Arestio pedwar yn dilyn tân mewn adeilad rhestredig Gradd II

Oriel luniauNeidio heibio'r oriel luniauSleid 1 o 4, Rheola House ar dân, Cafodd y gwasanaeth tân eu galw i'r digwyddiad am 16:50 brynhawn Mawrth
  • Cyhoeddwyd

Mae pedwar o bobl yn eu harddegau wedi cael eu harestio ar amheuaeth o gynnau tân yn fwriadol mewn adeilad rhestredig Gradd II.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Rheola House yng Nghwm Nedd am 16:50 brynhawn Mawrth yn dilyn adroddiadau bod yr adeilad ar dân.

Mae lluniau'n dangos bod yr adeilad wedi dioddef dinistr sylweddol.

Daw'r digwyddiad mewn cyfnod pan mae gwasanaethau tân ar hyd y wlad yn delio â nifer o danau gwyllt - sefyllfa sydd wedi ei ddisgrifio fel "argyfwng cenedlaethol" gan aelod Llafur Cymru.

Mae bachgen 17 oed o'r Barri, dyn 19 oed o Gendros, Abertawe a dyn 18 oed o Waunarlwydd, Abertawe wedi cael eu harestio ar amheuaeth o gynnau tan yn fwriadol.

Mae dyn arall 18 oed o Dregatwg, Castell-nedd Port Talbot wedi cael ei arestio ar amheuaeth o gynnau tân yn fwriadol ac o fod â chyllell yn ei feddiant mewn man cyhoeddus.

Mae'r pedwar yn cael eu cadw yn y ddalfa.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig