P-ŵy fydd yn fuddugol?wedi ei gyhoeddi 11:08 GMT+1 20 Gorffennaf

Y gystadleuaeth ar gyfer yr wyau gorau - rhan o draddodiad y Sioe ers blynyddoedd ac sydd bron mor hen â thraddodiad newyddiadurwyr yn chwarae ar y gair ŵy mewn penawdau.

Diwrnod cyntaf y Sioe Fawr yn Llanelwedd - eleni Sir Frycheiniog sy'n noddi
Nifer yr anifeiliaid sy'n cystadlu yn uchel - disgwyl tua 60,000 i ymweld â'r Sioe bob dydd
Teulu yn rhoi teyrnged i "fab, brawd ac ŵyr annwyl a hoffus" a fu farw yn ardal y Sioe ddydd Sadwrn
Ymchwiliad yn parhau ac mae tri wedi cael eu harestio
Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru a'r Gweinidog Llyr Gruffydd yn dweud eu bod yn "hynod o drist" o glywed "y newyddion trasig"
Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd mwy na biliwn o bunnau'n cael ei glustnodi i'r cynllun cymhorthdaliadau newydd i ffermwyr dros y tair blynedd nesaf
CFFI yn dathlu pen-blwydd 90 yn y Sioe - cinio mawreddog wedi'i gynnal nos Sadwrn

Y gystadleuaeth ar gyfer yr wyau gorau - rhan o draddodiad y Sioe ers blynyddoedd ac sydd bron mor hen â thraddodiad newyddiadurwyr yn chwarae ar y gair ŵy mewn penawdau.

'Heb amaeth heb faeth' ydi slogan poblogaidd ffermwyr, felly does ryfedd bod y neuadd fwyd yn boblogaidd!



Wrth ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru bod £1bn dros dair blynedd wedi ei glustnodi i gynllun cymhorthdaliadau newydd, dywedodd plaid Reform bod amaethwyr angen mwy o arian gan fod costau wedi cynyddu.
Mae’r ffigwr o £340m y flwyddyn tua'r un swm ag y mae ffermydd wedi'i dderbyn ers 2012.
Ers gadael yr Undeb Ewropeaidd, roedd y drefn ariannol wedi bod yn un blynyddol yn hytrach na saith mlynedd cyn Brexit.
Wrth wneud y cyhoeddiad heddiw dywedodd y gweinidog amaeth Llyr Gruffydd fod cynllun tair blynedd yn cynnig "sicrwydd a sefydlogrwydd" i'r sector.
Ond meddai Ysgrifennydd Cabinet Cysgodol Reform dros Fwyd, Ffermio a Materion Gwledig, Laura Anne Jones: “Mae sicrwydd cyllido aml-flwyddyn i'w groesawu, ond nid yw sicrwydd yn unig yn ddigon.
“Mae'r sector ffermio wedi rhybuddio'n gyson bod angen tua £500m y flwyddyn. Mae £340m yn dal i fod ymhell o fod yn ddigon ar gyfer yr hyn sydd ei angen ar lawer o ffermydd.
“Rhaid i'r cyhoeddiad hwn fod yn ddechrau, nid y diwedd. Bellach, mae angen cynllun ar ffermwyr sy'n gweithio i bob sector a phob math o fferm.”

Cymeradwyaeth i griw 'O'r Mart i'r Maes'
Fe gafodd criw o ffermwyr groeso arbennig wedi iddyn nhw gyrraedd maes y Sioe ar ôl cerdded yr holl ffordd o Ynys Môn.
Roedden nhw wedi cyflawni her unigryw er mwyn codi arian ar gyfer ymchwil canser.
Penderfynodd Meirion Pugh o Fotwnnog y byddai ef a chriw o ffrindiau'n cerdded dros 130 milltir - 'O'r Mart i'r Maes'.
Dechreuon nhw ben bore Mercher 15 Gorffennaf o Ganolfan Arwerthu Gaerwen er mwyn cyrraedd Llanelwedd erbyn dechrau'r Sioe Fawr.
Dywedodd Meirion ei fod "at achos mor deilwng ac mae 'na rywun yn r'wla yn gwybod am rywun reit agos sydd hefo'r clefyd".
Darllenwch fwy am y stori yma.
Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannyddSyniad Meirion Pugh o Fotwnnog oedd yr ymgyrch

Mae hi'n gyfarwydd iawn â'r Sioe Fawr, ac fe fydd Shân Cothi'n darlledu’n fyw o’r maes eto eleni.
Mae'r cyflwynydd wrthi'n paratoi ar gyfer ei rhaglen ac fe fydd hi'n darlledu am 11:00 ar BBC Radio Cymru.

