Crynodeb

  • Mae Eisteddfod yr Urdd 2023 wedi dechrau

  • Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin yw cartref yr ŵyl eleni

  • Mae'r plant a'r bobl ifanc wedi dechrau ar y cystadlu

  • Gwydion Rhys yw enillydd y Fedal Gyfansoddi eleni

  • Roedd y maes yn fwy llawn na'r arfer ddydd Sul gyda sioe Chwilio'r Chwedl

  1. Tawel ger y stondinau ar hyn o bryd...wedi ei gyhoeddi 08:42 GMT+1 29 Mai 2023

    ... ond mae'n siŵr o brysuro ymhen ychydig pan fyddan nhw'n agor am 09:00!

    Stondinau'n dawel ben bore
  2. Y drysau ar agor a'r haul yn tywynnu!wedi ei gyhoeddi 08:35 GMT+1 29 Mai 2023

    Roedd y maes yn prysuro ben bore ar gyfer y diwrnod cyntaf o gystadlu.

    Ein gohebydd Sara Dafydd sydd yno'n gwylio'r cystadleuwyr yn cyrraedd.

    Disgrifiad,

    Mae'r drysau wedi agor ar faes yr Eisteddfod a'r lle'n dechre prysuro

  3. Croeso i Eisteddfod yr Urdd 2023!wedi ei gyhoeddi 08:32 GMT+1 29 Mai 2023

    Croeso

    A chroeso hefyd i lif byw Cymru Fyw o'r maes yn Llanymddyfri.

    Mae'r haul yn gwenu ar y cystadleuwyr cyntaf wrth iddyn nhw gyrraedd y maes...

    Llun Croeso i Lanymddyfri

    ... ac mae cymuned Llanymddyfri'n barod i groesawu plant a phobl ifanc Cymru a thu hwnt i'r Eisteddfod.

    Dilynwch y cyfan yn fyw ar Cymru Fyw!

  4. Cwis: Steddfod yr Urddwedi ei gyhoeddi 10:33 GMT+1 26 Mai 2023

    Faint wyddoch chi am Eisteddfod yr Urdd? Rhowch bob chware teg i'ch hun a rhowch dro ar y cwis...

    Read More