Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn beirniadu Plaid Cymru am wthio annibyniaeth

Darren Millar yn annerch cynhadledd y Blaid Geidwadol yn Birmingham ddydd Sul
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd arweinydd y grŵp Ceidwadol yn Senedd Cymru, Darren Millar na fydda'i'r blaid fyth yn caniatáu "rhwygo' y Deyrnad Unedig

  • Cyhoeddwyd

Mewn araith ddydd Sul, fe alwodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ar Brif Weinidog Cymru i fwrw ymlaen gyda llywodraethu, yn hytrach na chanolbwyntio ar y posibilrwydd o annibyniaeth.

Yng nghynhadledd y Blaid Geidwadol yn Birmingham, dywedodd Darren Millar fod "Prydain angen Badenoch", gan gadarnhau bod ei blaid yn gefnogol o'r DU.

Daw hyn ar ôl i Rhun ap Iorwerth alw am "fargen newydd" i Gymru gyda Llywodraeth y DU mewn cynhadledd Plaid Cymru a dweud nad oes "troi yn ôl" ar y daith annibyniaeth.

Areithiodd Mr Millar fod ei blaid wedi ymrwymo i gadw'r DU gyda'i gilydd ac y dylai etifeddiaeth gael ei ddefnyddio i ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol.

Fe ddychwelodd Darren Millar i Senedd fwy (96 aelod) ar ôl etholiad fis Mai, yn un o saith AS Ceidwadol - naw yn llai nag yn y Senedd flaenorol.

Roedd arolygon barn ar wahanol adegau yn ystod yr ymgyrch etholiadol wedi awgrymu y gallai'r blaid wynebu peidio cael unrhyw Aelodau Seneddol, yn rhannol oherwydd y cynnydd ym mhoblogrwydd Reform yng Nghymru.

Dywedodd Darren Millar fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ganolbwyntio ar drwsio gwasanaethau cyhoeddus ac amddiffyn y berthynas rhwng pedair gwlad y DU - gan ddweud na fydd ei blaid "fyth yn caniatáu" i'r undeb gael ei thorri.

"Bydd cynllun i dynnu llen rhwng Cymru a gweddill y DU yn achosi mwy o niwed nag o les i'n plant a chenedlaethau'r dyfodol," meddai.

Cyfeiriodd at restrau aros y GIG sy'n codi a honiadau bod busnesau Cymreig wedi parhau i gael amser caled ers i Blaid Cymru ddod i rym.

Awgrymodd bod Rhun ap Iorwerth, yn hytrach, wedi penderfynu gwneud ffrindiau gyda'r SNP a Sinn Fein, gan gyfeirio at y cyfarfod diweddar yng Nghaerdydd rhwng arweinwyr y tair gwlad.

"Yna mi lofnododd gytundeb i hyrwyddo chwalu ein DU," meddai.

"Mi gafodd yr holl jamborî ei fanteisio arno gan weinidog tramor Vladimir Putin, Sergei Lavrov, a siaradodd gyda gorfoledd ar deledu Rwsia am y posibilrwydd o refferenda annibyniaeth ledled y DU."

Y DU yn 'fwy na threfniant gwleidyddol'

Ychwanegodd Millar: "Felly fy neges i Rhun ap Iorweth heddiw ydy - i fwrw ymlaen gyda'r llywodraethu.

"Fe ddywedodd wrth bleidleiswyr fis Mai na wnelo etholiad y Senedd ag annibyniaeth.

"Naill ai na dderbyniodd ei femorandwm ei hun, neu fe ddewisodd i dwyllo pobl yn fwriadol."

Disgrifiodd Mr Millar y DU fel rhywbeth sy'n "fwy na threfniant gwleidyddol", gan ddweud bod pob gwlad wedi helpu i ddatblygu diwydiannau, diddymu'r fasnach gaethwasiaeth, rhyddhau Ewrop a llunio'r byd modern.

"Rydyn ni'n deulu o genhedloedd. Ers canrifoedd, mae pobl Cymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi byw, gweithio a masnachu gyda'i gilydd.

"Wrth gwrs, mae rhai ar yr adain dde'n dweud y dylen ni ymddiheuro neu deimlo cywilydd am ein hanes.

"Ond dwi'n dweud ei fod yn etifeddiaeth y dylen ni fod yn falch ohoni, ac y dylen ni ei defnyddio i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf."

'Methu fforddio polisi gofal plant'

Fe fynegodd llefarydd materion Cymreig y blaid, Mims Davies feirniadaeth hefyd wrth gymryd rhan mewn trafodaeth yn y gynhadledd ynghylch dyfodol yr undeb.

Fe ddisgrifiodd y cyfarfod diweddar rhwng prif weinidogion Cymru, Yr Alban a Gogledd Cymru fel "cynhadledd ymwahanwyr".

Honnodd hefyd na allai Llwyodraeth Cymru fforddio'i pholisi gofal plant - un o gonglfeini ymgyrch Plaid Cymru yn etholiad mis Mai.

"Golyga hynny bod teuluoedd wedi cael eu twyllo," awgrymodd.

"Mae'n teimlo fel os y'ch chi'n byw yng Nghymru, mae bywyd yn rhy galed a does neb wir yn sefyll dros bobl Cymru."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.