David Brooks - bod yn dad, Ronaldo a chwarae'n Ewrop i Bournemouth

David Brooks yn chwarae i Bournemouth yn erbyn Leeds United yn Uwch Gynghrair Lloegr yn 2026Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Symudodd Brooks i Bournemouth o Sheffield United yn 2018

GanOwain Llyr
Chwaraeon BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae'r tymor newydd yn argoeli i fod yn un eithaf arbennig i David Brooks am sawl rheswm.

Mi fydd yn chwarae pêl-droed Ewropeaidd am y tro cyntaf ar ôl i Bournemouth gyrraedd Cynghrair Europa, tra ar y llwyfan rhyngwladol mae disgwyl iddo gael y cyfle i chwarae'n erbyn un o'i arwyr - Cristiano Ronaldo.

Ond yn bwysicach na hynny mae ei ferch, Lottie, ar fin dechrau cerdded ar ôl iddi gael ei geni fis Hydref y llynedd.

"Mae'n gallu cropian a sefyll i fyny bellach. Dwi'n rhedeg ar ei hol hi lot pan dwi'n cyrraedd adref," meddai Brooks mewn cyfweliad gyda BBC Cymru.

"Dwi'n caru'r profiad o fod yn dad. Mae ganddi bersonoliaeth hyfryd felly pan dwi'n cyrraedd adref y dyddiau yma mae 'na lot fawr o hwyl i'w gael."

David Brooks yn dod ymlaen fel eilydd i Bournemouth yn erbyn Aston Villa yn Uwch Gynghrair Lloegr ym mis Mawrth 2023Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Brooks yn dychwelyd i chwarae dros Bournemouth yn 2023 ar ôl triniaeth canser

Mae pawb sy'n dilyn pêl-droed yn ymwybodol o hanes diweddar Brooks.

Bum mlynedd yn ôl fe gafodd ddiagnosis o ganser Hodgkin Lymphoma.

Fe gollodd mwy na stôn o bwysau ar ôl misoedd o driniaeth chemotherapi, ac ar gyfnodau roedd yn ei gweld hi'n anodd codi o'r gwely gan ei fod yn teimlo mor wan.

Saith mis yn ddiweddarach, ym mis Mai 2022, fe gyhoeddodd fod y driniaeth wedi bod yn llwydiannus, cyn dychwelyd i chwarae i Bournemouth ym mis Mawrth 2023.

Ond mae cymaint wedi digwydd yn ei fywyd ers hynny, mae'n dweud fod y cyfnod yna yn hen atgof bellach.

"Mae'n teimlo fel amser maith yn ôl.

"Dros y ddwy flynedd diwethaf dwi wedi dychwelyd i lle o'n i cyn y salwch. Dwi'n teimlo'n dda, ac ar adegau dwi'n anghofio fod hynny wedi digwydd i mi."

Cristiano Ronaldo yn dathlu sgorio dros Bortiwgal yn erbyn Croatia yng Nghwpan y Byd 2026Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cristiano Ronaldo wedi ennill 233 cap dros Bortiwgal - y nifer fwyaf yn hanes pêl-droed rhyngwladol

Fe chwaraeodd Brooks dros Gymru am y tro cyntaf yn 2017, a bellach mae wedi ennill 45 o gapiau.

Mae'n ddigon posibl y bydd yn ennill ei 50fed cap cyn diwedd y flwyddyn gyda Chymru i chwarae gemau cartref ac oddi cartref yn erbyn Portiwgal, Denmarc a Norwy yn Adran A Cynghrair y Cenhedloedd.

Mi fydden nhw yn dechrau eu hymgyrch gyda gêm yn erbyn Portiwgal yn Lisbon fis nesaf.

Ag yntau'n gefnogwr Manchester United pan oedd yn iau, mae hynny'n rhoi'r cyfle i Brooks chwarae'n erbyn un o'i arwyr - Cristiano Ronaldo.

"Mi oedd gen i grysau efo'i enw ar y cefn," mae Brooks yn ei gofio.

"Mi fydd cael chwarae ar y llwyfan rhyngwladol, yn erbyn un o'r chwaraewyr gorau erioed, yn deimlad anhygoel.

"Mi fydd chwarae'n erbyn rhai o dimau gorau Ewrop yn rhywbeth arbennig i Gymru, a da ni eisiau dangos ein bod ni'n gallu cael canlyniadau yn eu herbyn."

Ar ôl methu â chyrraedd Cwpan y Byd dros yr haf fe ddaeth rheolwr Cymru, Craig Bellamy yn agos at adael ei swydd i gymryd drosodd fel rheolwr Burnley.

Ond gan fod hynny heb ddigwydd mae Brooks yn edrych ymlaen at gael ychydig o gysondeb yn mynd mewn i Gynghrair y Cenhedloedd.

"Da ni wedi chwarae'n dda dros y ddwy flynedd ddiwethaf gyda Craig wrth y llyw.

"Mae pawb yn gorfod gwneud penderfyniadau mawr weithiau.

"Ond gan ei fod yn aros mi fyddwn ni'n gweithio'n galed i fod yn dîm gwell fel ein bod yn gallu cyrraedd Euro 2028."

Andoni Iraola yn cymeradwyo'r cefnogwyr ar ôl gêm gyfeillgar rhwng Lerpwl a Como yn Anfield.Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Andoni Iraola ydy rheolwr newydd Lerpwl ar ôl iddo adael Bournemouth

Mi oedd y tymor diwethaf yn un chwerw-felys i Bournemouth.

Fe lwyddon nhw i sicrhau eu lle yng Nghynghrair Europa am y tro cyntaf yn eu hanes ar ôl gorffen yn chweched yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Ond mae'r rheolwr oedd wrth y llyw bellach wedi gadael.

Mae Andoni Iraola wedi cymryd drosodd fel rheolwr newydd Lerpwl, gyda'r Almaenwr Marco Rose yn cymryd ei le yn Stadiwm Vitality.

"Mi oedd pawb yn siomedig pan ddywedodd Andoni ei fod yn gadael," meddai Brooks.

"Ond mae newidiadau yn rhywbeth sy'n digwydd yn aml yn y byd pêl-droed a 'da ni'n dymuno'r gorau iddo yn ei glwb newydd.

"Mae'r rheolwr newydd yn un cyfeillgar dros ben. Mae pawb wedi mwynhau ei sesiynau ymarfer, a 'da ni'n edrych ymlaen at y tymor newydd."

Antur Ewropeaidd

Mi fydd Bournemouth yn cael gwybod ar ddydd Gwener, 28 Awst, pwy fydd eu gwrthwynebwyr yng Nghynghrair Europa.

Er mai dim ond 11,300 o gefnogwyr mae Stadiwm Vitality yn ei ddal, maen nhw wedi llwyddo i gael trwydded UEFA i gynnal gemau Ewropeaidd yno.

Mae Brooks yn edrych ymlaen at chwarae pêl-droed Ewropeaidd ar lefel clwb am y tro cyntaf yn ei yrfa.

"Yn amlwg mi ydw i wedi cael blas o fynd dramor gyda Chymru, ond mi fydd yn brofiad newydd gwneud hynny gyda fy nghlwb.

"Dwi'n edrych ymlaen at gael chwarae mewn gemau Ewropeaidd mawr a gweld pa mor arbennig fydd y profiad yna.

"Da ni'n edrych ymlaen i gael gweld pwy fydd ein gwrthwynebwyr a gweld i lle fyddwn ni'n cael teithio."

Antoine Semenyo a David Brooks mewn sesiwn ymarfer gyda'i gilydd yn 2025. Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Antoine Semenyo a David Brooks yn ystod eu cyfnod gyda'i gilydd yn Bournemouth

Mi fydd Bournemouth oddi cartref yn Manchester City yn eu gêm gyntaf o'r tymor yn Uwch Gynghrair Lloegr dros y penwythnos.

Mae disgwyl i Antoine Semenyo fod yng ngharfan City, rhywun mae Brooks yn ei nabod yn dda ar ôl i'r ddau dreulio cyfnod hir efo'i gilydd yn Bournemouth.

"Mae'n chwaraewr anhygoel, a 'da ni dal yn siarad yn aml.

"Dwi'n gobeithio y bydd o'n cael tymor llwyddiannus arall i City - hynny yw ar ôl y gêm gyntaf 'ma."

Tydi Bournemouth erioed wedi ennill yn Stadiwm Etihad yn Uwch Gynghrair Lloegr. Byddai cael triphwynt yno yn bluen arall yn het Brooks a'i gyd-chwaraewyr.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.