'Panig' am ddyfodol meddygfa â 5,000 o gleifion wrth i feddygon ymddeol

Mae tua 5,000 o gleifion wedi'u cofrestru gyda Meddygfa Ceinewydd
- Cyhoeddwyd
Mae ansicrwydd am ddyfodol gwasanaethau meddyg teulu yng Ngheinewydd, ar ôl i ddau feddyg teulu gadarnhau eu bod am ymddeol a rhoi'r gorau i'w swyddi.
Mewn ardal wledig sydd yn anodd recriwtio meddygon teulu iddi, mae galw ar Fwrdd Iechyd Hywel Dda i weithredu er mwyn sicrhau dyfodol y ganolfan.
Yn lleol, mae'r posibilrwydd o golli meddygfa y dref yn cael ei ddisgrifio fel ymdeimlad o "banig".
Mae'r bwrdd iechyd wedi dweud na fydd newid i'r gwasanaeth nes Mawrth 2027, gan ofyn i gleifion barhau i fod wedi cofrestru gyda'r feddygfa.

Mae Gill Hopely galw am wneud mwy i geisio recriwtio meddygon teulu i'r ardal
Mae Gill Hopley yn poeni, yn gyn-gynghorydd sir, mae'n galw am wneud mwy i geisio recriwtio meddygon teulu i'r ardal.
"Mae pobl yn panico, a chi'n gallu gweld pam. I fynd ag e o Cei, beth mae pobl fod i wneud pan dos dim bysys a dyw nhw ddim yn gyrru ceir?
"Yn rhywle fel Cei, mae'n bwysig iawn. Mae lot o henoed yn byw yma, a dwi'n cyfri fy hun fel un ohonyn nhw, a lot o ymwelwyr yn dod yma yn yr haf.
"Mae fel balloon effect yma. Mae angen rhywle yma yn y dref ei hun.
"Mae'n gwasanaethu pobl tu hwnt i Cei hefyd yn Aberporth, Aberaeron, Ffostrasol, Talgarreg a Gors-goch. Mae'n catchment mawr iawn ac mi fydd yn siom fawr.
"Mae'n iawn gweud bod y lle yn saff nes mis Mawrth, ond ydyn ni'n mynd i eistedd lawr, gwneud dim ac aros i hynny ddigwydd?
"Odi Hywel dda yn mynd i 'neud yn well a gallu recriwtio rhywun yma? Mae angen i'r Senedd hefyd wneud mwy i recriwtio meddygon teulu i ardaloedd gwledig fel hyn."
Cyflogi tua 20 o staff
Mae tua 5,000 o gleifion wedi'u cofrestru gyda Meddygfa Ceinewydd, gyda'r boblogaeth leol yn tyfu'n sylweddol dros fisoedd yr haf oherwydd bod llawer o ail gartrefi a thai gwyliau yn yr ardal.
Yn dref sydd yn denu llawer o dwristiaid, mae mwy o bwysau ar y meddyg teulu yn ystod cyfnodau gwahanol o'r flwyddyn.
Mae hefyd yn ganolfan sydd yn cyflogi tua 20 o staff.

"Mae 'na amser gyda ni, ond mae angen siarad gyda'r gymuned a rhoi sicrwydd i gleifion oedrannus yr ardal bod 'na gynllun," medd y Cynghorydd Elizabeth Evans
Yn ôl y cynghorydd sir dros ardal Aberaeron, Elizabeth Evans, mae gwir bosibilrwydd y bydd y feddygfa yn cau.
"Yng nghefn gwlad Cymru, mae argyfwng recriwtio meddygon teulu.
"Beth ni angen yw gweithio gyda'r bwrdd iechyd i wneud yn siŵr bod ni'n denu pobl i weithio yma.
"Mae 'na amser gyda ni, ond mae angen siarad gyda'r gymuned a rhoi sicrwydd i gleifion oedrannus yr ardal bod 'na gynllun ar y gweill.
"Ni'n gweld dro ar ôl tro, bod cefn gwlad yn colli gwasanaethau - a ni'n gwybod 'ny ers degawdau - ond does dim byd yn newid.
"Rhaid i ni ffeindio ffordd ymlaen sy'n siwtio'r cleifion, mae 'na opsiynau a chwestiynau ac mae'n rhaid i'r bwrdd iechyd weithredu nawr," meddai'r cynghorydd.
Beth yw'r opsiynau?
Mae BBC Cymru yn deall bod pedwar opsiwn yn cael eu hystyried, sef:
Cynnal ymgyrch recriwtio bwrpasol i ddenu meddygon newydd i'r feddygfa;
Y bwrdd iechyd i gymryd cyfrifoldeb dros y feddygfa;
Meddygfa arall o fewn y clwstwr i reoli'r ganolfan;
Cleifion i gael eu trosglwyddo i'r feddygfa agosaf at eu cyfeiriad cartref.
Diolchodd Andrew Carruthers, cyfarwyddwr gweithrediadau y bwrdd iechyd, "i'r gymuned am ei chefnogaeth barhaus i'r tîm yn Meddygfa Ceinewydd dros y misoedd nesaf".
"Hoffwn hefyd ddiolch i'r Dr Rob Morgan a'r Dr Eurig Harries am eu hymroddiad a'u hymrwymiad i ddarparu gwasanaethau meddygol cyffredinol i'w poblogaeth dros nifer sylweddol o flynyddoedd.
"Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'r feddygfa ac yn cysylltu â chleifion wrth i ni fwrw ymlaen â'n proses i sicrhau bod eu barn a'u safbwyntiau'n cael eu casglu ynghylch y ffordd orau o ddarparu gwasanaethau iddynt."
Dywedodd y bwrdd iechyd y byddai'n ysgrifennu at yr holl gleifion cofrestredig gyda rhagor o wybodaeth, a chadarnhaodd fod y feddygfa'n parhau ar agor fel arfer gan ofyn hefyd i gleifion barhau i fod wedi'u cofrestru gyda'r feddygfa.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd3 Ebrill

