Crynodeb

  1. Dathlu bywyd a chyfraniad Sioned Jameswedi ei gyhoeddi 15:12 GMT+1 7 Awst

    Ar lwyfan Encore neithiwr, cynhaliwyd digwyddiad i gofio bywyd a chyfraniad Sioned James, 10 mlynedd ers ei cholli.

    Roedd Betsan Powys yn cymryd rhan yn y sesiwn a bu'n rhannu mwy gyda Ffion Emyr ar Radio Cymru.

    Meddai Betsan: "Roedd Sioned yn rhyfeddol, yn gadael ôl. Dyna oedd yn cael ei ddathlu, gyda gwên a llawer o ddagrau hefyd."

    Yn hanu o Landysul, dechreuodd diddordeb cerddorol Sioned James yn ifanc. Roedd hi'n aelod o sawl côr, gan gynnwys Cantorion Teifi a Chôr Ieuenctid Cenedlaethol Cymru.

    Gyda Chôrdydd, cafodd sawl llwyddiant, gan gynnwys ennill teitl Côr Radio'r Flwyddyn y BBC yn 2003. Daeth y côr hefyd yn fuddugol yng nghystadleuaeth Côr Cymysg yr Eisteddfod Genedlaethol nifer o weithiau.

    Hefyd yn rhan o banel y digwyddiad roedd Heledd Cynwal, Islwyn Evans a Huw Foulkes.

    Gwrandewch ar sgwrs Betsan Powys gyda Ffion Emyr isod.

  2. Prysuro yn y Pafiliwnwedi ei gyhoeddi 15:02 GMT+1 7 Awst

    Mae Seremoni'r Cadeirio yn dechrau ymhen awr, ac mae ciw mawr eisoes wedi ffurfio y tu allan i'r Pafiliwn.

    pafiliwn
  3. Sinemaes yn llawn ar gyfer sgwrs gyda sêr Shadogwedi ei gyhoeddi 14:56 GMT+1 7 Awst

    Roedd y Sinemaes yn llawn wrth i Meinir a Gary Howells a'u plant sgwrsio am ffilmio'r gyfres deledu Shadog - sy'n dilyn hynt a helynt y teulu sy'n byw ger Llandysul

    Sinemaes
  4. Cymdeithas yr iaith yn lansio 'Siarter Troi'r Llanw'wedi ei gyhoeddi 14:47 GMT+1 7 Awst

    Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

    Mae Cymdeithas yr Iaith wedi lansio siarter gyda 10 galwad polisi i Lywodraeth Cymru eu gweithredu ar frys.

    Mewn digwyddiad ar Faes yr Eisteddfod, fe wnaeth y mudiad amlinellu camau penodol gyda'r nod o "drawsnewid sefyllfa'r Gymraeg a’i chymunedau".

    Mae Siarter Troi'r Llanw yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Deddf Eiddo ac i weithredu ar holl argymhellion adroddiadau’r Comisiwn Cymunedau Cymraeg.

    Dywedodd Siân Howys ar ran Cymdeithas yr Iaith: “Er gwaetha’r degawdau o ymgyrchu ac aberth, a chefnogaeth gref gan y cyhoedd, mae llanw uchel yn parhau i fygwth y Gymraeg a’n cymunedau.

    "Mae’r nifer o siaradwyr Cymraeg yn gostwng ac mae’r cymunedau lle mae’r Gymraeg ar ei chryfaf yn lleihau ac o dan bwysau mawr.

    "...Mae pobl Cymru wedi aros yn rhy hir i fedru defnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd o’u bywydau ac am gymunedau ffyniannus lle mae strwythurau cydeithasol ac economaidd yn rhoi ystyriaeth digonol i’r angen i gynnal ac adfywio’r Gymraeg.

    "Yn wyneb y cyd-destun gwleidyddol newydd, dyma’r cyfle i weithredu a chyflwyno’r newidiadau sylfaenol sydd eu hangen ar frys er mwyn i'r Gymraeg fyw."

