Y Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth yn mynnu 'bargen newydd' i Gymru

Rhun ap IorwerthFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

"Dylai Cymru allu elwa o'r un grymoedd cyfansoddiadol a chyllidol sydd eisoes ar gael yn yr Alban" meddai Rhun ap Iorwerth

GanCemlyn Davies
Gohebydd gwleidyddol
  • Cyhoeddwyd

Mae Prif Weinidog Cymru ac arweinydd Plaid Cymru wedi ysgrifennu at Brif Weinidog y DU yn gofyn am "fargen newydd i Gymru" cyn ei araith gyntaf yng nghynhadledd ei blaid ers dod i rym.

Yn ei lythyr at Andy Burnham, a anfonwyd ddydd Iau ac a welwyd gan BBC Cymru, mae Rhun ap Iorwerth yn galw am drosglwyddo mwy o bwerau i Gaerdydd.

Dywedodd Mr Burnham yn flaenorol y byddai'n rhoi "gwrandawiad teg" i unrhyw beth sy'n cael ei gyflwyno iddo gan brif weinidog Cymru.

Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth y DU eu bod wedi "ymroi i adeiladu Cymru decach a chryfach, a hynny fel rhan o Deyrnas Unedig decach a chryfach".

Bu Mr ap Iorwerth yn annerch aelodau'r blaid yn Llandudno ddydd Gwener bum mis ar ôl llwyddiant hanesyddol y blaid yn etholiad y Senedd ym mis Mai.

Yn sgil y canlyniad, enillodd y blaid rym am y tro cyntaf, gan ddod â chyfnod o 27 mlynedd o lywodraethu gan Lafur – ers dechrau datganoli ym 1999 – i ben.

Fodd bynnag, heb fwyafrif o'r seddi ym Mae Caerdydd, mae Mr ap Iorwerth yn arwain gweinyddiaeth leiafrifol sy'n gorfod cydweithio ag Aelodau o'r Senedd o bleidiau eraill i basio deddfau a chyllidebau.

Collodd y llywodraeth bleidlais allweddol ar ei chynlluniau gwario ym mis Gorffennaf.

Prif weinidog Gogledd Iwerddon Michelle O'Neill, llywydd Sinn Féin Mary Lou McDonald, prif weinidog Cymru Rhun ap Iorwerth a phrif weinidog yr Alban John Swinney Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Prif weinidog Gogledd Iwerddon Michelle O'Neill, llywydd Sinn Féin Mary Lou McDonald, prif weinidog Cymru Rhun ap Iorwerth a phrif weinidog yr Alban John Swinney ym Mae Caerdydd fis diwethaf

Yn y llythyr at Mr Burnham, dywed ap Iorwerth: "Yn etholiad diweddar y Senedd rhoddodd bobl Cymru fandad clir o blaid newid cadarnhaol sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn i'w bywydau.

"Mae'r mandad hwn yn cynnwys ymestyn datganoli i alluogi'r Senedd a Llywodraeth Cymru i gael y grymoedd angenrheidiol - pwerau, cyllid a hyblygrwydd ariannol - i yrru'r cynnydd mwyaf posibl mewn canlyniadau i bobl Cymru drwy integreiddio a gwella gwasanaethau cyhoeddus a thyfu'r economi.

"Fel egwyddor sylfaenol i gefnogi'r diwygiadau hyn, dylai Cymru allu elwa o'r un grymoedd cyfansoddiadol a chyllidol sydd eisoes ar gael yn yr Alban."

Daw sylwadau Mr ap Iorwerth ar ôl iddo groesawu prif weinidogion cenedlaetholgar yr Alban a Gogledd Iwerddon i Gaerdydd fis diwethaf, a datgan ar y cyd fod "amser San Steffan yn dod i ben".

Yn ei lythyr 2,000 o eiriau at Mr Burnham, mae Rhun ap Iorwerth yn cyflwyno dadl fanwl dros drosglwyddo pwerau i Gymru o ran plismona a chyfiawnder, seilwaith rheilffyrdd, ac Ystâd y Goron.

Mae hefyd yn galw am "drefniadau ariannu sy'n deg, yn seiliedig ar anghenion ac yn adlewyrchu realiti demograffig ac economaidd Cymru".

Mae'n ychwanegu y dylai "trefniant cyfansoddiadol Cymru barhau i esblygu er mwyn gwella atebolrwydd democrataidd, hybu twf, cryfhau gwasanaethau cyhoeddus a sicrhau canlyniadau gwell i'n cymunedau".

'Nid rhanbarth o Loegr ydy Cymru'

Mewn cyfweliad ar Dros Frecwast fore Gwener, galwodd Rhun ap Iorwerth unwaith eto am ddatganoli pwerau cyfiawnder a phlismona i Gymru.

"Mae o [Andy Burnham] wedi gofyn am dystiolaeth... a dyna pam ein bod ni wedi cael sawl comisiwn, adolygiad, golwg annibynnol ar be' sydd angen ei wneud er mwyn cryfhau'r system gyfiawnder a heddlua yng Nghymru.

"Ac maen nhw gyd wedi dod i'r casgliad bod angen i ni ddatganoli, felly mae'r dystiolaeth yno.

"Mae'n niddordeb i rŵan yn gweld pa mor barod ydy Andy Burnham, sydd wedi datgan yn glir ei fod yn credu mewn datganoli, i ddeall beth mae hynny'n ei olygu yng nghyd-destun Cymru.

"Mae 'na beryg go iawn bod yr agenda datganoli sy'n cael ei amlinellu gan y weinyddiaeth newydd yn San Steffan, yn ymwneud mewn difri â datganoli rhanbarthol yn Lloegr.

"Nid rhanbarth o Loegr ydy Cymru, mae Cymru yn genedl ac mae angen sylw penodol ar yr hyn sydd ei angen i rymuso'r genedl honno."

BBC Cymru WalesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae BBC Cymru wedi cadarnhau "pecyn o arbedion" fel rhan o'u cynlluniau i fynd i'r afael â phwysau ariannol

Wrth ymateb i gwestiwn ynglŷn â dyfodol darlledu Cymraeg yn sgil y cyhoeddiad diweddar am doriadau i wasanaethau BBC Cymru, dywedodd Mr ap Iorwerth ei fod yn dymuno gweld darlledu yn cael ei ddatganoli hefyd.

"Dyna pam rydyn ni'n cymryd camau fel llywodraeth er mwyn paratoi am hynny," esboniodd.

"Mae o'n bryder, heb os, lle ma' 'na doriadau neu newidiadau deddfwriaethol yn cael eu gwneud yn Llundain, sy'n effeithio yn andwyol ar ddarlledu yng Nghymru.

"Byddwn i'n licio dylanwadu ar hynny ond dydi'r pŵer ddim gennym ni."

Llywodraeth y DU am 'adeiladu Cymru decach a chryfach'

Mae disgwyl i Mr ap Iorwerth gyfarfod â Mr Burnham, ynghyd â phrif weinidogion yr Alban a Gogledd Iwerddon, ddiwedd y mis.

Mae Burnham wedi dweud yn flaenorol ei fod yn "agored" i'r syniad o roi rheolaeth dros blismona i Lywodraeth Cymru.

Mewn ymateb i sylwadau diweddaraf Mr ap Iorwerth, dywedodd Llywodraeth y DU: "Rydyn ni wedi ymroi i sbarduno newid gwirioneddol ym mywydau pobl Cymru.

"Dyna pam yr ydyn ni'n mynd ati i gael gwared â TAW o filiau trydan ac yn dileu'r cap dau blentyn ar fudd-daliadau i helpu 69,000 o blant.

"Mae'r llywodraeth yma wedi ymroi i adeiladu Cymru decach a chryfach, a hynny fel rhan o Deyrnas Unedig decach a chryfach.

"Mae'n ffocws ni ar weithio gyda Llywodraeth Cymru er mwyn grymuso arweinwyr lleol a chymunedau fel bod modd iddyn nhw greu twf a swyddi ym mhob cod post."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.