Mae'r ciwiau cinio'n prysuro...wedi ei gyhoeddi 12:52 GMT+1 29 Mai 2023
Mae'r arlwy'n eang ac yn amlwg yn boblogaidd iawn yn yr ardal fwyd.
Gyda 10 stondin - o fyrgyr a sglodion i nŵdls a bwyd Jamaicaidd - gobeithio bod digon yma i fwydo pawb!

Mae Eisteddfod yr Urdd 2023 wedi dechrau
Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin yw cartref yr ŵyl eleni
Mae'r plant a'r bobl ifanc wedi dechrau ar y cystadlu
Gwydion Rhys yw enillydd y Fedal Gyfansoddi eleni
Roedd y maes yn fwy llawn na'r arfer ddydd Sul gyda sioe Chwilio'r Chwedl
Mae'r arlwy'n eang ac yn amlwg yn boblogaidd iawn yn yr ardal fwyd.
Gyda 10 stondin - o fyrgyr a sglodion i nŵdls a bwyd Jamaicaidd - gobeithio bod digon yma i fwydo pawb!

Mae Elen Ifan, Bardd y Mis Radio Cymru, wedi ysgrifennu cerdd am Eisteddfod yr Urdd Sir Gâr.

Mae’r teulu Watts o Gaerdydd ymhlith nifer sy’n mwynhau picnic yn yr haul.

Y Teulu Watts yn mwynhau eu picnic ar y maes
Bu Joshua, 8, ar y dde yn cystadlu yn y dawnsio gwerin heddiw, a bydd yntau a’i frawd Oliver, 6, yn rhan o gyflwyniad dramatig fory.
Dydy eu chwaer fach Caitlin ddim cweit ddigon hen i gystadlu eto!
Cafodd ffans Cyw y cyfle i weld cymeriadau'r sioe wyneb yn wyneb ar y maes heddiw.
Fel arfer, dim ond ar y sgrin y mae Plwmp, Llew, Cyw a Bolgi i'w gweld, ond eleni maen nhw wedi cael dod i Lanymddyfri i weld eu holl ffrindiau.

Tair o aelodau Parti’r Efail - Isla, Seren ac Angharad - yn hapus iawn gyda thrydydd yn yr Ensemble Offerynnol.
Dywedodd Isla: “Ro’n ni’n nerfus dipyn bach, ond pan o’n i’n gwneud e ar y llwyfan o’n i fel ‘waaaaa!’”
Llongyfarchiadau ferched!

Isla, Seren ac Angharad
Emma yn cael hoe mewn trol ar ôl crwydro'r maes, gyda Tad-cu a Mam-gu.
Dyma dro cyntaf Emma yn Eisteddfod yr Urdd ond mae Peter, ei thad-cu yn hen gyfarwydd â’r ŵyl ac yntau wedi cystadlu yn 1951 yn Abergwaun!

Mae'r Eisteddfod eleni ym mro yr emynydd William Williams, Pantycelyn ac mae yna groeso arbennig i eisteddfodwyr yng nghapel Pantycelyn yn ystod yr wythnos.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Wyddoch chi bod y cyflwynydd a'r golygydd gwleidyddol, Vaughan Roderick, yn un o ddisgynyddion yr emynydd? Ddoe ar Radio Cymru bu ef a'i chwaer yn olrhain ei hanes ac yn asesu ei gyfraniad.
Mae cyfle i glywed y rhaglen yma.

Mae Vaughan Roderick yn un o ddisgynyddion William Williams, Pantycelyn
Roedd Yr Arddorfa dan ei sang ar gyfer y Sioe Cyw gyntaf yr wythnos.

Safle Cwiar Na Nog yw ardal newydd ar gyfer aelodau ifanc LHDT+ yr Urdd a’r rheiny sy’n awyddus i ddysgu mwy am y gymuned LHDT+ yng Nghymru.
Bydd llawer o hwyl i’w gael yma drwy’r wythnos gan gynnwys Disgo Distaw!

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Gethin Thomas, ei fod wedi ei syfrdanu gyda haelioni’r bobl leol cyn yr Eisteddfod.
“O’n i yn poeni na fydden ni yn cyrraedd y targed” meddai.

Gethin Thomas, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid
“O’dd gyda ni darged bo ni’n croesi £300,000, ac mae’n braf dweud ein bod ni wedi croesi’r £300,000 erbyn heddi…
"Mae’n hynod o heriol a mae’n anodd iawn ar bobl i gael dau ben llinyn ynghyd ond mae’n rhaid i ni 'weud, ry’n ni’n hynod, hynod ddiolchgar i drigolion Sir Gâr am gyfrannu.”
Casi, Osian, Caio a Dave yn mwynhau danteithion ar y maes – rhaid cadw’r lefelau egni’n uchel!

Mae'r Mudiad Meithrin ac S4C ymhlith y rhai sydd wedi sicrhau digon o weithgareddau i'r plant lleiaf - y manylion yma.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Ffynhonnell y llun, Mudiad MeithrinNid dim ond cymeriadau mewn gwisgoedd anifeiliaid lliwgar yw’r rhain.
Mae’r chwech ‘Awen’ yma’n mynd i fod yn chwarae rhan ganolog ym mhrif seremonïau’r dydd.
Ffynhonnell y llun, Urdd Gobaith CymruY chwe 'Awen' fydd yn rhan o'r prif seremonïau yr wythnos hon
Fe ddaeth y syniad gan griw Cwmni Theatr yr Urdd, gan ddefnyddio’r syniad bod person yn cael ei drawsnewid wedi iddyn nhw ennill y brif wobr yn eu maes.
"'Dan ni 'di penderfynu cael gafael ar y seremonïau ac ail-wampio nhw 'chydig bach," dywedodd Branwen Davies, trefnydd Theatr Ieuenctid yr Urdd.
"Mae bob un o'r awenau yma'n gymeriadau gwahanol gyda gwisg gwahanol.
"'Dan ni jyst isio' rhoi'r bri 'na 'nôl."
Cafodd y gwisgoedd eu dylunio gan Efa Dyfan, ac mae’r chwe chymeriad yn cael eu chwarae gan aelodau Theatr Ieuenctid yr Urdd.
Dim rhagolygon o law yr wythnos yma, ond lefelau UV a phaill yn uchel, felly byddwch yn barod!
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae brwdfrydedd mawr wedi bod yn lleol, medd Carol Dyer o bwyllgor apêl Llanymddyfri.
“O’n i’n mynd amgylch siopau a busnesau i’w hannog nhw ac ateb eu cwestiynau nhw,” meddai

Carol Dyer
“Ambell waith o’n i’n gorfod esbonio i bobl beth oedd Eisteddfod yr Urdd achos mae’n rhaid cofio, nid pawb sydd wedi bod i Eisteddfod yr Urdd…
"Mae hyd yn oed y rhai sydd newydd agor busnesau a ddim wedi byw ‘ma am gyfnod, maen nhw wedi mynd i fewn i ysbryd yr ŵyl, ac wedi deall yn iawn beth yw Mr Urdd.”
Mae ‘na bymtheg o feinciau wedi eu creu gan ddisgyblion rhai o ysgolion y Sir.
Dywedodd yr artist Karen McRobbie fod aelodau'r 'sied ddynion' yn Nrefach wedi helpu'r prosiect a noddwyr lleol wedi rhoi'r pren.

Hanes Llangyndeyrn yw'r ysbrydoliaeth ar gyfer y fainc hon
“Mae pymtheg o feinciau wedyn wedi mynd allan at wahanol ysgolion yn y Sir ac ar bob mainc mae yna chwedl neu stori sy’n bwysig i Gaerfyrddin arnyn nhw," dywedodd.

Mae Macsen wedi dysgu am hanes Llangyndeyrn wrth ymuno ym mhrosiect 23
“Ni ‘di bod yn creu y fainc yma er mwyn ei roi ar faes yr Eisteddfod” meddai Macsen.
“Ni ‘di rhoi llawer o bethau sy’n ymwneud â Llangyndeyrn arno fe. Mae gyda ni dractorau tu ôl y gatiau, y capel gyda’r gloch, a phethau fel yna.
"Fi’n hapus taw Llangydeyrn ni’n neud fel rhan o brosiect 23 achos os bydden ni ddim yn neud e, sai’n credu bydden i’n gwybod lot am Llangyndeyrn.”
Yn wahanol i’r llynedd, bydd yn rhaid talu am docyn eleni, gyda phrisiau’n amrywio o £8 i gystadleuwyr i £20 am docyn oedolyn.

Y Pafiliwn Coch
Ond gyda chefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru, bydd teuluoedd incwm is yn gallu hawlio tocynnau am ddim eleni.
Ar Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru, roedd Siân Eirian, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod a Chelfyddydau yr Urdd, yn sôn am lwyddiant y cynllun, sydd wedi digwydd am y tro cyntaf:
"‘Dan ni’n hynod falch fod yna 8,000 wedi manteisio ar hyn. Yn sicr, heb os nac oni bai, mae ‘na alw."
Y gobaith yw, meddai, y bydd hyn yn parhau am flynyddoedd i ddod.
Dyma Owain, Rowan, Anni, Tomos, Branwen ac Efa o Ysgol Llanddoged, Sir Conwy, yn paratoi i fynd ar lwyfan y pafiliwn Gwyn i gystadlu yn y gystadleuaeth ddawnsio gwerin i ysgolion â dan 100 o blant.

Os ydych chi'n mynd draw i Lanymddyfri bore 'ma, bydd y rhestr chwarae yma yn sicrhau eich bod yn barod amdani!
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Cyflwynydd The One Show, Alex Jones yw Llywydd y Dydd heddiw.
Gan ei bod hi a’i theulu bellach yn byw yn Llundain, mae’n dweud ei bod hi’n awyddus i ddod â’i phlant a’i gŵr Charlie, sydd o Seland Newydd, yma i weld pa mor “arbennig” yw’r ŵyl.
Ffynhonnell y llun, Urdd“Fydden i ddim yr un person heb yr Urdd,” meddai, wrth drafod ei hatgofion cynnar o gystadlu.
“Dyna pam fi’n neud y jobyn fi’n 'neud nawr.”
Ychwanegodd y byddai’n gyfle i gyfleu i’w phlant “pa mor bwysig yw’r Urdd i pwy y’n ni, a’n diwylliant ni”.