    Dywedodd Llywodraeth Cymru mewn ymateb blaenorol: "Mae'r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, ac rydym yn cymryd camau i sicrhau'r dyfodol cryfaf posibl i'r Gymraeg yn ein hysgolion, ein cymunedau a'n gweithleoedd."

  5. Prysuro draw wrth Lwyfan y Maes... a chiw ar gyfer yr hufen iâ!wedi ei gyhoeddi 14:38 GMT+1 7 Awst

    llwyfan y maes
    ciw ar gyfer hufen iâ
  6. Mentro i'r maes o Faes Bwedi ei gyhoeddi 14:25 GMT+1 7 Awst

    Roedd Gabriel, Zack a Morgan wedi mwynhau yn Maes B neithiwr ac wedi crwydro i'r prif faes i chwilio am rhywbeth i fwyta cyn paratoi ar gyfer noson arall draw yn y maes ieuenctid!

    Gabriel, Zack a Morgan
  7. Diwedd cyfnod i'r Archdderwydd, Mererid Hopwoodwedi ei gyhoeddi 14:14 GMT+1 7 Awst

    Seremoni'r Cadeirio y prynhawn 'ma fydd seremoni olaf yr Archdderwydd presennol, Mererid Hopwood ar faes yr Eisteddfod.

    Bydd yr Archdderwydd newydd,Tudur Dylan, yn cael ei gyflwyno i gynulleidfa'r Pafiliwn ar ddechrau'r seremoni honno.

    Ni fydd yr Archdderwydd Mererid yn trosglwyddo'r awenau yn swyddogol tan ddechrau Seremoni Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol 2028, a fydd yn digwydd yn haf 2027.

    Mae modd darllen mwy am Tudur Dylan a'r broses o'i ethol yn Archdderwydd yma.

    Mererid HopwoodFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
  8. Dathlu cyfoeth cerddorol ardal y Garreg Laswedi ei gyhoeddi 14:09 GMT+1 7 Awst

    Roedd yr actor a'r cerddor Ryland Teifi yn rhan o Sefyll ar y Sgwâr nos Fawrth; sioe a oedd yn dathlu cyfraniad Richard a Wyn Jones, sylfaenwyr stiwdio Fflach Aberteifi.

    "Roedd hi'n fwy na sioe, roedd hi'n ddigwyddiad. Roedd yn tynnu ar gôr anferth, cast a chriw oedd â chymaint o gysylltiadau â Rich, Wyn, Fflach ac Aberteifi," meddai.

    "Roedd hi'n sioe gymunedol enfawr, a dydy rhywun ddim yn cael cyfle i wneud hynny'n aml."

    Ar y maes ddoe, bu hefyd yn rhannu atgofion am Ŵyl y Cnapan, a sefydlwyd gan ei dad, Garnon Davies. Roedd yr ŵyl yn cael ei chynnal yn Ffostrasol, sydd tua hanner awr o safle Eisteddfod y Garreg Las.

    Gwrandewch yn llawn isod.

  9. Cyfle i wleidyddawedi ei gyhoeddi 13:58 GMT+1 7 Awst

    Prif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth oedd gwestai Bethan Rhys Roberts, Vaughan Roderick a'r Athro Richard Wyn Jones heddiw ac roedd y Babell Lên yn orlawn.

    Yn ôl Rhun ap Iorwerth, mae ganddo “berthynas dda” â phrif weinidog newydd y DU, Andy Burnham - ond amser a ddengys sut y bydd hynny’n dwyn ffrwyth.

    Gwadodd hefyd ei fod wedi “parcio” ei ddyhead am annibyniaeth, ond disgrifiodd ei hun fel “cenedlaetholwr pragmataidd” gan ddweud bod Cymru ar “daith” tuag at yr amcan hwnnw.

    Os fethoch chi’r digwyddiad, bydd hefyd modd gwrando arni ar bodlediad Gwleidydda ar BBC Sounds maes o law.

    Gwleidydda
  10. Beth yw'r ymateb ar y maes i grysau pêl-droed newydd Cymru?wedi ei gyhoeddi 13:44 GMT+1 7 Awst

    Tomos, Gleb a Dan
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Tomos, Gleb a Dan yn hoff iawn o'r crysau newydd ac yn eu gwisgo o amgylch y maes heddiw

  11. 'Coflaid gan Gymru gyfan'wedi ei gyhoeddi 13:37 GMT+1 7 Awst

    Heledd Cynwal

    Eisiau darllen mwy am y degau o bobl a gafodd eu hurddo i Orsedd Cymru ar faes Eisteddfod y Garreg Las y bore 'ma?

    Mae Heledd Cynwal, Joe Allen ac Aleighcia Scott ymhlith y rhai sydd wedi bod yn trafod y profiad gyda Cymru Fyw.

    Fe ddywedodd y cyflwynydd Heledd Cynwal bod cael ei hurddo yn teimlo fel derbyn "coflaid gan Gymru".

  12. Ymateb i'r Lle Celf wedi bod yn 'arbennig'wedi ei gyhoeddi 13:30 GMT+1 7 Awst

    Joanna a Clive

    Mae Joanna a Clive o Aberteifi, aelodau o bwyllgor celf yr Eisteddfod, wedi bod yn stiwardio yn Y Lle Celf drwy'r wythnos ac maent yn gytûn fod yr ymateb wedi bod yn "arbennig".

    Ychwanegodd y ddau fod yr ardd wedi helpu croesawu pobl i mewn i'r Lle celf a "chreu naws positif".

    gardd y lle celf
  13. Cyfrolau buddugol yn gwerthu'n ddawedi ei gyhoeddi 13:17 GMT+1 7 Awst

    Mae Haf yn gweithio ar stondin Awen Teifi yr wythnos hon.

    Dywedodd fod cyfrolau buddugol Gwobr Goffa Daniel Owen a'r Fedal Ryddiaith yn boblogaidd ac yn gwerthu'n dda.

    Haf yn gweithio ar stondin Awen Teifi
  14. Y Babell Lên yn llawn ar gyfer podlediad Gwleidyddawedi ei gyhoeddi 13:07 GMT+1 7 Awst

    Gwleidydda, BBC Radio Cymru

    Mae'r Babell Lên yn orlawn ar gyfer sgwrs gyda Rhun ap Iorwerth, sy'n cael ei holi ar gyfer rhifyn o bodlediad Gwleidydda gan Bethan Rhys Roberts, Vaughan Roderick a Richard Wyn Jones.

    Yn ystod y sesiwn, dywedodd Prif Weinidog Cymru fod ganddo "berthynas dda" â phrif weinidog newydd y DU, Andy Burnham, ond amser a ddengys sut y bydd hynny'n dwyn ffrwyth.

    Gwadodd Rhun ap Iorwerth hefyd ei fod wedi "parcio" ei ddyhead am annibyniaeth, ond disgrifiodd ei hun fel "cenedlaetholwr pragmataidd", gan ddweud bod Cymru ar "daith" tuag at yr amcan hwnnw.

    Os methoch chi'r digwyddiad, bydd modd gwrando eto ar bodlediad Gwleidydda ar BBC Sounds ac ar sianel YouTube Radio Cymru maes o law.

  15. Torri syched ar y maeswedi ei gyhoeddi 12:58 GMT+1 7 Awst

    Nia a Nerys o Lanelli yn barod am arlwy'r penwythnos
    Disgrifiad o’r llun,

    Nia a Nerys o Lanelli yn barod am arlwy'r penwythnos

  16. "Mae'n ffantastig bod Cymry yn dathlu eu diwylliant cyfoethog"wedi ei gyhoeddi 12:53 GMT+1 7 Awst

    Xiaorui Sun

    Dyma hefyd ymweliad cyntaf Xiaorui Sun â'r Eisteddfod. Mae'n byw ym Mryste ac yn wreiddiol o China.

    Mae Xiaorui yn astudio cerddi Llywarch Hen ac Y Gododdin ar gyfer ei ddoethuriaeth.

    Cafodd ei hudo gan sŵn yr iaith Gymraeg pan ddaeth ar draws cerddi Cymraeg canoloesol tra'n fyfyriwr israddedig.

    Mae'n edrych ymlaen at weld seremoni'r Orsedd heddiw. Ei argraffiadau hyd yma yw bod yr Eisteddfod yn "lle bach doniol".

    "Mae'n ffantastig bod Cymry'n dathlu eu diwylliant cyfoethog."

  17. Ymweliadau cyntaf â'r Eisteddfodwedi ei gyhoeddi 12:49 GMT+1 7 Awst

    Roedd Megan o Drevelin ac Iona o Fynydd Llandygai yn cyfarfod am y tro cyntaf ar faes yr Eisteddfod.

    Mae'r ddwy yn ddisgynyddion i sylfaenydd y Wladfa, Michael D. Jones.

    Dyma'r tro cyntaf i Megan ymweld â Chymru ac â maes yr Eisteddfod. Mae hi wedi bod yn gwylio seremoni'r Orsedd ac yn edrych ymlaen at weld ychydig o glocsio fel un o ddawnswyr Cwm Hyfryd.

    Dywedodd ei bod yn "caru popeth am yr Eisteddfod" ac wrth ei bodd yn ymweld â Chymru.

    Megan o Drevelin ac Iona o Fynydd Llandygai
    Lily a Louise
    Disgrifiad o’r llun,

    Dyma hefyd y tro cyntaf i Lily a Louise o Sussex ymweld â'r Eisteddfod. Mae eu mam-gu a'u tad-cu yn byw yn Aberteifi, ac maen nhw wedi dod i ymweld â nhw

  18. Atgofion enillydd Gwobr Goffa Osborne Roberts 1957, Menai Davieswedi ei gyhoeddi 12:39 GMT+1 7 Awst

    Roedd achlysur cofiadwy ar lwyfan y Pafiliwn ddoe wrth i 28 o gyn-enillwyr Gwobr Goffa Osborne Roberts ymddangos i nodi 70 mlynedd ers sefydlu'r gystadleuaeth.

    Yn eu plith roedd Menai Davies, a enillodd y gystadleuaeth ym 1957.

    Bu'n rhannu atgofion gydag Aled Hughes ar y Maes.

    Gwrandewch isod.

    Disgrifiad,

    Cyn enillydd Gwobr Goffa Osborne Roberts 1957, Menai Davies yn cofio Eisteddfod Llangefni.

  19. Ymateb rhai o wynebau cyfarwydd Cymru wrth iddyn nhw gael eu hurddo i'r Orseddwedi ei gyhoeddi 12:30 GMT+1 7 Awst

  20. Mam a merch yn edrych 'mlaen i ddathlu ar ôl y seremoniwedi ei gyhoeddi 12:23 GMT+1 7 Awst

    Mari GrugFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol

    Roedd y cyflwynydd teledu a Llywydd Eisteddfod y Garreg Las, Mari Grug ymhlith y rhai cafodd eu hurddo y bore 'ma.

    Clywodd yr Archdderwydd fod Mari wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd diwylliannol Cymru fel darlledwraig boblogaidd ar S4C a Radio Cymru.

    Y tu hwnt i'w gyrfa, mae hi wedi dangos dewrder eithriadol trwy rannu ei phrofiad o ganser, gan weithredu fel llais ysbrydoledig a llysgennad i Ymchwil Canser Cymru.

    Ychwanegodd Mari ei bod yn falch bod ei mam yn cael ei urddo yn yr un seremoni. Mae Ann Siriol Davies yn adnabyddus fel beirniad llefaru ac awdures llyfrau plant.

    "Mae cael fy urddo i'r Orsedd yn un peth ond mae cael hynny ar garreg drws fy nghartref yn arbennig. Ac mae gwneud hynny hefo Mari yn fwy arbennig. Fe fyddwn yn dathlu ar ôl y seremoni," meddai Ann.

    Mari GrugFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol