Joe yn cyfarfod y cefnogwyrwedi ei gyhoeddi 12:20 GMT+1 7 Awst
Yn fuan ar ôl y seremoni, galwodd Joe Allen heibio stondin Cymdeithas Bêl-droed Cymru, lle mae'n brysur yn llofnodi crysau.

Emyr Lewis yn ennill Cadair Eisteddfod y Garreg Las - prif seremoni'r dydd.
Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod y Garreg Las yn dweud y byddai'n edrych yn ôl ar eu gwaith "gyda gwên lydan".
Joe Allen, Aleighcia Scott a Heledd Cynwal ymhlith y rhai gafodd eu hurddo i Orsedd y Beirdd fore Gwener.
Prif Weithredwr yr Eisteddfod yn dweud bod angen i'r brifwyl 'esblygu' i ddelio ag AI.
Ymarfer Byw gan Dafydd Owain yn dod i'r brig yng nghystadleuaeth Albwm Cymraeg y Flwyddyn
Yn fuan ar ôl y seremoni, galwodd Joe Allen heibio stondin Cymdeithas Bêl-droed Cymru, lle mae'n brysur yn llofnodi crysau.

Cafodd Iwan Griffiths sgwrs gyda Joe Allen ar ôl iddo gael ei urddo i Orsedd Cymru heddiw.
Dywedodd Joe: "Mae gwneud hyn yma yn Sir Benfro yn anhygoel."
Mae'r cyn-ddisgybl yn Ysgol y Preseli wedi cael gyrfa bêl-droed eithriadol, gan chwarae'n broffesiynol ers yn 16 oed a chynrychioli Cymru 77 gwaith.
Ei enw barddol yw Alarch Arberth.
Gwyliwch isod.
'Mae'n anrhydedd' - Ymateb Joe Allen ar ôl cael ei urddo i'r Orsedd
Y Bandana fydd yn cloi'r perfformiadau draw ar Lwyfan y Maes heno.
Mae'r grwp poblogaidd wedi ailffurfio yn arbennig ar gyfer Eisteddfod y Garreg Las.
Dyma fydd eu perfformiad cyntaf ar Faes yr Eisteddfod ers Y Fenni yn 2016.
Ffynhonnell y llun, Eisteddfod GenedlaetholDywedodd Gwilym Bowen Rhys, prif leisydd y band, fod ganddo atgofion melys iawn o berfformio ar Lwyfan y Maes.
"Dwi'n edrych ymlaen yn fawr iawn... mae 'na nerfusrwydd - dwi 'di cario 'mlaen i ganu ers gorffen Y Bandana ar ben fy hun y rhan fwyaf - a buasai rhywun yn meddwl y byddai rhywun yn dod dros y nerfusrwydd yma.
Ond achos bo' ni'n ailymweld â'r caneuon 'ma - 'dyn ni heb eu canu ers dros ddegawd neu fwy mewn rhai achosion - mae rhywun eisiau gwneud job dda ohoni."
Doedd Gwilym ddim yn barod i ddiystyru'r posibilrwydd o rhagor o gigs i'r band yn y dyfodol.
"Does dim byd yn y calendar, ond ti'n gwybod.. 'never say never' - pwy a wyr? Gawn ni weld, does dim byd wedi'i drefnu eto."
Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Roedd cyfle i Wynfford James a'i deulu fwynhau'r achlysur ar ôl iddo gael ei urddo i Orsedd y Beirdd heddiw.
Cafodd Wynfford ei anrhydeddu am ei gyfraniad i economi a diwylliant Cymru. Bu'n gyfarwyddwr Antur Teifi, gan chwarae rhan flaenllaw yn natblygiad economaidd sawl sector. Bu hefyd yn gadeirydd Cymdeithas yr Iaith yn y 1970au.
Mae ei ferch, yr awdur Fflur Dafydd, hefyd yn aelod o'r Orsedd. Dywedodd fod heddiw yn ddiwrnod arbennig i'r teulu a'i bod yn falch o weld gwaith ei thad yn cael ei gydnabod.
Mae Jay o Abertawe wedi bod yn dysgu canu'r delyn ers chwe blynedd ac roedd yn falch o gael sgwrs gyda thelynwyr Yr Orsedd - Catherine Thomas a Meinir Heulyn.

BBC Radio Cymru
Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Gwener, dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Betsan Moses eu bod yn gorfod "esblygu" er mwyn delio gyda datblygiad deallusrwydd artiffisial (AI).
"Mae 'na yn ein canllawiau ni, os yw rhywun yn dod i'r brig a bod 'na farc cwestiwn, mae rhywun yn gallu gofyn am gymorth ac mae'n mynd at gyfreithwyr ac mae'r cyfreithwyr yn siarad gydag arbenigwyr.
"Ni'n ymwybodol bod y dechnoleg yn datblygu'n barhaus. Mae 'na golegau a phrifysgolion sy'n edrych ar ffyrdd o wirio os oes 'na batrymau sy'n golygu ei fod o'n fwy na thebyg yn AI ac ni'n cydweithio a'n trafod gyda rheina.
"Y gobaith mawr yw wrth i'r dechnoleg gynorthwyo pobl, bo' fe ddim yn tynnu oddi ar greadigrwydd gwreiddiol.
"...Mae'n esblygu, mae'n rhaid i ni fel corff esblygu hefyd ond mae pawb allan yna yn gorfod ymgodymu â hyn. Y peth pwysig yw ein bod ni'n cydweithio a bod yr arbenigwyr ar y daith gyda ni."



Daeth Now i Gylch yr Orsedd er mwyn gweld ei hoff chwarewr, Joe Allen yn cael ei urddo heddiw.
Mae'n cefnogi Stoke City, a hynny oherwydd fod Joe wedi chwarae i'r clwb.

Wedi methu rhywfaint o'r cystadlu ddoe?
Peidiwch a phoeni, mae modd gweld holl ganlyniadau a chlipiau o'r cystadleuaethau yma.
Bydd modd dilyn y diweddaraf o ran y cystadlu heddiw draw ar Cymru Fyw hefyd.


Bydd y pêl-droediwr Joe Allen yn cael ei urddo i'r Orsedd heddiw.
Ar bodlediad Coridor Ansicrwydd, datgelodd Owain Tudur Jones ei fod wedi rhoi cyngor i'w ffrind am beth i'w ddisgwyl o'r seremoni.
"Mae o bach yn boncyrs i rywun sydd ddim yn gwybod!
"O'n i'n trio egluro beth oedd Robin McBryde yn ei wneud... dwi'n meddwl ei fod o'n meddwl fy mod i'n ei stichio fyny!"
Ychwanegodd Malcolm Allen: "Bydd yn ddiwrnod emosiynol, un o ddiwrnodau gorau ei fywyd oherwydd y balchder sydd ganddo fel Cymro a faint mae pobl yn ei garu.
"Mae'n un teulu mawr yn yr Eisteddfod. Doeddwn i ddim yn gwybod beth i'w ddisgwyl chwaith, ond mae'n brofiad a hanner."
Gwrandewch ar y bennod o Coridor Ansicrwydd yn llawn yma.
Yn siarad ar raglen Dros Frecwast fore Gwener, dywedodd Llywydd yr Eisteddfod eleni, Mari Grug, ei bod hi'n "joio pob eiliad".
"Mae'r wythnos wedi hedfan, ma' 'di bod - ac mae yn - anhygoel," meddai.
"Braint ac anrhydedd" oedd cael ei dewis gan ei phobl ei hun i fod yn llywydd "fel merch leol", esboniodd, gan ychwanegu ei fod yn deimlad arbennig iawn cerdded i mewn ar y dydd Sadwrn cyntaf.

Un o'r uchafbwyntiau, meddai Mari, oedd y gymanfa nos Sul - a fydd yn "aros yn y cof am sbel fawr".
"O'n i mor falch bo' fi wedi cael tocyn i fod 'na, y canu pedwar llais - o'dd e'n arbennig - a Daniel Parc y Big (Rees) yn arwr yr wythnos, o'dd hwnna'n achlysur yn sicr wrth Sefyll ar y Sgwâr nos Lun."
Un peth sydd wedi "llonni calon" Mari, oedd gweld cymaint o bobl yr oedd hi'n yr ysgol gyda nhw "a fydde' ddim fel arfer yn dod i'r 'Steddfod".
"Achos bod y 'Steddfod yn fan hyn, maen nhw wedi dod ac wedi dod nôl fwy nag unwaith ac yn gobeithio y daw nhw eto yn y blynyddoedd nesa'."
BBC Radio Cymru
Dywedodd Aled Griffiths, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Maldwyn Meirionydd 2027, fod y gwaith paratoi eisoes wedi dechrau.
"Dwi wedi bod yn edrych ar y Steddfod trwy lygaid gwahanol eleni achos wrth gwrs mae'r dasg anferth o'n blaenau ni y flwyddyn nesaf.
"Mae'r gwaith wedi dechrau yn syth ers i mi gael fy mhenodi yn Gadierydd y Pwyllgor Gwaith ac wrth gwrs mae'n anrhydedd ond mae'n gyfrifoldeb mawr hefyd."

Ychwanegodd fod cynlluniau mawr ar y gweill o ran yr ymdrech godi arian.
"Mae ganddon ni darged ac mae'n rhaid i chi gael targed.
"Heb gael y targed bydde dim pwynt cael y digwyddiadau, bydde 'na ddim pwynt cael y bwrlwm a'r cyffro.
"Does gen i'r un penwythnos yn glir am oesoedd a dwi'n falch o hynny."
Os na fyddwch yn teithio i Lantwd, mae sawl ffordd o fwynhau'r Eisteddfod eleni.
Gallwch wrando ar Radio Cymru. Yn ogystal â holl hwyl y Maes ac uchafbwyntiau'r cystadlu, cewch hefyd glywed rhai o berfformiadau bandiau ac artistiaid y llwyfannau cerddorol.
Mae darlledu'r dydd hefyd wedi dechrau ar S4C:
Wrth i ganlyniadau cystadlaethau'r Pafiliwn gael eu cyhoeddi, bydd Cymru Fyw yn cyhoeddi fideos ar ein tudalen ganlyniadau arbennig.
Peidiwch â cholli eiliad!
Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Mae'r seremoni i urddo aelodau newydd i'r Orsedd wedi dechrau dan arweiniad yr Archdderwydd, Mererid Hopwood.



Mae Ela ac Anna o Gaerdydd yn edrych ymlaen at weld eu tad Sion Morgan yn cael ei urddo i'r Orsedd heddiw.
"Ni'n teimlo'n falch i weld e'n cael ei urddo, yn enwedig gan mai dyma lle gafodd e ei eni."

Gefn llwyfan y Pafiliwn, mae Gorsedd Cymru yn paratoi i groesawu'r aelodau newydd.

Christine James, Cofiadur yr Orsedd yn cyfarch yr aelodau newydd


Cafodd Rhun ap Iorwerth, Prif Weinidog Cymru, ei ethol i'r Orsedd yn Eisteddfod Wrecsam 2025. Mae gefn llwyfan gyda'i chwaer, Awen Iorwerth, yn paratoi ar gyfer y seremoni