Cymru'n colli yn erbyn yr UDA yng Nghystadleuaeth y WXV

- Cyhoeddwyd
Mae tîm rygbi merched Cymru wedi colli o 26 i 24 mewn gêm gystadleuol iawn yn erbyn yr UDA yn eu hail gêm yng Nghystadleuaeth y WXV.
Er gwaethaf ymdrech dda ac hanner cyntaf cyffrous iawn fe brofodd merched yr UDA'n rhy gryf ym Mharc yr Arfau ddydd Sadwrn.
Daeth y siom ar ôl i Gymru rhoi crasfa i Dde Affrica yng ngêm agoriadol y gystadleuaeth wythnos ynghynt.
Fe sgoriodd Cymru a'r UDA - sydd yn y chweched safle yn y byd - bedwar o geisiau yr un mewn gêm agos gyda'r ciciau'n profi'n hollbwysig ar y diwrnod.
Cymru'n rhoi crasfa i Dde Affrica yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd18 Medi
Merched Cymru yn sicrhau eu lle yn ail haen y WXV
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2024
Carys a Rowland Phillips yn creu hanes i'r Barbariaid
- Cyhoeddwyd27 Mehefin
Roedd saith o geisiau yn yr hanner cyntaf - pedwar i Gymru a thri i'r UDA ond dechreuodd Cymru ar y droed ôl.
Roedd wythwr America, Freda Tafuna, yn ddylanwadol iawn ac fe brofodd ei phŵer yn ormod i amddiffyn Cymru'n gynnar wrth iddi groesi ar gyfer cais cyntaf y gêm.
Chymerodd e ddim yn hir iddi gipio ei hail gais gan groesi ar ôl 19 o funudau.
Yn fuan wedyn fe dorrodd blaenasgellwr Cymru, Kate Williams linell amddiffyn yr UDA gan arwain at y mewnwr, Keira Bevan yn croesi ar gyfer cais cyntaf y tîm cartref.
Er i Gymru ildio cais yn ôl yn syth fe lwyddon nhw i beidio â cholli hyder ac fe drodd y momentwm yn ail hanner yr hanner cyntaf.
Dechreuodd olwyr a blaenwyr Cymru gyd-chwarae'n dda ac roedd cicio Lleucu George yn eu rhoi mewn mannau da ar y cae. Y blaenwyr wnaeth gweddill y gwaith.
Gyda sgarmesi effeithiol a chario cryf fe sgoriodd Kelsey Jones a Sisilia Tuipulotu i ddod â Chymru yn ôl i mewn i'r gêm.
Yna, cyn i'r hanner ddod i ben fe lwyddodd capten Cymru, Alex Callender sgorio pedwerydd cais y tîm cartref gan roi Cymru ar y blaen. 24 i Gymru a 21 i'r UDA ar yr hanner.
Dechreuodd yr ail hanner yn debyg i'r cyntaf gyda'r UDA yn dominyddu.
Sgoriodd yr wythwr, Freda Tafuna ei thrydydd cais a brofodd yn ergyd drom. Roedd yr UDA ar y blaen o ddau bwynt, 26-24.
Roedd gweddill y gêm yn dipyn o ornest ac fe barhaodd Cymru i frwydro hyd at y funud olaf ond fethon nhw â sgorio eto.
Mae tîm merched yr UDA yn y chweched safle ar restr y byd ac felly mae digon o agweddau cadarnhaol i'w cymryd o'r perfformiad ar Barc yr Arfau.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.