Crynodeb

  1. Llyr Gruffydd yn trafod y cynllun cymhorthdaliadau newydd i ffermwyrwedi ei gyhoeddi 08:49 GMT+1 20 Gorffennaf

    Gwyliwch fideo o'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd, Llyr Gruffydd, yn trafod cynlluniau ariannol y llywodraeth newydd ar raglen Dros Frecwast ar y maes bore 'ma.

    Disgrifiad,

    Llyr Gruffydd

  2. Stondin Hybu Cig Cymru yn brysur amser brecwast!wedi ei gyhoeddi 08:40 GMT+1 20 Gorffennaf

    Stondin

    Ar y bore cyntaf un mae stondin Hybu Cig Cymru yn brysur wrth iddyn nhw gynnal eu digwyddiad brecwast blynyddol.

  3. Cyngor Suzy: 'Dewch â’ch eli haul!'wedi ei gyhoeddi 08:31 GMT+1 20 Gorffennaf

    Alison a Suzy

    Mae Alison a Suzy yn gwerthu rhaglen y Sioe ar gyfer yr wythnos a chyngor Suzy (ar y dde) yn un call: “Mae’r tywydd yn wych, dewch â’ch eli haul!"

    Ychwanegodd Alison: “Ni’n gobeithio bydd pawb yn cael amser da!"

  4. 'Mae isie dod â rhywbeth newydd o hyd' - Yr Athro Wynne Joneswedi ei gyhoeddi 08:21 GMT+1 20 Gorffennaf

    Dros Frecwast
    BBC Radio Cymru

    Dywedodd cadeirydd bwrdd Sioe Frenhinol Cymru, Yr Athro Wynne Jones, ei bod hi'n bwysig i'r sioe barhau i esblygu, er ei bod yn un o draddodiadau mwyaf sefydledig y calendr.

    "Mae e'n draddodiad o'r flwyddyn... ond mae isie dod â rhywbeth newydd o hyd," meddai ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru.

    Dywedodd fod y trefnwyr wedi cyflwyno atyniadau newydd dros y blynyddoedd, ac y bydd ardal Cynefin yn cael ei lansio eleni.

    "Ni'n trio rhoi rhyw ffresni newydd i rywbeth bob blwyddyn," meddai.

    Wynne Jones
    Disgrifiad o’r llun,

    Yr Athro Wynne Jones, Cadeirydd Bwrdd y Sioe Frenhinol, ar y maes bore 'ma

    Ar gyflwr y sector amaethyddol, dywedodd ei fod yn gweld rheswm dros optimistiaeth:

    "Dwi'n teimlo bod yna ryw awyrgylch positif yn dod i mewn... dewch i ni edrych ymlaen a thrio codi'n calonnau a symud ymlaen."

    Ond ychwanegodd fod y tywydd sych yn her sylweddol i ffermwyr.

    "Dwi wedi siarad efo ffermwyr yn barod a ma' lot ohonyn nhw yn porthi stoc," meddai.

    A dywedodd fod y sioe'n gyfle i atgoffa gwleidyddion o bwysigrwydd economi ehangach cefn gwlad.

    "Peidiwch â jyst meddwl mai jyst ffermio yw calon cefn gwlad - mae yna sawl gwahanol fusnes yn rhan o'r rhwydwaith hefyd."

  5. Y cystadlu wedi dechrau...wedi ei gyhoeddi 08:14 GMT+1 20 Gorffennaf

    Ceffylau
    Ceffylau
  6. Amserlen ddarlledu'r dydd gyda rhaglenni byw o faes y sioewedi ei gyhoeddi 08:09 GMT+1 20 Gorffennaf

    Mae sawl ffordd o fwynhau'r sioe eleni.

    Mae modd gwylio'r cystadlu'n fyw ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer gyda sylwebaeth ac is-deitlau Saesneg ar gael.

    Mi fydd Radio Cymru yn ei chanol hi hefyd ac mae'r rhaglenni canlynol yn darlledu'n fyw o'r maes heddiw:

    Dros Frecwast, Bore Cothi, Marc Griffith, Post Prynhawn, a Troi'r Tir.

    Ac mi fydd lluniau a fideos yn cael eu rhannu hefyd ar y cyfryngau cymdeithasol gan gyfrifon Cymru Fyw, Radio Cymru ac S4C drwy gydol yr wythnos.

    Radio Cymru
  7. Amser brecwast ar faes y Sioewedi ei gyhoeddi 08:02 GMT+1 20 Gorffennaf

    Elwen a Mandy Roberts

    Mae Elwen (chwith) a Mandy Roberts yn brysur ben bore ar stondin Hybu Cig Cymru.

    “‘Da ni’n paratoi at y brecwast ar hyn o bryd ac wedyn fydd 'na bob math o arddangosfeydd yn digwydd drwy’r wythnos a byddwn yn lansio ymgyrch ‘chwilio am y logo’,” meddai Elwen.

  8. Y Sioe yn dechrau prysuro yn barodwedi ei gyhoeddi 07:57 GMT+1 20 Gorffennaf

    Mae ffermwyr wedi hen arfer codi'n fore wrth gwrs, felly does dim syndod bod y maes parcio'n dechrau prysuro.

    Maes parcio
  9. 'Pleidlais o hyder yn y sector' - Llyr Gruffydd ar gynllun ffermio cynaliadwywedi ei gyhoeddi 07:50 GMT+1 20 Gorffennaf

    Dros Frecwast
    BBC Radio Cymru

    Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd, Llyr Gruffydd, fod y pecyn ariannu newydd o £340m y flwyddyn dros y tair blynedd nesaf yn rhoi'r "sicrwydd tymor hir" y mae'r sector amaethyddol wedi bod yn galw amdano.

    "Tan nawr mae'r diwydiant wedi gorfod mynd o flwyddyn i flwyddyn yn clywed faint o arian fydd ar gael. Nid yw hynny'n gydnaws â datblygu busnesau effeithiol a chynhyrchiol," meddai.

    Dywedodd fod y buddsoddiad, gwerth dros £1bn dros gyfnod y Senedd hon, yn "bleidlais o hyder yn y sector", nid yn unig am ei fod yn cefnogi cynhyrchu bwyd, ond hefyd y rôl y mae ffermwyr yn ei chwarae wrth gynnal cefn gwlad, yr amgylchedd a'r Gymraeg.

    Llyr Gruffydd yn cael ei gyfweld
    Disgrifiad o’r llun,

    Llyr Gruffydd yn cael ei holi gan Dylan Ebenezer

    Wrth drafod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, dywedodd ei fod yn hapus gyda'r cydbwysedd rhwng y taliad sylfaenol a'r haenau ychwanegol ar gyfer camau amgylcheddol. Ychwanegodd y bydd dros £100m y flwyddyn ar gael ar gyfer cynlluniau i wella cynhyrchiant, buddsoddi mewn isadeiledd a chefnogi mesurau fel plannu coed a ffermio organig.

    Dywedodd hefyd fod lleihau biwrocratiaeth yn parhau'n flaenoriaeth, gan bwysleisio nad yw'r llywodraeth yn bwriadu gostwng safonau, ond yn hytrach "cymryd y gwaith papur allan" lle bo hynny'n bosib.

  10. Cyllideb taliadau amaeth tan 2030 yn cynnig 'sicrwydd i ffermwyr'wedi ei gyhoeddi 07:47 GMT+1 20 Gorffennaf

    Steffan Messenger
    Gohebydd Amgylchedd BBC Cymru

    Ar ddiwrnod cyntaf y sioe eleni mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd mwy na biliwn o bunnau'n cael ei glustnodi i'r cynllun cymhorthdaliadau newydd i ffermwyr dros dymor y Senedd.

