Eisteddfod eleni yn cofio am ddwy awdl 1976wedi ei gyhoeddi 14:57 GMT+1 3 Awst
Mae lle amlwg i'r diweddar Brifardd ac Archdderwydd Dic Jones yn y Brifwyl eleni wrth i'r Eisteddfod nodi hanner can mlynedd ers ysgrifennu awdl Y Gwanwyn - ond awdl na enillodd y gadair gan nad oedd hawl gan Dic Jones, fel aelod o'r pwyllgor llenyddiaeth, i gystadlu.

Teulu Dic Jones yn cyfarfod ag Alan Llwyd eleni yn y Llyfrgell Genedlaethol
Yn ddiweddar bu Twm Morys yn olrhain hanes Cadair 1976 mewn rhaglen arbennig o Llwyfan.
Yn lwcus iawn, roedd y beirniaid oll yn gytûn bod dwy awdl gwbl deilwng o'r gadair ac fe'i cynigiwyd hi i Alan Lloyd Roberts sy'n fwy adnabyddus fel Alan Llwyd.
Derbyniodd Alan Llwyd y Gadair ar ôl i Dic Jones gael ei ddiarddel o'r gystadleuaeth a dyma fe'n hel atgofion





























