Tân ger ysbyty yn rhwystro mynediad i'r Ambiwlans Awyr

- Cyhoeddwyd
Mae tân yng nghyffiniau Ysbyty'r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful wedi atal yr Ambiwlans Awyr rhag glanio ar y safle ddydd Mercher.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a Heddlu'r De yn ymateb i'r digwyddiad gyda chriwiau o Ferthyr, Aberdâr, Brynmawr a Rhymni wedi'u galw.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg bod hofrenyddion yr Ambiwlans Awyr yn cael eu dargyfeirio am y tro.
O ganlyniad mae'r bwrdd iechyd wedi rhybuddio y gallai cleifion sydd angen triniaeth arbenigol frys gael eu cludo i ysbytai eraill.
Gallai hyn arwain at amseroedd trosglwyddo hirach ac oedi cyn i rai cleifion gael triniaeth, medd llefarydd.
Mae'r bwrdd iechyd yn pwysleisio bod y tân ond yn effeithio ar yr Ambiwlans Awyr a bod yr Adran Frys yn parhau ar agor fel arfer.
"Dylai cleifion sydd angen gofal brys neu ofal mewn argyfwng barhau i fynd i'r ysbyty fel arfer, neu ffonio 999 mewn argyfwng sy'n peryglu bywyd," ychwanegodd llefarydd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.