Mae mwy o wartheg yn cystadlu eleni nag ers cyfnod Covid.
Gyda 818 yn cystadlu - 673 bîff a 145 godro - dyma’r nifer uchaf ers pum mlynedd.

Mae’n dechrau prysuro ar y maes erbyn hyn.
Mae disgwyl tua 60,000 o bobl i ymweld â’r Sioe bob dydd - sy’n dipyn o gynnydd ar y 2,500 sy’n byw yn Llanelwedd.
Mae nifer y moch sy'n cystadlu eleni yr uchaf ers degawd.
Does yna ddim lle i fwy o ddefaid chwaith wrth i 2,939 fentro i'r cylch.
Dywed trefnwyr y Sioe bod nifer y ceffylau hefyd yn galonogol yn sgil y ffliw - mae'r nifer yn debyg i'r llynedd sef 2,646.
Rhian (chwith) a Mari Lloyd o Frynaman yma am yr wythnos gyfan.
Maen nhw'n dangos defaid heddi ac yn falch iawn bod y sied ddefaid yn ddigon oer.

Mae'r anifeiliaid yn amyneddgar ar y maes ac mae'r ffans yn gweithio'n galed i gadw'r tymheredd yn oer.


Brynhawn Llun bydd Côr Ffermwyr Hawkstone yn perfformio ar y maes - sef côr buddugol rhaglen Britain's Got Talent yn gynharach eleni.
Cafodd y côr ei sefydlu'n wreiddiol gan Jeremy Clarkson.
Mae Aled Wyn Davies, sy'n ffermwr o Lanbrynmair, yn un o bedwar Cymro sy'n aelod o Gôr Ffermwyr Hawskstone.
Yn gynharach dywedodd Aled: "Fe ddechreuodd y côr tua blwyddyn yn ôl jest yn gwneud y jingles 'ma i'r hysbyseb cwrw, a nawr wedi ennill Britain's Got Talent, dwi jest methu coelio'r peth."
Syniad gwreiddiol y côr oedd i godi ymwybyddiaeth ac i gefnogi ymgyrchoedd iechyd meddwl ymysg ffermwyr.
Ffynhonnell y llun, Chris Slatter/BBC Images
Bydd Cymru Fyw a Radio Cymru yn dod â'r diweddara' i chi o'r sioe drwy'r wythnos, ac fe fydd digon o straeon meddai cyflwynydd rhaglen Dros Frecwast, Dylan Ebenezer.
Trel Dylan
Dros Frecwast
BBC Radio Cymru
Ffynhonnell y llun, bbcGareth Parry, uwch swyddog polisi a chyfathrebu FUW
Mae’r undebau amaeth ar faes y Sioe wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru am sicrwydd taliadau tan 2030.
O dan system yr Undeb Ewropeaidd roedd cynllun saith mlynedd i gymorthdaliadau ariannol, ond ers Brexit mae hynny wedi newid i un blynyddol.
Mewn cyfweliad ar faes y Sioe ar raglen Dros Frecwast fe wnaeth Gareth Parry, uwch swyddog polisi a chyfathrebu i Undeb Amaethwyr Cymru, groesawu'r cyhoeddiad am gynllun ffermio cynaliadwy.
Meddai: “Mae’r newyddion yma bore ‘ma bod geno ni sicrwydd am dair blynedd yn wych iawn ac yn dangos bod y Llywodraeth Cymru newydd yn parhau i wrando ac yn parhau i ddod â newid i’r diwydiant yn reit fuan ar ôl yr etholiad.”

