ffyrdd cartref yn cynnig cyfle cyffrous arall i Backstedt adeiladu ar dymor sydd wedi bod yn llwyddiannus yn barod.

Mae'r seiclwr i dîm Canyon-SRAM wedi ennill teitlau ras ffordd a ras yn erbyn y cloc Prydain, yn ogystal â chymal yn y Tour de Suisse Femmes, ac wedi cadw teitl y Baloise Ladies Tour flwyddyn ar ôl dod yn enillydd ieuengaf y ras.

Mae'r Tour of Britain yn achlysur teuluol iddi.

Mae ganddi gwmni ei chwaer hŷn, Elynor Backstedt, sy'n rasio i UAE Team L'IMAD, gyda'u tad Magnus hefyd yn gyfarwyddwr chwaraeon i dîm Human Powered Health.

Morris yn 10fed

Er gwaethaf damwain ar yr ail gymal, mae Anna Morris o Gaerdydd, sy'n cynrychioli Tîm Prydain Fawr, 20 eiliad y tu ôl i'r arweinydd Wiebes.

Hi yw'r seiclwr o Gymru sydd yn y safle gorau ar ddechrau'r trydydd cymal.

Mae'n gyfle i'r torfeydd weld Morris yn cystadlu ar dir cartref am y tro cyntaf yn dilyn ei llwyddiant diweddar ar y trac yng Ngemau'r Gymanwlad Glasgow, ble enillodd ddwy fedal aur ac un efydd.

Seiclo menywod yn mynd o nerth i nerth

Mae'r Tour of Britain - yr unig ras yn y DU sy'n rhan o'r World Tour seiclo - yn mynd o nerth i nerth.

Mae wedi ymestyn o bedwar diwrnod i bump, gan gyrraedd cydraddoldeb llawn o ran nifer y cymalau â ras y dynion, a chodi proffil seiclo proffesiynol menywod ymhellach.

Dywedodd Lizzy Felton, cydlynydd menywod a merched Beicio Cymru Breeze ar gyfer de-orllewin a gorllewin Cymru, wrth BBC Radio Cymru: "Mae'r ras yn gyfle gwych i ysbrydoli pobl i fynd i'w gwylio ac i ddechrau beicio.

"Mae'r ffordd y mae seiclo menywod wedi tyfu yn wych, a bydd y rasio a welwn ni dros y dyddiau nesaf yng Nghymru yn ardderchog.

"Mae'r mynyddoedd yn hardd. Mae rasys mawr yn dod yma, ac ry'n ni'n paratoi ar gyfer y ras fwyaf yn y byd – mae'r Tour de France yn dod i Gymru y flwyddyn nesaf.

"Mae hwn yn gyfle mor dda i fynd allan a gweld y seiclwyr benywaidd gorau yn y byd yn rasio yng Nghymru."

Diogelwch yn flaenoriaeth wedi marwolaeth Tarling

Diogelwch sydd wedi bod ar flaen meddwl pob seiclwr ers marwolaeth y Cymro Finlay Tarling, 19, yn y Volta a Portugal ddydd Gwener diwethaf.

Bu farw yn dilyn gwrthdrawiad â fan oedd wedi gyrru ar lwybr y ras seiclo yn ystod wythfed cymal y ras ym Mhortiwgal.

Mae'r Tour of Britain yn ddigwyddiad llai yng nghalendr y byd seiclo - yn debyg i'r Volta a Portugal.

Ond mae'r ddau yn defnyddio system "rhwystrau ffordd symudol", lle mae'r heddlu a swyddogion yn teithio o flaen ac y tu ôl i'r peloton.

Mae'r reidwyr bod yn gwisgo bandiau du ar eu breichiau er cof am Tarling, ac fe gafwyd munud o gymeradwyaeth iddo cyn i'r ras ddechrau ddydd Mercher.

Y peloton yn talu teyrnged i Fin Tarling gyda munud o gymeradwyaethFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y peloton yn talu teyrnged i Fin Tarling gyda munud o gymeradwyaeth

Ers marwolaeth Finlay, bu galwadau am well diogelwch yn y gamp, gan gynnwys gan enillydd dau gymal cyntaf y Tour of Britain, Lorena Wiebes o'r Iseldiroedd.

Yn ystod y Tour of Britain, mae ffyrdd yn cael eu cau a'u hagor yn raddol wrth i'r ras symud, gyda stiwardiaid yn rheoli traffig.

Mae'r mesurau hynny eisoes wedi cael eu profi ar ôl i'r seiclwr o Awstralia, Maeve Plouffe, ddweud iddi osgoi cael ei tharo gan gar o drwch blewyn yn ystod y cymal cyntaf.

Yn ystod yr ail gymal, cafodd y ras ei hatal am hanner awr a daeth y peloton i stop yn llwyr yn dilyn adroddiadau bod damwain ffordd ymhellach ymlaen ar y llwybr.

Ni chafodd yr un o'r seiclwyr eu heffeithio gan y ddamwain, a ddigwyddodd ar ran o'r ffordd o flaen y ras.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.