Y beiciwr o Geredigion, Finlay Tarling, wedi marw ar ôl damwain ddifrifol

- Cyhoeddwyd
Mae'r beiciwr 19 oed o Geredigion, Finlay Tarling, wedi marw ar ôl damwain ddifrifol yn ystod wythfed cymal ras y Volta a Portugal.
Roedd Finlay Tarling, o Aberaeron, yn frawd iau i Josh, sy'n beicio i'r tîm Ineos Grenadiers, ac mae wedi cystadlu dros Brydain ar y ffordd ac ar y trac.
Roedd yn cystadlu dros Dîm Datblygu NSN pan ddigwyddodd y digwyddiad ar y llwybr 166.8km o Melgaco i Fafe.
Mewn datganiad, dywedodd NSN: "Rydym wedi torri ein calonnau wrth gyhoeddi bod Finlay Tarling wedi marw yn y Volta a Portugal heddiw.
"Roedd Fin yn aelod annwyl iawn o'n tîm, ond yn bwysicaf oll, roedd yn fab, yn frawd ac yn ffrind i gynifer o bobl. Bydd colled fawr ar ei ôl.
"Mae ein cydymdeimlad dwysaf yn mynd at rieni Fin, Michael a Dawn, ei frawd Josh, a phawb a gafodd y fraint o alw Fin yn ffrind."
Mewn neges ar X, mynegodd trefnwyr y ras a Ffederasiwn Beicio Portiwgal eu "cydymdeimlad dwysaf â theulu Finlay Tarling, ei gyd-aelodau tîm, Tîm Datblygu NSN, a'i holl ffrindiau a'i anwyliaid".
Ychwanegon nhw fod y rasio wedi dod i ben ac na fyddai'r seremoni podiwm arfaethedig yn cael ei chynnal, fel arwydd o "barch a galar".
Dywedodd Arlywydd Portiwgal, António José Seguro, fod marwolaeth Tarling yn "trochi'r peloton, y twrnamaint a'r wlad sy'n cynnal y digwyddiad mewn galar".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.