'Tanau gwyllt yn argyfwng cenedlaethol - rhaid i ASau gwrdd ar frys'

Mae Llafur eisiau gweld ASau'n cwrdd yn y Senedd i drafod yr ymateb i'r tanau
- Cyhoeddwyd
Mae angen adalw Senedd Cymru er mwyn trafod sut i ddelio â'r tanau gwyllt sydd bellach yn "argyfwng cenedlaethol", yn ôl aelod Llafur Cymru.
Daeth galwad o'r newydd gan Lafur Cymru fore Llun, wrth i Jayne Bryant ddweud ei bod yn poeni na fydd y Senedd yn trafod y mater am o leiaf mis arall tan eu bod yn ôl ganol fis Medi.
"Mae hyn yn ymwneud ag iechyd y cyhoedd," meddai, achos "mae'r pethau yma'n digwydd nawr... mae'n hynod bwysig ein bod ni'n ailymgynnull ac yn trafod hyn".
Dros y penwythnos aeth tua 200 o swyddogion y fyddin i helpu diffoddwyr tân wrth iddyn nhw frwydro tanau gwyllt ar draws de Cymru - tua 14 i gyd.
Ddydd Llun fe ddywedodd gwasanaeth tân y canolbarth a'r gorllewin bod criwiau'n delio "â nifer o danau gwyllt sylweddol" yn ardaloedd Rhandirmwyn, Rhydaman a Llangynidr a ger traeth Morfa Bychan ym Mhentywyn.

Mae'r tân sy'n llosgi yn Rhandirmwyn ers canol wythnos diwethaf yn dal yn un fawr ond mae dan reolaeth, meddai'r gwasanaeth tân mewn datganiad ddydd Llun
Yn ôl cyd-bennaeth milwrol Cymru, y Cyrnol Sion Walker, mae'r ymdrech dros y penwythnos wedi bod yn "galed" ond mae disgwyl nawr i'r fyddin aros a helpu am ddau ddiwrnod ychwanegol - tan ddydd Iau.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn flaenorol eu bod "yn gweithio'n agos gyda gwasanaethau brys ac awdurdodau lleol i gefnogi'r cymunedau sy'n cael eu heffeithio gan y tanau gwyllt".
"Mae gweinidogion yn diolch i'r swyddogion tân a'r rhai hynny sydd wedi ymateb am eu hymdrechion, ac mae swyddogion o'r fyddin bellach yn cynorthwyo'r ymgyrch ar ôl i ni [y llywodraeth] gymeradwyo cais Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ddydd Gwener am gymorth milwrol."

Mae Jane Bryant yn dweud bod angen cyfathrebu'n well â'r cyhoedd yn sgil nifer o danau gwyllt ar draws Cymru yn ddiweddar
Mae Ms Bryant yn dweud bod "dyletswydd arnom ni" i drafod y sefyllfa "nid dim ond ar gyfer y bobl sydd wedi wynebu'r tanau'n agos iawn at eu cartrefi, eu tir a'u busnesau, ond hefyd y bobl sydd wedi cael eu heffeithio gan y mwg sydd wedi teithio cryn bellter ar draws gymaint o ardaloedd eraill".
Wrth siarad ar Radio Wales dywedodd bod Llafur wedi galw am adalw'r Senedd ers i'r tanau gwyllt cyntaf ddechrau ym Mlaenafon a Gwynedd yn ôl ar 23 Gorffennaf.
"Ni'n gwybod bod gan etholwyr lawer o bryderon a phroblemau – y bobl sy'n byw yn y cymunedau 'ma ble mae'r tanau gwyllt yma wedi bod.
"Mae'n bwysig iawn bod y Senedd yn cael ei galw'n ôl; i ni allu trafod hyn i gyd, codi'r pryderon yma ar ran ein hetholwyr, a dangos y tryloywder yna sydd mor bwysig ar adegau o argyfwng cenedlaethol fel yr un sydd ganddo ni ar hyn o bryd."
Ychwanegodd ei bod yn "credu bod cyfathrebu mor bwysig ar adegau fel hyn".
"Ac hoffwn i wir weld hynny'n gwella, a dyna pam dwi'n credu bod angen i ni gwrdd.
"Rhywbeth dwi'n credu y byddai pobl Cymru yn disgwyl i ni ei wneud – er mwyn trafod materion o'r fath sydd o bwysigrwydd cenedlaethol."
Canmoliaeth i'r fyddin sy'n helpu i ddiffodd y tanau mawr yng Nghymru
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Rhybudd brys am 'berygl difrifol' o dân a'r fyddin yn cael eu galw
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
Tanau'r Rhondda yn 'gwbl frawychus' a phedwar yn cael eu harestio
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
Esboniodd cyd-bennaeth milwrol Cymru, y Cyrnol Sion Walker, ar raglen Dros Frecwast bod yr amodau wedi bod yn anodd yn ystod y gwres llethol.
"Ni wedi bod yn cludo dŵr, so mae gyda ni bump tancer sydd yn gallu cludo 18,000 litr o ddŵr ar y tro.
"Mae nhw lan top Dowlais yn cydweithio fanna gyda contractors sydd wedyn yn cludo dŵr o'r tancers.
"Maen nhw wedyn yn rhoi y dŵr yna lawr ar y ddaear er mwyn trio cael tymheredd y ddaear i lawr, mae hynna yn bwysig achos mae 'na sawl pibell nwy a pethe fel 'na yn rhedeg o dan y ddaear.
"Ar un adeg roedd tymheredd y ddaear wedi mynd lan i 60 gradd selsiws," meddai.

Bydd milwyr yn rhoi cymorth i griwiau tân tan ddydd Iau o leiaf
Ychwanegodd bod milwyr mewn ardaloedd eraill yn gweithio i "glirio'r tir".
"'Dyn nhw ddim yn amddiffyn y tân ei hunan ond yn rhoi mesurau ataliol yn eu lle.
"Maen nhw yn creu fel fire breaks ac yn tynnu popeth oddi wrth y ddaear sydd efallai'n gallu mynd ar dân, er mwyn wedyn, os yw'r gwynt yn newid a'r tân yn cael ei wthio falle tuag at dai neu rhywbeth fel 'na mae'r frigâd dân yn gallu stopio'r tân yn y fan."
Dros nos fe gafodd y fyddin wybod bod eu cytunebau wedi cael eu "hymestyn" a'u bod am "gadw ni yma am ddau ddiwrnod yn ychwanegol a bydd y milwyr yn cario ymlaen tan ddydd Iau".
Maen nhw felly'n bwriadu "helpu'r frigâd dân i 'ddod dros y bryn yna' a wedyn gobeithio erbyn dydd Iau bydd y tywydd wedi gwella, a'r glaw yn dod".
Mae arweinydd Reform UK yng Nghymru, Dan Thomas yn cwestiynu pam na chafodd y fyddin gais gan Lywodraeth Cymru yn gynt i helpu diffodd tanau gwyllt, gan ddweud "na gododd yr argyfwng yma yn sydyn yr wythnos hon".
"Mae dynion a merched dewr ein gwasanaethau tân ac achub yn haeddu ein diolch, ond maen nhw hefyd yn haeddu'r adnoddau a'r gefnogaeth maen nhw eu hangen... pam y mae wedi cymryd mor hir i Plaid cydnabod graddfa'r argyfwng yma a cheisio'r gefnogaeth ychwanegol mae ein gwasanaeth tân ei ddaer angen?"
Amodau 'heriol'
Mae criwiau o naw gorsaf gwahanol wedi bod yn delio gyda'r tân ger Traeth Morfa Bychan ym Mhentywyn ers 20:20 nos Sul.
Dywed y gwasanaeth bod yr amodau yn "heriol" a bod rhaid mynd trwy "isdyfiant trwchus" ond mae camau sylweddol wedi eu cymryd i reoli a diffodd y fflamau.
Ychwanegodd bod ffermwyr lleol wedi rhoi "cymorth gwerthfawr" trwy ddarparu tractorau a thanceri dŵr.
Mae'r gwasanaeth hefyd wedi diolch i wasanaethau tân ac achub Gogledd Cymru a Sir Gaerhirfryn am eu help i ddod â sefyllfa yn Rhandirmwyn dan reolaeth, mae mae'r achos yn dal yn cael ei drin fel digwyddiad mawr.
Mae hofrennydd yn dal yn yr ardal "i ollwng dŵr ble mae angen" ac mae trigolion erbyn hyn wedi dychwelyd i'w cartrefi ar ôl gorfod eu gadael wrth i'r fflamau nesáu.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.