Paul Williams, dirprwy lywydd NFU Cymru
Fe wnaeth Paul Williams, dirprwy lywydd NFU Cymru, hefyd groesawu’r newyddion gan ddweud y byddai’n rhoi “sicrwydd i allu cynllunio” i amaethwyr.
Ond gyda’r ffigwr - £1bn dros dair blynedd - tua'r un swm ag y mae ffermydd wedi'i dderbyn ers 2012, pwysleisiodd bod angen parhau i drafod.
Meddai: “Fedrwn ni ddim mae’n debyg gofyn am fwy na be’ ydi term y llywodraeth yma yng Nghymru ac felly rydan ni wedi sicrhau hynny rŵan, ac mae o i’w groesawu.
“Dydi o ddim yn deud wrth gwrs na fyddwn ni, pan gawn ni’r cyfle, yn gofyn am chwyddiant o leia’ yn y gyllideb, ond rydan ni yn dallt wrth gwrs bod pres yn dynn.”

Mae Rhiannon Jones, sy'n gweithio ar stondin Calon Wen, yn dweud ei bod yn edrych mlaen at yr wythnos.
"Gobeitho fydd na ddigon o fwrlwm yma a cyfle i joio fyd,” meddai.
Mae sawl pen-blwydd nodedig yn cael ei ddathlu yn y Sioe eleni.
Mae'r Gymdeithas Merlod a Chobiau Cymreig yn 125 a'r Ffermwyr Ifanc yn 90.
Nos Sadwrn bu cinio mawreddog ar faes y Sioe yn dathlu'r pen-blwydd arbennig.
Ffynhonnell y llun, Tegwen MorrisWrth siarad â Cymru Fyw ar Faes y Sioe bore 'ma, dywedodd Mared Rand Jones, Prif Weithredwr y mudiad ei bod hi'n "anrhydedd i fod yn brif weithredwr ar yr adeg yma.
"Ni wedi credu'n gryf ei bod hi'n bwysig dathlu, felly ni wedi 'neud sawl digwyddiad bach i ddathlu mewn steil.
"Ma' bod yn y Sioe i ddathlu'r 90 yn rhywbeth arbennig," gan ychwanegu bod yr wythnos hon yn "binacl y flwyddyn" i'r mudiad.
CFfI Cymru yn 90: 'Anrhydedd bod yn Brif Weithredwr ar yr adeg yma'
Mae digon o gystadlu drwy'r dydd, ac ymysg y prif gystadlaethau ar y diwrnod agoriadol mae'r moch Cymreig am hanner dydd.
Ac am 16:00 ewch draw i'r cylch gwartheg ar gyfer y gystadleuaeth bîff unigol.

Sir Frycheiniog sy'n noddi'r sioe eleni - y pumed tro iddyn nhw wneud hynny - y tro diwethaf yn 2012 a chyn hynny yn 1997, 1980 a 1964.
Y llywydd anrhydeddus yw Gethin Havard - mae e a'i ddau frawd yn ffermio ym Mhontsenni.
Nos Sul - roedd Elin, merch Gethin, yn un o'r rhai a oedd yn arwain Moliant y Maes.
Ffynhonnell y llun, Y Sioe FawrMoliant y Maes ar faes y Sioe nos Sul
I estyn croeso i'r Sioe mae'r bardd lleol John Meurig Edwards o Aberhonddu wedi cyfansoddi soned:
Yng nghymoedd ac ar fryniau mwyn ein sir
Mae’r croeso’n ddidwyll ac yn ddi-ben-draw;
Mae rhyw dynerwch rhiniol yn y tir,
A naws gartrefol, braf i’r rhai a ddaw.
Mae’r olion hanesyddol ym mhob man
Yn dystion i’n gorffennol lliwgar ni,
A’r miloedd sydd yn troedio Pen y Fan
Gânt eu gwefreiddio gan yr harddwch fry.
Er gyrru deiliaid Epynt gynt ar ffo,
A rhathiad gynnau yn disodli bref,
Dal i amddiffyn etifeddiaeth bro
A wna’r gymdeithas amaethyddol gref;
Mae’n gwreiddiau praff yn ddwfn yn naear ddoe,
A braint i’n sir yw estyn nawdd i’r Sioe.

Fe fydd angen digon o eli haul a dŵr ar faes y Sioe heddiw wrth i’r tywydd poeth diweddar barhau.
Mae rhagolygon am ddiwrnod cynnes arall gyda’r tymheredd yn codi i 25 gradd erbyn canol y prynhawn.
Ac er ei bod yn argoeli’n wythnos braf am weddill yr wythnos hefyd, fe fydd yr amaethwyr yn y Sioe yn siŵr o fod yn trafod y newyddion mawr bod glaw ar y ffordd wythnos nesaf...