Crynodeb

  1. Cŵn Y Maes Carafanauwedi ei gyhoeddi 11:16 GMT+1 3 Awst

    Mae cannoedd o bobl, plant ac ieuenctid o bob oed wedi ymgartrefu'n Y Maes Carafanau am yr wythnos erbyn hyn.

    Ond mae'n cynnig maes a llety braf i gŵn hefyd. Mae Nick o Gaeredin wedi dod i'r Eisteddfod am yr wythnos gyda'i gamperfan a'i adlen â'i dri dalmation ffyddlon Seren, Comed a Luna.

    Dyma ymweliad cyntaf Nick â'r Eisteddfod, a dywedodd fod y maes "lawer yn fwy nag oedd wedi ei ddychmygu". Mae cymar Nick yn dod o Wrecsam ac wedi dysgu Cymraeg.

    MAES CARAFANAU
  2. Mwy o gerddoriaeth newydd ar y ffordd gan y band lleol Jesswedi ei gyhoeddi 11:11 GMT+1 3 Awst

    Cyn perfformio ar Lwyfan Y Maes ar nos Sul, fe sgwrsiodd Lisa Gwilym o Radio Cymru gyda aelodau o'r grŵp Jess.

    Fe ddatgelodd Brychan Llŷr fod mwy o gerddoriaeth newydd ar y gweill ganddyn nhw, ac mai "50 yw'r 20 newy'".

    Disgrifiad,

    Cafodd Lisa Gwilym sgwrs efo Emyr a Brychan o Jess cyn eu perfformiad ar Lwyfan y Maes

  3. Trefn sganio tocynnau mewn grym eleni 🔽wedi ei gyhoeddi 11:07 GMT+1 3 Awst

    Wrth egluro y drefn sganio newydd dywedodd Betsan Moses, Prif Weithredwr y Brifwyl fore Llun:

    "Pan chi yn cael eich tocyn, sganiwch pan chi'n mynd mewn a wedyn sganiwch pan chi'n mynd allan os chi yn dymuno dod nôl fewn.

    "Mae nifer o bobl - falle carafanwyr yn dweud 'ai nôl am seibiant.

    "Jyst sganiwch ac ailsganiwch.

    "Ni eisiau sicrhau bod ni yn ymwybodol o faint o bobl sydd ar y Maes.

    "Ni yn ymwybodol bod deddfwriaeth newydd ond efyd mae'n haws - mae nifer o bobl yn dweud wrth gwrs gydag alergedd o ran stampio.

    "Cadwch eich tocyn a sganiwch ac i ffwrdd a chi."

    Disgrifiad,

    Annell Dyfri sy'n egluro system docynnau newydd yr Eisteddfod

  4. Yr aelodau newydd yn cael eu derbyn i'r Orseddwedi ei gyhoeddi 11:01 GMT+1 3 Awst

    e
    e
  5. Cynulleidfa - y rhai bach a mawr - am weld be sy'n digwydd ar y Maen Llogwedi ei gyhoeddi 10:57 GMT+1 3 Awst

    e
  6. Betsan Moses: 'Nos Sadwrn y dorf fwya' ni wedi ei gael mae'n debyg'wedi ei gyhoeddi 10:54 GMT+1 3 Awst

    dfa

    Wrth gael ei holi ar Dros Frecwast am nifer y dorf ddydd Sadwrn yn sgil perfformiad Super Animals' dywedodd y Prif Weithredwr Betsan Moses:

    "Ni ddim yn nodi faint, ond allai ddweud wrthoch chi mi oedd yn un o'r torfeydd mwya ni wedi cael yn debyg i, yn ymdebygu i beth ddigwyddodd ym Moduan ac roedd e'n hyfryd.

    "Beth oedd yn wych am y dydd Sadwrn oedd bod nifer yn dod, falle dod i weld y Super Furry Animals, ond wrth gael tocyn dydd yr Eisteddfod mi oedden nhw yn dod am y diwrnod ac yn teimlo bod nhw wedi cael bargen ac yn fwy na hynny bo' nhw wedi profi rhywbeth falle nag oedden nhw wedi ei brofi o'r blaen."

    sfaFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol Cymru
  7. Archdderwydd: Araith yn gwrthwynebu gorsaf radar Penfrowedi ei gyhoeddi 10:45 GMT+1 3 Awst

    mer

    Yn ei haraith cyn urddo aelodau newydd fe nododd yr Archdderwydd Mererid ei gwrthwynebiad clir i orsaf radar Penfro.

    “Mae ’na fygythiad i’r sir yma, ac felly i Gymru," meddai.

    "Y peiriant milwrol am osod menter a fyddai’n gweld saith ar hugain o ddysglau radar ar dir maint deg cae pêl-droed, yn enw America, Awstralia a’r DU – AUKUS.

    "Ond yn y pen draw, mae’n rhaid gofyn: O blaid beth ydyn ni? Porthi’r peiriant milwrol, neu atgyfnerthu harddwch y fro, y ddaear a phobl yn cyd-dynnu’n dangnefeddus? Dim ond gofyn.

    "Ac mae cyd-dynnu yn un o ogoniannau’r Eisteddfod – tynnu’r genedl at ei gilydd, o’r babanod blwydd oed i’r rhai sy’n nesáu at gant."

    radarFfynhonnell y llun, US Space Force
  8. 🤔 Sut i gyrraedd y maes?wedi ei gyhoeddi 10:38 GMT+1 3 Awst

    Mae'r Eisteddfod yn pwysleisio bod yna bob ymdrech i sicrhau prifwyl sy'n amgylcheddol gyfeillgar ac felly mae anogaeth i deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus.

    Dod ar drên?

    Mae Trafnidiaeth Cymru'n rhedeg bysiau gwennol rheolaidd i'r Maes o orsaf Caerfyrddin, gyda'r bws olaf yn gadael y Maes i ddychwelyd i orsaf Caerfyrddin ar gyfer trên:

    • 22:41 i Gaerdydd (Llun i Gwener);
    • 21:34 (dydd Sadwrn);
    • 21:15 (dydd Sul).

    Mae'r gwasanaeth bws gwennol am ddim ac mae modd darllen yr amserlen yma, dolen allanol.

    Mae nifer o orsafoedd trên eraill sy'n cysylltu â bysiau, ac mae modd dal trên i orsaf Abergwaun er mwyn cerdded i'r orsaf fysiau yn y dref a dal bws T5 sy'n mynd heibio'r Maes.

    BwsFfynhonnell y llun, Cwmni Richards Bros

    Dod ar fws?

    Gallwch ddefnyddio gwasanaeth bws TrawsCymru T5 i fynd yn uniongyrchol i'r Eisteddfod yn Llantwd.

    Mae TrawsCymru wedi cynyddu pa mor aml mae'r gwasanaeth T5 yn gweithredu rhwng Aberteifi ac Abergwaun rhwng 1 ac 8 Awst.

    Mae gwasanaeth bws 430 yn darparu cysylltiad rhwng Arberth ac Aberteifi drwy Grymych.

    Bydd y gwasanaeth yn rhedeg yn ddyddiol yn ystod yr Eisteddfod, gyda phob gwasanaeth yn teithio'r holl ffordd i ac o Arberth.

    Bydd bws ychwanegol hwyr gyda'r nos hefyd yn gadael yn uniongyrchol o'r Maes am 23:15.

    Mae gwasanaeth bws 460 yn darparu cysylltiad rhwng Caerfyrddin ac Aberteifi drwy Gastellnewydd Emlyn - o ddydd Llun i Sadwrn yn unig.

    Newidiwch yn Aberteifi ar gyfer cysylltiad ymlaen i'r Maes ar wasanaeth T5 neu'r bws gwennol.

    Gallwch hefyd ddefnyddio gwasanaeth bws fflecsi i deithio o amgylch yr ardal tra byddwch yno.

    Bydd gwasanaeth bws gwennol (Bws yr Arglwydd Rhys) yn rhedeg yn rheolaidd rhwng Sgwâr Finch a'r Maes o 07:00 tan 00:00.

    Mae'r gwasanaeth am ddim ac yn gadael y sgwâr ar yr awr i deithio i'r Maes ac yn gadael y Maes i ddychwelyd i Aberteifi bob hanner awr wedi.

  9. Os yn gyrru i'r Eisteddfod y cod post yw SA43 3NUwedi ei gyhoeddi 10:34 GMT+1 3 Awst

    Mae Llantwd yng ngogledd Penfro a rhyw dair milltir o Aberteifi.

    Os ydych yn gorfod teithio mewn car i'r Eisteddfod, y cyngor yw dilyn yr arwyddion 'Eisteddfod' melyn i gyrraedd y Maes. Y y cod post yw SA43 3NU.

    Mae Maes B, y maes carafanau a gwersylla teuluol, Hwyrnos a maes pebyll Maes B, ynghyd â'r meysydd parcio i gyd yn agos at Faes yr Eisteddfod.

    O'r gogledd a'r canolbarth:

    Bydd traffig yn teithio i'r Maes ar yr A487, gan deithio i'r de o Aberystwyth, ymlaen i Synod Inn, heibio Aberteifi, cyn cyrraedd y safle, i'r gogledd o Lantwd ar yr A487.

    O dde Cymru:

    Bydd arwyddion clir yn cael eu gosod o gyffiniau Caerfyrddin ymlaen.

    O'r ardal hon, dilynwch yr A40 i gyfeiriad cylchfan Penblewyn. Yno, cewch eich cyfeirio i gymryd yr A478 tua'r gogledd.

