Rhyddhau gyrrwr o dan ymchwiliad ar ôl marwolaeth bachgen yn Sir Conwy

Roedd blodau a theganau wedi eu gadael ddydd Gwener ger safle'r gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae gyrrwr fan wedi cael ei ryddhau o dan ymchwiliad yr heddlu, ar ôl i fachgen chwech oed farw yn dilyn gwrthdrawiad gyda cherbyd yn Llanfairfechan, Sir Conwy nos Iau.
Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad ar Ffordd y Felin ychydig ar ôl 17:00, yn dilyn adroddiadau o wrthdrawiad rhwng fan wen Ford Transit a phlentyn.
Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, bu farw'r bachgen yn y fan a'r lle.
Mae Heddlu'r Gogledd wedi apelio o'r newydd am wybodaeth wrth i'w hymchwiliad i'r digwyddiad barhau.

Mae'r heddlu yn apelio am dystion a gwybodaeth yn dilyn y gwrthdrawiad nos Iau
Ddydd Gwener cafodd blodau a theganau eu gosod ger safle'r gwrthdrawiad, fel teyrnged i'r bachgen fu farw.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Tim Evans o Uned Ymchwilio Gwrthdrawiadau Difrifol Heddlu Gogledd Cymru bod eu "meddyliau gyda theulu ac anwyliaid y plentyn ar yr adeg eithriadol o anodd hwn".
"Rydym yn sylweddoli'r effaith ddofn y mae trychineb o'r fath yn ei chael ar y teulu a'r gymuned ehangach.
"Mae ymchwiliad llawn i'r amgylchiadau a'r gwrthdrawiad yn cael ei gynnal, ac rydyn ni'n apelio unwaith eto ar unrhyw un oedd yn ardal Ffordd Pen y Bryn a Ffordd y Felin tua 17:00 ddydd Iau, a sydd heb eto siarad â ni, i gysylltu cyn gynted â phosib."
Mae'r heddlu hefyd yn annog unrhyw un all fod â lluniau CCTV preifat - o ddrws blaen tŷ neu luniau dashcam i gysylltu.
"Gall y rhain fod wedi dal rhywbeth nad oeddech chi'n credu oedd yn berthnasol ar y pryd," meddai'r Ditectif Arolygydd Evans.
"Gall hyd yn oed y darn lleiaf o wybodaeth helpu ein hymchwiliad, er mwyn sefydlu beth ddigwyddodd."
Cafodd gyrrwr fan - dyn lleol 39 oed, ei arestio ar amheuaeth o droseddau gyrru.
Mae o bellach wedi ei ryddhau o dan ymchwiliad wrth i ymholiadau'r heddlu barhau.
'Sioc a thristwch i'r gymuned gyfan'
Mewn datganiad ddydd Gwener dywedodd Cyngor Tref Llanfairfechan eu bod yn "rhannu ein cydymdeimlad a'n cefnogaeth i bawb yr effeithiwyd arnynt gan y digwyddiad trychinebus ddoe".
"Dydy'r sefyllfaoedd hyn ddim yn gyffredin, ac yn ddealladwy mae'n ennyn teimladau o sioc a thristwch i'r gymuned gyfan."
Mae'r cyngor tref hefyd wedi diolch i'r gwasanaethau brys wnaeth ymateb i'r digwyddiad, ac wedi annog unrhyw un allai fod wedi bod yn dyst i'r digwyddiad neu sydd â fideo o gamera car i gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.