'Merched o Gymru yn dod i'n clinig yn Llundain yn sgil gofal erthyliad gwael'

Dywed Dr Ed Dorman bod angen mwy o gymorth costau teithio pan mae angen mynd o adref i gael gofal erthyliad
- Cyhoeddwyd
Gallai gofal annigonol tra'n cael erthyliad yng Nghymru orfodi menywod i barhau â'u beichiogrwydd hyd yn oed os nad ydyn nhw'n dymuno hynny, yn ôl obstetregydd a gynaecolegydd ymgynghorol.
Dywedodd Dr Ed Dorman ei fod yn trin menywod o Gymru bob yn ail wythnos mewn clinig arbenigol yn Llundain.
Ond mae'n poeni am y "nifer anhysbys" sydd heb fawr o ddewis ond parhau â'u beichiogrwydd.
Dywedodd arbenigwr erthyliad arall fod sefyllfa "ddrwg" sydd eisoes yn bodoli yng Nghymru yn cael ei gwneud yn "sylweddol waeth" wrth i rai staff wrthod gweithredu am eu bod yn gwrthwynebu erthyliad ar sail gydwybodol.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithio gyda GIG Cymru i nodi a mynd i'r afael â'r hyn sy'n rhwystro darparu gwasanaethau erthyliad llawfeddygol yn lleol.

Mae'n debyg bod tua 175 o fenywod o Gymru yn teithio i Loegr bob blwyddyn i gael gofal erthyliad llawfeddygol
Yng Nghymru, Lloegr a'r Alban mae modd cael erthyliad hyd at 24 wythnos o feichiogrwydd os yw dau feddyg yn cymeradwyo.
Dywedodd y gwasanaeth cynghori BPAS (British Pregnancy Advisory Service) sy'n darparu rhywfaint o ofal erthylu ar ran y GIG, bod gwasanaethau llawfeddygol ar gael i bob claf o'r gogledd a chanolbarth Cymru, ond bod yn rhaid iddyn nhw deithio i Gaer, Glannau Mersi neu Birmingham.
Ychwanegodd yr elusen iechyd bod menywod o bob rhan o dde Cymru wedi bod yn mynychu'r clinig yng Nghaerdydd yn rheolaidd ar gyfer erthyliadau llawfeddygol, ond bod y safle hwnnw wedi cau wrth iddyn nhw symud i leoliad newydd.
Ar ôl 18 wythnos o feichiogrwydd rhaid i fenywod deithio i Loegr ar gyfer gwasanaethau erthylu llawfeddygol.
Dywedodd yr ymgynghorydd obstetreg a gynaecoleg, Ed Dorman, ei fod yn aml yn trin menywod o Gymru yn Llundain oherwydd darpariaeth "annigonol iawn" o ofal erthylu llawfeddygol yng Nghymru.
"Mae'n brofiad trawmatig i unrhyw un... ac mae ychwanegu'r trawma o orfod teithio, trefnu llety dros nos mewn gwesty neu rywle yn Llundain, a threulio dau ddiwrnod i ffwrdd o adref a'r rhwydwaith arferol o gymorth yn anodd iawn i rai menywod," esboniodd.
'Wedi colli sgiliau'
Dywedodd Dr Dorman mai'r peth a oedd yn ei boeni'n fawr oedd y "nifer anhysbys" o fenywod sydd heb unrhyw ddewis ond parhau â'u beichiogrwydd mewn "amgylchiadau anodd iawn".
Mae BPAS wedi dweud o'r blaen bod tua 175 o fenywod o Gymru yn teithio i Loegr bob blwyddyn i gael gofal erthyliad llawfeddygol.
Mae erthyliad llawfeddygol yn golygu terfynu beichiogrwydd drwy lawdriniaeth.
Mae modd defnyddio anesthetig lleol, tawelydd tra bod y claf yn ymwybodol, neu anesthetig cyffredinol.
O'r holl erthyliadau yng Nghymru a Lloegr yn 2022 roedd 86% yn erthyliadau meddygol - rhai sy'n defnyddio cyffuriau yn hytrach na llawdriniaeth.
Mae Dr Dorman yn honni fod dwy genhedlaeth o arbenigwyr obstetreg a gynaecoleg bellach ddim yn "gyfarwydd â darparu gofal erthyliad ac wedi colli'r sgiliau angenrheidiol" ac felly mae'n anodd i ysbytai ailsefydlu gwasanaethau o'r fath.
Ychwanegodd fod pethau'n gwella wrth i'r genhedlaeth iau o feddygon fod yn barod i ddysgu.
"Rwy'n credu ei fod yn fater brys yng Nghymru... oherwydd does dim lle yng Nghymru ar hyn o bryd lle gall meddyg ifanc sy'n cael hyfforddiant gael cyfle i ddysgu - mae'n gorfod dod i Loegr," meddai.

Rhaid gweithredu pan mae pobl yn gwrthod gofalu ar sail cydwybod, medd Dr Jane Dickson
Dywedodd Dr Jane Dickson, sy'n cynrychioli y Gymdeithas Brydeinig ar gyfer Darparwyr Gofal Erthylu (BSACP) yng Nghymru, fod gwrthwynebiad cydwybodol yn achosi oedi ac yn rhwystro mynediad at ofal erthylu.
Mae Deddf Erthylu 1967 yn caniatáu i'r rhai sydd â gwrthwynebiad cydwybodol wrthod cymryd rhan mewn triniaeth, oni bai bod y gofal hwnnw'n angenrheidiol i achub bywyd neu atal anaf parhaol difrifol i fenyw feichiog.
Gall y gwrthwynebiadau i derfynu beichiogrwydd fod yn rhai crefyddol, moesol neu bersonol.
'Gwrthwynebiad cydwybodol yn gyffredin'
Disgrifiodd Dr Dickson un achos lle cafodd gofal menyw â beichiogrwydd annormal ei ohirio am chwe wythnos, ac achos arall lle nad oedd gan fenyw yr arian i deithio.
"Dim ond yn Lloegr yr oedd apwyntiadau ar gael," meddai.
"Roedd y fenyw yn ifanc.
"Doedd ganddi ddim cefnogaeth, ac yn y pendraw penderfynodd na fyddai'n gallu fforddio teithio. Felly, cadwodd y babi."
Yn ôl Dr Dickson mae gwrthwynebiad cydwybodol yn gyffredin yng Nghymru, ac mae angen mynd i'r afael ag ef.
Dywedodd y meddyg erthylu ei bod hi'n anodd sicrhau cyllid ar gyfer gofal erthylu yn unig oherwydd nad yw wedi'i glustnodi'n benodol ar gyfer y diben hwnnw.
"Allwn ni ddim bod yn wlad sydd ddim yn cynnig gofal sylfaenol sydd wedi bod yn gyfreithlon ers 60 mlynedd," ychwanegodd.
Erthylu: Gwasanaeth llawfeddygol Cymru 'yw'r gwaethaf yn y DU'
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2025
Diffyg gofal erthylu yn 'frawychus' ac yn peri 'gofid'
- Cyhoeddwyd4 Mai 2024
Ychwanegodd Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr (RCOG) fod gofal erthyliad yn ofal iechyd hanfodol a bod yn rhaid iddo fod ar gael i bob menyw yng Nghymru, lle bynnag y mae hi'n byw.
"Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi yn y gweithlu sydd ei angen i ddarparu'r gwasanaethau hyn, gan sicrhau bod digon o staff medrus hyfforddedig yng Nghymru," meddai Melanie Tipples.
Dywedodd is-lywydd yr RCOG, er bod gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol hawl gyfreithiol i wrthwynebu cymryd rhan mewn gweithdrefnau erthyliad, na ddylai hyn "fyth fod yn rheswm pam na all claf gael mynediad at ofal diogel, amserol a chyfreithiol".
Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth Cymru y dylai menywod allu cael mynediad at "wasanaethau gofal iechyd hanfodol yn nes at adref".
"Mae'r Dirprwy Weinidog ar gyfer Iechyd Menywod wedi gwneud gwella gwasanaethau erthyliad yn un o flaenoriaethau eleni fel rhan o Gynllun Iechyd Menywod Cymru, dolen allanol," ychwanegodd llefarydd.