    Parhewch hyd at y groesffordd gyda'r B4332, trowch i'r chwith a theithio tua'r gorllewin.

    Dilynwch yr B4332 am tua dwy filltir, trowch i'r dde a dilyn y ffordd tuag at yr A487, nes cyrraedd y gyffordd gyda'r A487.

    Ar ôl cyrraedd yr A487, ewch tua'r gogledd i gyfeiriad Aberteifi.

    Parhewch am filltir nes cyrraedd y lleoliad, yn Llantwd.

    map
  10. Diwrnod arbennig i'r cludwyr yma o CFfI Abergwaunwedi ei gyhoeddi 10:33 GMT+1 3 Awst

    Cariann, Teleri a Tomos - yw cludwyr y faner yn y seremoni.

    Mae'r tri yn aelodau o glwb Ffermwyr ifanc Abergwaun ac yn dweud ei bod yn ddiwrnod arbennig.

    E
  11. Gillian Elisa: 'Breintiedig - sai'n gwybod shwt fi wedi cyrraedd 'ma!'wedi ei gyhoeddi 10:29 GMT+1 3 Awst

    “S’dim geiriau - breintiedig iawn i gael fy nerbyn i'r Orsedd," medd yr actores Gillian Elisa

    "Dw i erioed wedi bod mor nerfus – ma gyment o bobl da yn rhan o’r Orsedd.

    "Sai’n siwr shwt fi wedi cyrradd!

    "Fi bach yn emosiynol hefyd achos byddem i wedi dwli cael gweld fy nheulu i 'ma, bydde nhw wedi bod mor browd ohonai.”

    e
  12. Cadeirydd Eisteddfod Maldwyn Meirion: - 'Bydd ein Heisteddfod ni'n unigryw'wedi ei gyhoeddi 10:20 GMT+1 3 Awst

    “Allwn ni ddim efelychu’r Eisteddfod hon, ond bydd ein Heisteddfod ni yn un unigryw.

    "Rydyn ni wedi bod yn brysur iawn yn paratoi, ond rydyn ni’n mwynhau pob munud.

    "Oes, mae angen codi arian, ond y peth pwysicaf yw ein bod ni’n mwynhau wrth wneud hynny.” medd Aled Griffiths, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Maldwyn Meirion 2027.

    e
  13. Y gwyrddion bron yn eu lle yn barod ar gyfer urddo aelodau newyddwedi ei gyhoeddi 10:15 GMT+1 3 Awst

    e
  14. Môr o wyn, glas a gwyrdd o dan yr awyr laswedi ei gyhoeddi 10:09 GMT+1 3 Awst

    e
    e
  15. Y dorf ar eu traed i groesawu'r Orsedd i'r cylchwedi ei gyhoeddi 10:09 GMT+1 3 Awst

    gorsedd
  16. Gosgordd Yr Orsedd yn cyrraedd y cylchwedi ei gyhoeddi 10:04 GMT+1 3 Awst

    Y rhai sy'n cael eu hurddo heddiw yw:

    • Prif enillwyr Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025;
    • Prif Enillwyr Eisteddfod yr Urdd a Ffermwyr Ifanc;
    • Y rhai sydd wedi cael gradd gymwys;
    • Y rhai a fu'n llwyddiannus yn arholiad yr Orsedd
    • a rhai o'r rhai sydd wedi eu derbyn er Anrhydedd.

    Bydd mwy yn cael eu hurddo fore Gwener.

    Dyma rai o'r bobl o'r canolbarth a'r gorllewin fydd yn cael eu hurddo yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llantwd.

    A dyma'r rhestr o'r bobl o weddill Cymru.

    GORSEDD
    gosgorddFfynhonnell y llun, bbc
  17. Mam a chwaer falchwedi ei gyhoeddi 09:58 GMT+1 3 Awst

    Caroline Cook a Gail MacDonald ar eu ffordd i weld Lynsay Thomas yn cael y wisg werdd.

    TEULU
  18. Yr Urddo: Y dorf yn cymryd eu seddiwedi ei gyhoeddi 09:58 GMT+1 3 Awst

    Seddi
  19. Yr Urddo: Y gynulleidfa'n heidio i Gylch yr Orseddwedi ei gyhoeddi 09:51 GMT+1 3 Awst

    Y dorf yn cymryd eu seddi...

    torf
    torf

    Yr offer yn cyrraedd y cylch hefyd...

    telyn

    Ac un ymarfer olaf i'r telynor...

  20. Aelodau newydd yn edrych ymlaen ac un wedi cael cyngor gan ei mam - yr Archdderwydd!wedi ei gyhoeddi 09:50 GMT+1 3 Awst

    Disgrifiad,

    Aelodau'r Orsedd yn edrych ymlaen yn fawr iawn