Josh Tarling am rasio'r Vuelta a España wedi marwolaeth ei frawd

Josh TarlingFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Josh Tarling gymal yn ystod y Giro d'Italia yn 2025

  • Cyhoeddwyd

Bydd Josh Tarling - brawd hŷn Finlay Tarling a fu farw yn ystod ras y Volta a Portugal ddydd Gwener diwethaf - yn rasio'r Vuelta a España sy'n dechrau ddydd Sadwrn.

Bu farw Finlay, 19, mewn gwrthdrawiad â fan oedd wedi gyrru ar lwybr y ras seiclo yn ystod wythfed cymal y ras ym Mhortiwgal.

Cafodd teyrngedau eu rhoi i'r seiclwr dros y penwythnos gyda'r teulu'n diolch am yr holl negeseuon yn ystod "dyddiau anoddaf ein bywyd".

Bydd brawd Finlay, Josh, sy'n 22 oed, yn cystadlu dros ei dîm Netcompany Ineos yn y Vuelta - ras dair wythnos ac un o dri grand tour y byd seiclo ynghyd â'r Tour de France a'r Giro d'Italia.

Yn ôl y Cymro a chyn-enillydd y Tour de France, Geraint Thomas - sydd bellach yn gyfarwyddwr rasio gyda Netcompany Ineos - penderfyniad Josh oedd cymryd rhan.

Dywedodd Thomas ei bod "yn amlwg bod y tîm cyfan yn cefnogi Josh yn llawn yn ei benderfyniad i gymryd rhan yn y ras".

Dywedodd rhieni'r brodyr, Dawn a Michael ar y cyfryngau cymdeithasol fod Josh wedi penderfynu rasio "mewn teyrnged i'w frawd Fin".

Ers marwolaeth Finlay, bu galwadau am well diogelwch yn y gamp, gan gynnwys gan enillydd cymal cyntaf Tour of Britain y merched, y seiclwr o'r Iseldiroedd Lorena Wiebes.

Bydd y Vuelta a España yn dechrau ar 22 Awst ym Monaco ac yn gorffen ar 13 Medi.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig