Ta-ta i'r Cofi Messi: Darren Thomas yn gadael CPD Tref Caernarfon

- Cyhoeddwyd
Mae'r chwaraewr pêl-droed, Messi, wedi cyhoeddi ei fod yn gadael. Na, nid capten tîm cenedlaethol yr Ariannin, ond y 'Cofi Messi', Darren Thomas.
Ar ôl 15 mlynedd, 148 o goliau a 435 o gemau, mae Thomas wedi cyhoeddi ei fod yn gadael Clwb Pêl-droed Tref Caernarfon.
"Dwi'm yn un am rannu fy emosiynau ond mae rhoi'r crys ymlaen, cerdded allan o flaen y ffans yn yr Oval a cynrychioli Caernarfon wedi golygu bob dim i fi," meddai mewn neges ar Facebook.

Tîm Tref Caernarfon yn chwarae oddi cartref yn erbyn Legia Warsaw yn 2024. Darren Thomas yw'r un â'r faner
"Fflach o athrylith" a "dewin ar y cae": dyna rai o'r geiriau sydd wedi cael eu defnyddio i ddisgrifio Darren Thomas a'i yrfa yn yr Oval.
Yn ôl Cadeirydd y clwb, Paul Evans, bydd colled mawr ar ei ôl, ar ac oddi ar y cae:
"Bydd hi'n rhyfedd iawn. Oedden ni gyd wedi torri'n calonnau ddoe. Mae Darren wedi cyflawni gymaint i'r clwb dros y blynyddoedd. Mae jyst yn chwaraewr unigryw ac arbennig.
"Ond hefyd be' 'di pobl ddim yn ddallt ella ydy bod o'n berson neis hefyd a hoffus.
"Yn y pum mlynedd diwetha, 'da ni 'di dod yn reit agos, ac yn bersonol, mae o am fod y dipyn o gnoc i mi."

Darren a Paul yn dathlu gyda Chwpan Cymru
Mae hi wedi bod yn flwyddyn fawr i glwb pêl-droed Caernarfon; ym mis Ebrill enillodd y Caneris Gwpan Cymru am y tro cyntaf erioed.
Dydy'r tîm ddim wastad wedi profi llwyddiant, fodd bynnag, ond dechreuodd bethau newid pan ymunodd Darren, meddai Paul, ar Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru.
"Dros y blynyddoedd - 'da ni'n mynd yn ôl 20 mlynedd a mwy – doedd 'na'm lot o hogia' o Gaernarfon yn chwarae i'r tîm. Gawson ni Nathan Craig a Darren i mewn i chwarae i ni, ac roedd hynny'n hwb i'r clwb. Mae Darren 'di aros ac mae o 'di cael gyrfa hir iawn efo ni.
"Doedda ni ddim mewn lle da blynyddoedd yn ôl, a pan 'naeth o gyrraedd, 'naeth hynny ddod â mwy o chwaraewyr isho chwarae i Gaernarfon, achos o'dd pobl 'di clywed amdano fo, o'dd o 'di cael llwyddiant efo Llangefni.
"Rhywun oedd yn chwarae efo gwên ar ei wyneb, ond cythraul bach ar y cae hefyd"
Paul Evans yn sgwrsio am Darren Thomas - Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru
"Mae 'na lot o chwaraewyr da a rheolwyr da 'di bod yn y clwb, ond fo 'di'r un sy 'di sefyll allan, fo oedd y sbarc i ni, y sbardun.
"'Swn i'n deud fod lot o'r llwyddiant 'da ni 'di gael dros y blynyddoedd a lle ydan ni rŵan, mae lot o hynny oherwydd fo."

Baner enfawr o Darren Thomas ar Gastell Caernarfon yn ystod dathliadau'r tîm yng nghanol y dref ar ôl ennill Cwpan Cymru
Er fod Paul a'r clwb yn amlwg ddim eisiau i'w prif chwaraewr eu gadael, maen nhw'n deall ac yn cefnogi ei benderfyniad.
Mae trefniadau ar droed yn barod i drefnu gêm dysteb haeddiannol i'r Cofi Messi; mae Paul eisoes wedi bod yn trafod cynlluniau gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru, meddai.
"Os oes 'na rywun yn hanes y clwb sy'n haeddu testimonal, fo ydy o.
"Felly mi fydd 'na testimonial y tymor yma iddo fo, a dwi'n gobeithio fod pawb yna i gefnogi – dwi'n siŵr gawn ni dipyn o bobl i mewn i roi teyrnged iddo fo, achos mae o'n haeddu hynna.
"Mae'n rhywun oedd yn chwarae efo gwên ar ei wyneb, ond cythraul bach ar y cae hefyd. Mae o'r enghraifft berffaith o beth mae Caernarfon am - hwylus ond digon o galon. Does neb fel Darren."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd3 Mai

- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf

- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf
