Badenoch ddim yn diystyru cefnogi cyllideb llywodraeth Plaid Cymru

Kemi BadenochFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Cymerodd Kemi Badenoch yr awenau fel arweinydd y Ceidwadwyr ddwy flynedd yn ôl

  • Cyhoeddwyd

Nid yw arweinydd y Blaid Geidwadol, Kemi Badenoch, wedi diystyru'r posibilrwydd y bydd Ceidwadwyr Cymru yn cydweithio â gweinidogion Plaid Cymru i basio cyllideb atodol Llywodraeth Cymru.

Ym mis Gorffennaf, cafodd cynlluniau gwariant Plaid Cymru eu trechu yn y Senedd ar ôl iddynt fethu â chael digon o gefnogaeth gan wrthbleidiau.

Dywedodd Badenoch y byddai ei phlaid bob amser yn fodlon cefnogi "polisïau unigol" lle mae pobl yn cyflawni pethau y mae "pleidleiswyr Ceidwadol eu heisiau".

Ond pwysleisiodd nad oedd ganddi "ddiddordeb mewn gwneud cytundebau" ac mai'r Ceidwadwyr oedd yr unig "blaid synhwyrol yn y Senedd".

Roedd arweinydd y Ceidwadwyr yn ateb cwestiynau BBC Cymru cyn cynhadledd yr hydref bedwar diwrnod y blaid, sy'n cael ei chynnal yn Birmingham o ddydd Sul ymlaen.

'Ystyried pethau fesul achos'

Pan gafodd ei holi a fyddai'n diystyru'r posibilrwydd y byddai ei phlaid yn cydweithio â Phlaid Cymru i basio'r gyllideb, dywedodd y byddai'r Ceidwadwyr bob amser yn gwneud y peth "cywir".

"Rydym yn ystyried pethau fesul achos. Dyna sy'n bwysig.

"Os bydd Plaid Cymru yn gwneud penderfyniadau synhwyrol – er nad wyf yn disgwyl hynny – yna wrth gwrs byddem yn eu cefnogi.

"Ond os byddant yn gwneud pethau drwg neu bethau gwirion, ni fyddwn yn eu cefnogi," meddai Badenoch.

Ym mis Medi, dywedodd ffynhonnell o fewn Llywodraeth Cymru wrth BBC Cymru fod trafodaethau ynghylch y gyllideb atodol "naill ai'n digwydd neu wedi'u trefnu i ddigwydd gyda phob" gwrthblaid.

Fis diwethaf, cyfarfu arweinwyr Plaid Cymru, yr SNP a Sinn Féin yng Nghaerdydd gan arwyddo cytundeb yn datgan na ddylai San Steffan danseilio hawl pobl eu gwledydd i benderfynu ar eu dyfodol eu hunain.

Cyhuddodd Badenoch yr SNP a Phlaid Cymru o "ymuno â'i gilydd i drafod chwalu'r Deyrnas Unedig".

"Dydw i ddim yn meddwl bod unrhyw un yng Nghymru eisiau gadael y Deyrnas Unedig ac eithrio Plaid. Dylen nhw ganolbwyntio ar flaenoriaethau pobl," meddai.

Mewn rhan arall o'r cyfweliad, dywedodd Badenoch fod gan ei phlaid gynllun i ariannu 500 yn rhagor o swyddogion heddlu yng Nghymru.

"Rwyf am sicrhau bod pobl Cymru yn teimlo'n ddiogel ac yn cael eu gofalu amdanynt yn briodol.

"Dydw i ddim yn gweld unrhyw un, boed o Blaid Cymru neu hyd yn oed Reform, yn dangos diddordeb gwirioneddol a difrifol yn hyn," ychwanegodd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.