Rhedwr wedi marw yn Hanner Marathon Caerdydd

Hanner Marathon Caerdydd
  • Cyhoeddwyd

Bu farw rhedwr yn ystod Hanner Marathon Caerdydd dros y penwythnos, mae'r trefnwyr wedi cadarnhau.

Dywedodd llefarydd ar ran Run 4 Wales y "gallwn gadarnhau bod un wnaeth gymryd rhan yn y digwyddiad eleni, yn drist iawn, wedi marw".

Roedd tua 30,000 o bobl yn cymryd rhan yn y digwyddiad ddydd Sul.

Ychwanegodd y llefarydd: "Hoffwn gydnabod timau meddygol y digwyddiad a'r ysbyty a wnaeth ymateb yn gyflym ac yn broffesiynol iawn."

"Mae ein cydymdeimladau dwysaf gyda theulu a ffrindiau'r rhedwr."

Dywedodd y trefnwyr na fyddai manylion am yr unigolyn yn cael eu rhyddhau ar gais y teulu.

Pynciau cysylltiedig