Crynodeb

  1. Aelod ieuengaf erioed Bwrdd yr Orseddwedi ei gyhoeddi 09:38 GMT+1 7 Awst

    Elain Gwynedd yw'r person ieuengaf erioed i gael ei hethol i Fwrdd yr Orsedd.

    Cafodd ei hurddo i'r Orsedd y llynedd, cyn cael ei hethol i fod yn aelod o Fwrdd yr Orsedd.

    Mae Elain hefyd yn rhan o dîm darlledu Radio Cymru yn yr Eisteddfod, ac wedi bod yn cystadlu gyda Chôr Taflais yn ystod yr wythnos.

    Gwrandewch ar ei sgwrs gyda Ffion Emyr ar y maes ddoe.

  2. Paratoi ar gyfer urddo aelodau newydd Gorsedd Cymruwedi ei gyhoeddi 09:32 GMT+1 7 Awst

    Mae'n brysur wrth Gylch yr Orsedd wrth i gynulleidfa gyrraedd ar gyfer seremoni urddo aelodau newydd Gorsedd Cymru.

    Bydd y seremoni'n dechrau am 10:00.

    Mae rhestr o'r aelodau newydd yma.

    Cylch yr Orsedd
    Cylch yr orsedd
  3. 'Byddai yn edrych yn ôl gyda gwên lydan'wedi ei gyhoeddi 09:28 GMT+1 7 Awst

    BBC Radio Cymru

    John Davies

    Dywedodd John Davies, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Y Garreg Las, ei fod wedi mwynhau'r profiad yn fawr.

    "Mae wedi bod yn wythnos o gynnyrch arbennig iawn, mae wedi bod yn gynhyrchiol iawn," meddai ar Dros Frecwast.

    "Ni wedi bod yn edrych ymlaen mor hir am yr wythnos hon, a byddai yn edrych yn ôl gyda gwên lydan ar ran fy nghydweithwyr.

    "Rwy' wedi bod mor ffodus i gyd-gerdded y daith hon gyda phobol da y dair sir ac mae nhw wedi haeddu llwyddiant.

    "Maen nhw wedi ei weld e ac wedi ei gyffwrdd e. Y gyfrinach yw bod pawb wedi cyd-dynnu yn dda gyda'i gilydd."

  4. Cadeirio'r prifardd fydd prif seremoni'r Eisteddfod heddiwwedi ei gyhoeddi 09:15 GMT+1 7 Awst

    Y gadairFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol

    Fe fydd enillydd cadair Eisteddfod y Garreg Las yn cael ei gyhoeddi y prynhawn 'ma, os bydd teilyngdod.

    Beirniaid y gystadleuaeth eleni yw Idris Reynolds, Mererid Hopwood a Carwyn Eckley - enillydd y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf.

    Roedd gofyn i ymgeiswyr gyfansoddi awdl neu gasgliad o gerddi mewn cynghanedd gyflawn ar fwy nag un o'r mesurau traddodiadol - hyd at 250 o linellau ar y testun Llinell/Llinellau.

    Mae'r gadair yn rhoddedig eleni gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a'r wobr o £750 yn rhoddedig gan Geraint a Siân James, Siop Awen Teifi, Aberteifi.

  5. Sut mae cyrraedd maes yr Eisteddfod?wedi ei gyhoeddi 09:08 GMT+1 7 Awst

    map

    Heb deithio i'r Maes eto? Neu'n bwriadu gwneud y daith dros y penwythnos?

    Mae'r holl wybodaeth sydd ei angen arnoch chi yma ar wefan ac ap Cymru Fyw.

    Boed chi'n bwriadu teithio mewn car, ar fws neu ar drên - gallai'r erthygl yma eich rhoi ar ben ffordd.

  6. Bore braf ar y maes...wedi ei gyhoeddi 09:02 GMT+1 7 Awst

    arwyddion
    arwydd eisteddfod
    cerrig yr orsedd
  7. Croeso i ddydd Gwener Eisteddfod y Garreg Laswedi ei gyhoeddi 09:00 GMT+1 7 Awst

    Croeso i'n llif byw ar ddydd Gwener yr Eisteddfod Genedlaethol - diwrnod y Cadeirio.

    Mae gohebwyr Cymru Fyw allan yn crwydro'r maes unwaith eto er mwyn dod â'r newyddion diweddaraf i chi.

    Mae'n braf cael eich cwmni!

    dawnswyrFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol