Heddlu'n apelio am dystion wedi ymosodiad mewn sioe amaethyddol

- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i ymosodiad honedig yn ystod Sioe Amaethyddol Llandeilo ym mis Awst.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad honedig tua 00:45 ar 16 Awst, gyda pherson wedi ei gludo i'r ysbyty i gael triniaeth am anafiadau difrifol i'w wyneb.
Cafodd dau ddyn 18 oed eu harestio ar amheuaeth o achosi anaf corfforol drwy ymosod, ac mae'r ddau wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth wrth i ymchwiliad yr heddlu barhau.
Mae'r heddlu yn apelio ar i unrhyw un allai fod yn dyst i'r digwyddiad, neu sydd â gwybodaeth allai eu cynorthwyo gyda'u hymchwiliad i gysylltu â nhw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.