    Roedd cyflwyno cyllideb fyddai'n para am nifer o flynyddoedd er mwyn helpu ffermwyr i gynllunio at y dyfodol yn un o addewidion Plaid Cymru ar gyfer eu 100 niwrnod cyntaf mewn grym.

    Ond mae'r cynnig o £340m y flwyddyn tua'r un swm ag y mae ffermydd wedi'i dderbyn ers 2012 - roedd grwpiau amaeth ac amgylchedd wedi bod yn galw am yn nes at £500m y flwyddyn.

    Dywedodd y gweinidog amaeth Llyr Gruffydd fod yr arian yn "isafswm" fyddai'n cael ei warchod ar gyfer ffermio, gan gynnig "sicrwydd a sefydlogrwydd" i'r sector.

    Darllenwch fwy am y stori yma.

    Steffan Messanger a Dylan Ebenezer
    Disgrifiad o’r llun,

    Gohebydd Amgylchedd BBC Cymru Steffan Messenger yn cael ei holi gan Dylan Ebenezer ar raglen Dros Frecwast ar faes y Sioe

  11. Gweinidog dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd: 'Mae'n drasiedi o'r radd eithaf'wedi ei gyhoeddi 07:40 GMT+1 20 Gorffennaf

    Llyr Gruffydd

    Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd, Llyr Gruffydd, fod marwolaeth y dyn ifanc ger maes y sioe dros y penwythnos yn "newyddion trist tu hwnt".

    "Mae rhywun yn meddwl am y teulu a'r ffrindiau sydd wedi cael eu heffeithio gan hyn," meddai.

    Ychwanegodd fod y digwyddiad yn "atgoffa ni pa mor bwysig yw hi ein bod ni gyd yn edrych ar ôl ein gilydd", gan ddweud ei fod yn hyderus y bydd cymuned y sioe yn "rhoi breichiau o gwmpas y rhai sydd wedi cael eu heffeithio".

  12. Tri wedi eu harestio wedi'r digwyddiad ar Fferm Penmaenauwedi ei gyhoeddi 07:38 GMT+1 20 Gorffennaf

    Llun cyffredinol o garafanau ar faes gwersylla Fferm Penmaenau, Llanelwedd

    Yn dilyn marwolaeth y dyn 25 oed mae tri dyn wedi cael eu harestio ar amheuaeth o droseddau'n ymwneud â chyffuriau.

    Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw tua 22:30 nos Sadwrn yn dilyn “adroddiad o argyfwng meddygol" ar Fferm Penmaenau yn Llanelwedd.

    Dywedodd y llu bod y dyn wedi marw yn y fan a'r lle "er gwaethaf ymdrechion gorau parafeddygon".

    Mwy am y stori yma.

  13. Ymchwiliad Heddlu Dyfed-Powys i farwolaeth dyn, 25 oed, yn parhauwedi ei gyhoeddi 07:32 GMT+1 20 Gorffennaf

    Maes carafannau

    Cyn i'r Sioe ddechrau'n swyddogol fe ddaeth “newyddion trasig” bod dyn wedi marw mewn safle gwersylla yn ardal y sioe.

    Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn dweud eu bod yn “hynod drist” ac mae’r heddlu’n dweud bod eu “meddyliau gyda theulu'r dyn ifanc ar yr adeg anodd yma”.

    Mae teulu'r dyn a fu farw yn cael cefnogaeth swyddogion arbenigol.

  14. Croeso atom ar ddiwrnod cyntaf y Sioe Fawrwedi ei gyhoeddi 07:25 GMT+1 20 Gorffennaf

    Y maes

    Mae gohebwyr Cymru Fyw ar y maes yn barod bore 'ma er mwyn dod â'r diweddaraf i ni.

    Dilynwch y llif byw yma a chyfrifon Cymru Fyw ar Instagram, Facebook a TikTok yn ystod y dydd.