Ple mam am aren ar Facebook yn arwain at rodd 'anhygoel' gan ddieithryn

Fe roddodd Gary Summerfield ei aren i Karen Davey ar ôl gweld ei hapêl ar Facebook, er nad oedd yn ei hadnabod
- Cyhoeddwyd
Mae menyw wnaeth ble emosiynol ar Facebook am aren newydd wedi cael trawsblaniad i achub ei bywyd ar ôl i ddieithryn gynnig bod yn rhoddwr iddi.
Doedd Karen Davey, 41, ddim wedi llwyddo i ganfod rhoddwr, felly trodd at y cyfryngau cymdeithasol, yn erfyn ar bobl i beidio "gadael fy nheulu heb eu mam".
Fe welodd Gary Summerfield y post gan Karen - sy'n fam i bedwar o blant - ac ar ôl dysgu y byddai'n rhoddwr addas, fe benderfynodd fynd amdani a rhoi ei aren iddi mewn llawdriniaeth fis Gorffennaf.
"Ro'n i'n meddwl, mae'r fenyw yma angen un o fy arennau i yn fwy na dwi angen dwy ohonyn nhw," meddai.
Dywedodd teulu Karen y byddan nhw byth yn gallu talu Gary yn ôl am ei haelioni, gan ddweud ei fod wedi "rhoi cyfle arall iddi fod yn fam".

Dywedodd Karen fod rhodd Gary yn "anghygoel"
Dyma'r ail drawsblaniad mae Karen wedi'i gael i achub ei bywyd.
Cafodd drawsblaniad calon ddegawd yn ôl wedi iddi gael trawiad yn 31 oed tra'n gwylio ei mab yn chwarae pêl-droed.
Mae trawsblaniad yn cynyddu'r perygl o heintiau oherwydd y feddyginiaeth sy'n rhaid i gleifion eu cymryd yn dilyn y llawdriniaeth, ac fe wnaeth cymhlethdodau arwain at Karen i gael methiant ar ei haren.
"Roedden ni wastad yn gwybod pan ges i'r galon newydd y bydden i fwy na thebyg angen aren newydd ar ryw bwynt hefyd, ac mae'n anodd delio 'da hynny'n feddyliol," meddai.
'Eisiau bod o gwmpas i'r plant'
Roedd Karen, o bentref Brynna yn Rhondda Cynon Taf, yn dioddef gyda methiant cam tri ar ei haren pan benderfynodd wneud ple ar Facebook ar ôl darganfod nad oedd unrhyw deulu na ffrindiau yn rhoddwr addas.
Dywedodd bod y sefyllfa wedi rhoi ei bywyd ar stop, a'i bod yn wynebu byw gweddill ei bywyd yn cael dialysis os nad oedd modd canfod rhoddwr byw.
"Fy mhrif beth i yw'r plant - fi eisiau bod o gwmpas iddyn nhw," meddai.
Mae gan Karen bedwar o blant, ac mae hi hefyd yn fam-gu i blentyn bach un oed bellach.

Fe wnaeth Gary a Karen gwrdd am y tro cyntaf ers y trawsblaniad yn ddiweddar
Fe ddaeth Gary Summerfield, gweithiwr diogelwch 60 oed o Dredegar ym Mlaenau Gwent, ar draws post Facebook Karen ar hap, a theimlo'r angen i helpu.
"Fe weles i apêl Karen ac roedd hi'n sôn am y plant," meddai.
"Nes i feddwl bod Karen yn oedran tebyg i fy merch, ac mae merch ieuengaf Karen yr un oedran â fy ŵyr i, a meddwl y byddai hynny'n ofnadwy i'r plant.
"Os mai fy merch i fyddai e, bydden i eisiau i ddieithryn ddod yn ei flaen, a nes i feddwl y byddai'n hunanol i fi beidio.
"Ro'n i'n meddwl, mae'r fenyw yma angen un o fy arennau i yn fwy na dwi angen dwy ohonyn nhw."

Dywedodd Karen - yma gyda'i gŵr Matthew a'i mab Brandon - ei bod "mor ddiolchgar" i Gary
Er bod Gary erioed wedi cyfarfod Karen, fe wirfoddolodd i gael ei brofi, a darganfod y byddai'n rhoddwr addas.
Ar 15 Gorffennaf eleni fe gafodd y ddau lawdriniaeth chwe awr o hyd yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, gyda Gary yn dweud nad oedd yn rhaid iddo feddwl ddwywaith.
"Mae'n anhygoel gweld Karen heddiw yn edrych mor dda," meddai.
"I fi, mae rhoi fy aren fyny 'na gyda phriodi a chael fy mhlant - mae'n un o'r tri peth gorau yn fy mywyd."
'Rhoi gobaith bod caredigrwydd mas 'na'
Dywedodd gŵr Karen, Matthew y bydd y teulu wastad yn ddiolchgar am haelioni Gary.
"Mae'r byd yn le horrible ar adegau, ond mae hyn yn rhoi gobaith i chi bod caredigrwydd mas 'na," meddai.
"Bydd byth modd i ni dalu Gary yn ôl am beth mae wedi gwneud - rhoi cyfle arall i Karen, cyfle arall i fod yn fam i'n plant a byw y bywyd mae hi'n haeddu.
"Mae wedi rhoi bywyd fel anrheg iddi."
Ychwanegodd Karen: "Mae'r ffaith bod rhywun wedi dod ymlaen a gwneud y profion i gyd - a mae e'n lot o brofion - a chael eu haren wedi'i dynnu i ddieithryn, mae'n anhygoel. Fi mor ddiolchgar."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2023

- Cyhoeddwyd27 Ionawr

