Plaid Cymru yn anelu at gwmni Cymreig newydd ar restr FTSE 100 o fewn degawd

Mae Adam Price yn disgwyl cyhoeddi targed o greu 500 o gwmnïau twf uchel yng Nghymru dros y degawd nesaf
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Plaid Cymru yn anelu at greu'r amodau economaidd i gwmni Cymreig newydd ymuno â mynegai FTSE 100 o fewn deng mlynedd.
Mae FTSE 100 yn cynnwys y 100 cwmni mwyaf yn y DU sy'n masnachu eu cyfranddaliadau'n gyhoeddus.
Bydd Gweinidog yr Economi, Adam Price, yn cyhoeddi targed o greu "500 o gwmnïau twf uchel" dros y degawd nesaf, wrth annerch cynhadledd y blaid yn Llandudno ddydd Sadwrn.
Bydd hefyd yn amlinellu rhaglen newydd, Sbardun, a fydd yn helpu busnesau Cymreig i dyfu, gyda 20 cwmni i gymryd rhan yn y garfan gyntaf a chefnogaeth gan Fanc Datblygu Cymru.
Dim ond un cwmni sydd â'i bencadlys yng Nghymru ar restr FTSE 100 ar hyn o bryd, sef y cwmni yswiriant Admiral.
'Cynllun dwys dwy flynedd'
Mae Plaid Cymru yn cynnal eu cynhadledd gyntaf ers ennill etholiad y Senedd ym mis Mai a ffurfio llywodraeth Cymru.
Ddydd Gwener, amlinellodd Prif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth, ei ofynion i'r Prif Weinidog Andy Burnham dros drosglwyddo mwy o bwerau i Gaerdydd.
Bydd Mr Price, a arweiniodd Blaid Cymru cyn Mr ap Iorwerth, yn cyflwyno rhaglen Sbardun fel "cynllun dwys dwy flynedd" i helpu busnesau Cymreig cychwynnol i dyfu'n "gwmnïau canolig eu maint".
Bydd y rhaglen yn dechrau gyda 20 o gwmnïau, gyda chymorth buddsoddi gan Fanc Datblygu Cymru.
Rhun ap Iorwerth yn galw am 'fargen newydd' i Gymru gyda Llywodraeth y DU
- Cyhoeddwyd18 awr yn ôl
Y Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth yn mynnu 'bargen newydd' i Gymru
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Asiantaeth Ddatblygu Cymru 'yn barod ar ryw lun erbyn haf nesaf'
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
Mae Plaid Cymru yn diffinio cwmnïau twf uchel fel rhai sy'n "profi cynnydd cyflym mewn refeniw a chyflogaeth".
Bydd Mr Price yn dweud y gallai cyflawni'r targed o 500 o gwmnïau "greu'r amodau i gwmni ychwanegol o Gymru ymuno â FTSE 100".
"Dylai fod yn uchelgais gennym i weld mwy o gwmnïau Cymreig yn llwyddo, yn tyfu ac yn cystadlu ar lwyfan y byd," meddai.
Ychwanegodd fod maint cwmnïau'n bwysig, ond mai "cyfrwng yw twf yn hytrach na'r nod terfynol", sef creu swyddi da ym mhob rhan o Gymru.
Dywedodd "nad nifer y cwmnïau sy'n cyrraedd brig y byd busnes yw'r unig fesur o lwyddiant", ond "a yw pobl ym mhob rhan o Gymru'n gallu adeiladu bywyd da drwy waith da".
Ychwanegodd mai'r uchelgais yw creu economi ddigon eang a chadarn, sydd â'i gwreiddiau yng Nghymru, i gynnig cyfleoedd i bawb dros genedlaethau'r dyfodol.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.