Crynodeb

  1. Ciwio i weld campau ar y cwadwedi ei gyhoeddi 13:32 GMT+1 20 Gorffennaf

    Ciwio i'r prif gylch

    Mae 'na giw i fynd mewn i’r prif gylch ble mae Paul Hannam ar fin dechrau gwneud campau ar ei feic cwad.

  2. Atyniad newydd eleni sy'n ymwneud â defaidwedi ei gyhoeddi 13:22 GMT+1 20 Gorffennaf

    Defaid

    Am y tro cyntaf ar y maes mi fydd yna bentref defaid newydd sbon - o'r enw Cynefin - i ddathlu rôl hanfodol ffermio defaid yng Nghymru.

    Peli gwlân
    Disgrifiad o’r llun,

    Gwlân o liwiau gwahanol yn y pentref defaid Cynefin

    Mae ar safle hen Bafiliwn yr NSA os oes awydd gyda chi i fynd yno ac mi fydd amrywiaeth o weithgareddau ac arddangosfeydd yn cael eu cynnal.

    Cynefin
    Maharan
  3. Hufen iâ a gwylio beiciau cwad - am gyfuniadwedi ei gyhoeddi 13:09 GMT+1 20 Gorffennaf

    Elin a Ross

    Yn mwynhau gyda'i thad Ross, mae Elin o Ben-y-bont ar Ogwr wedi cael hufen iâ mefys a bubblegum. Maen nhw ar y ffordd i weld y beiciau cwad nesa'!

  4. Angen ysgol i drin y ceffylau gwedd!wedi ei gyhoeddi 13:02 GMT+1 20 Gorffennaf

    Person ar ystol yn trin ceffyl gwedd
  5. Cyngor ar sut i ymdopi â'r tywydd cynnes ar faes y Sioewedi ei gyhoeddi 12:53 GMT+1 20 Gorffennaf

    Gyda'r tymheredd yn uchel ar faes y Sioe, dyma gyngor y gwasanaeth ambiwlans ar sut i ymdopi.

    Disgrifiad,

    Sut i ymdopi â'r tywydd cynnes ar faes y Sioe?

  6. Nerfau cefn llwyfan - y sied ddefaid yn brysurwedi ei gyhoeddi 12:45 GMT+1 20 Gorffennaf

    Sied ddefaid
  7. Prysuro ar y maes a rhai yn manteisio ar y cysgodwedi ei gyhoeddi 12:39 GMT+1 20 Gorffennaf

    Pobl ar y maes

    Mae'n bwysig cael saib o'r haul, ac mae ambell i fannau â chysgod naturiol o gwmpas y maes.

    Cysgodi o dan y coed
  8. Cystadleuaeth torri coed yn edrych yn heriolwedi ei gyhoeddi 12:32 GMT+1 20 Gorffennaf

    Yn ogystal â'r cystadlaethau traddodiadol, mae 'na amrywiaeth eang gyda'r rhai yma'n ceisio dringo coed mor sydyn â phosib.

    Matthäus o'r Weriniaeth Tsiec sydd yn arwain y ffordd...

    Disgrifiad,

    Pwy fydd yn cyrraedd y brig?

  9. Dim mynediad fan hyn! Beirniaid yn unigwedi ei gyhoeddi 12:20 GMT+1 20 Gorffennaf

    Giat wedi cau gyda teisennau yn y cefndir

    Dim ond y beirniaid sy'n cael bod yn yr adran ar gyfer cystadleuaeth goginio ar hyn o bryd.

    Mae rhai o ohebwyr Cymru Fyw ar y maes eisiau secondiad...

    Potiau llawn jam
    Cacennau
  10. Digon o adrenalin ar y maeswedi ei gyhoeddi 12:10 GMT+1 20 Gorffennaf

    Tra bod rhai yn treulio diwrnod yn ymlacio o gwmpas y maes, i eraill mae'n ddiwrnod egnïol iawn...

    Torri a dringo coed
    Disgrifiad o’r llun,

    Cystadleuaeth dringo coed

    Dau blentyn ar wifren 'zip'
    Disgrifiad o’r llun,

    Gwibio ar draws y maes

  11. Y cynllun cymhorthdaliadau newydd am ‘ddinistrio’r sector’ meddai’r Ceidwadwyrwedi ei gyhoeddi 12:01 GMT+1 20 Gorffennaf

    Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod cynllun gwario hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer amaethyddiaeth yn "doriad mewn termau real" a fydd yn "dinistrio'r sector".

    Cyhoeddwyd heddiw bod cynlluniau cymhorthdaliadau ffermydd am dderbyn £340m y flwyddyn – yr un swm ag y mae ffermydd wedi'i dderbyn ers 2012.

    Mae Gweinidog Amaethyddiaeth y Cabinet Cysgodol, Andrew RT Davies, yn dweud bod hyn yn cynrychioli "toriad sylweddol mewn termau real" pan mae chwyddiant yn cael ei ystyried.

    Dywedodd bod grwpiau amaethyddol ac amgylcheddol wedi rhybuddio bod angen £500m y flwyddyn – ac ychwanegodd bod y cytundeb ymhell o fodloni'r hyn mae ffermwyr wedi dweud sy'n angenrheidiol.

  12. Aelodau Mudiad Clybiau Ffermwyr Ifanc wedi recordio fersiwn newydd o gân Bwncathwedi ei gyhoeddi 11:56 GMT+1 20 Gorffennaf

    Fel rhan o ddathliadau'r mudiad yn 90 oed, mae aelodau Mudiad Clybiau Ffermwyr Ifanc wedi recordio fersiwn newydd o gân Bwncath, 'Fel Hyn 'Da Ni Fod'.

    Maen nhw'n cynnal cyfres o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn i nodi'r garreg filltir ond dyma un o'r pethau y maen nhw fwyaf balch ohono medden nhw.

    Cyfansoddwyr: Llywelyn Elidyr Glyn; Twm Ellis; Robin Llwyd Jones ac Alun Williams

    Trefniant: Lisa Angharad

    Cynhyrchwyr y gân: Lisa Angharad ac Ifan Emlyn Jones

    Camera: Gareth Vaughan Jones a Steve Kingston

    Cyfarwyddo: Terwyn Davies

    Golygydd fideo: David L Rees

    Cynhyrchiad Telesgop ar gyfer BBC Radio Cymru

    Nid yw’r post yma ar YouTube yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar YouTube
    Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys YouTube.
    I osgoi fideo youtube

    Caniatáu cynnwys YouTube?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys YouTube.
    Diwedd fideo youtube
  13. Anifail fferm y dyfodol?!wedi ei gyhoeddi 11:51 GMT+1 20 Gorffennaf

    Mae digon o drafod am addasu a moderneiddio o fewn y diwydiant amaeth, ond ydi hwn gam yn rhy bell?!

    Ewch draw i stondin Prifysgol Aberystwyth i gael golwg pellach.

    Robot ci
  14. Y côr meibion lleol yn diddanu'r dorfwedi ei gyhoeddi 11:44 GMT+1 20 Gorffennaf

    Mae digon o adloniant o bob math ar draws y maes, gan gynnwys Côr Meibion Llanfair-ym-Muallt yn perfformio ar stondin Trafnidiaeth Cymru.

    Cor Meibion
  15. Moch ar y maes wedi blino'n barodwedi ei gyhoeddi 11:36 GMT+1 20 Gorffennaf

    Gydag wythnos hir o gystadlu i ddod mae'n bwysig bachu ar unrhyw gyfle i gael cwsg bach.

    Moch
    Moch
  16. Ffefryn Elian ydy'r gystadleuaeth torri coed!wedi ei gyhoeddi 11:28 GMT+1 20 Gorffennaf

    Eilian

    Mae Elian, o Gorwen, yn mwynhau gweld y geifr ond yn edrych ymlaen fwyaf at y gystadleuaeth torri coed.

    Mae e hefyd, wrth gwrs, yn edrych ymlaen at weld yr holl dractors.

  17. Beth yw prif atyniadau'r wythnos?wedi ei gyhoeddi 11:25 GMT+1 20 Gorffennaf

    Trol a cheffyl

    Gyda phedwar diwrnod o gystadlu brwd rhwng heddiw a dydd Iau bydd rhywbeth at ddant pawb gyda rhai wedi teithio o bell i gystadlu a gwylio. Ac ymhlith prif atyniadau'r wythnos mae:

    • Sioe styntiau beic cwad Paul Hannam
    • Grand National y Merlod Shetland
    • Tîm arddangos parasiwtio milwrol, yr RAF Falcons
    • Sioe gan Hawkeye Falconry UK
    • Arddangosfa Meirion Owen a'i Gŵn Defaid
    • Gyrru Cerbydau Tristar
    • Pentref y Ceffylau Trwm

    Ond cofiwch - mae'r holl fanylion ar gael ar ap y Sioe Frenhinol.

  18. Tro'r gwartheg yn y cylchwedi ei gyhoeddi 11:20 GMT+1 20 Gorffennaf

    Gwartheg
  19. Ydych chi yma am yr wythnos? Mae Zoe ac Efa am fodwedi ei gyhoeddi 11:16 GMT+1 20 Gorffennaf

    Mae Zoe (chwith) ac Efa yn y Sioe am yr wythnos i gyd ac yn dangos defaid mynydd Cymreig.

    Zoe ac Efa gyda defaid
  20. Ond ai y rhain a ddaeth gynta'?wedi ei gyhoeddi 11:10 GMT+1 20 Gorffennaf

    Adar