Oriel: Theatr Mwldan dros y degawdau

Melin MelynFfynhonnell y llun, Mwldan
  • Cyhoeddwyd

Un sefydliad sydd wedi chwarae rhan bwysig iawn yng nghelfyddydau ardal yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yw Theatr Mwldan.

Fe'i sefydlwyd yn 1983 yn nhref Aberteifi pan wnaeth cwmni drama amatur lleol ddechrau prosiect i drawsnewid y theatr leol oedd yn y dref.

Ers hynny a dros y degawdau mae wedi datblygu i ddarparu perfformiadau theatrig, sinema a digwyddiadau yn yr ardal.

Ymysg rhai o'r artistiaid lleol ac enwogion oedd yn gefnogol i ddechrau'r theatr oedd Dafydd Edwards, Washington James, Dic Jones, Odette Jones, Eluned Phillips a Chôr Meibion ​​Blaenporth.

Er ei fod yn ymddeol ym mis Ionawr, mae Dilwyn Davies wedi bod yn Brif Swyddog Gweithredol y Mwldan ers 33 o flynyddoedd.

Dyma oriel o sut mae Theatr Mwldan wedi trawsnewid o fod yn lladd-dy i fod yn theatr a chanolfan gelfyddydol enwog yn ardal yr Eisteddfod Genedlaethol, a rhai o'r artistiaid o Gymru sydd wedi perfformio yno.

Lladd-dyFfynhonnell y llun, Mwldan
Disgrifiad o’r llun,

Adeilad y lladd-dy yn y 1950au ble mae'r Mwldan nawr

Cwmni Theatr AberteifiFfynhonnell y llun, Mwldan
Disgrifiad o’r llun,

Criw gwreiddiol o gwmni theatr amatur lleol Aberteifi yn ystod adeiladu Theatr y Mwldan ar ddechrau'r 1980au

MwldanFfynhonnell y llun, Mwldan
Disgrifiad o’r llun,

Adeilad gwreiddiol cyn ei ddymchwel ar ddechrau'r 1980au

Syr Geraint EvansFfynhonnell y llun, Mwldan
Disgrifiad o’r llun,

Syr Geraint Evans yn agor yr adeilad newydd ar ddiwedd y 1980au

Mwldan 1990Ffynhonnell y llun, Mwldan
Disgrifiad o’r llun,

Adeilad y Mwldan yn 1990

Cyngerdd MwldanFfynhonnell y llun, Mwldan
Disgrifiad o’r llun,

Poster cyngerdd apêl Theatr y Mwldan gyda enwogion fel Y Prifardd Dic Jones, Eluned Phillips a Dafydd Edwards yn cymryd rhan

2000Ffynhonnell y llun, Mwldan
Disgrifiad o’r llun,

Dymchwel yr adeilad gwreiddiol er mwyn adeiladu canolfan newydd yn 2000. Roedd y lleoliad yn cynnwys dau awditoriwm, stiwdio ymarfer, caffi a mannau llai er mwyn cynnal perfformiadau celfyddydol ac arddangosfeydd

Mwldan heddiwFfynhonnell y llun, Mwldan
Disgrifiad o’r llun,

Theatr y Mwldan heddiw. Mae Mwldan hefyd wedi cynnal a hyrwyddo digwyddiadau celfyddydol mewn lleoliadau eraill yn yr ardal, gan gynnwys cyngherddau yng Nghastell Aberteifi

Llwyfan i dalent Cymru

Un o uchafbwyntiau blynyddol y theatr erbyn hyn yw gŵyl Lleisiau Eraill. Ers 2019, mae llu o artistiaid poblogaidd o Gymru a thu hwnt wedi perfformio yn y Mwldan fel rhan o'r arlwy.

Tra bo Lleisiau Eraill yn cael saib yn 2026, fe fydd gŵyl Aberteifi Live yn cael ei chynnal yn ei lle ym mis Hydref.

Dyma rai artistiaid cyfarwydd yn perfformio ar lwyfan enwog Theatr Mwldan fel rhan o ŵyl Lleisiau Eraill.

Georgia RuthFfynhonnell y llun, Mwldan
Disgrifiad o’r llun,

Georgia Ruth

Catrin FinchFfynhonnell y llun, Mwldan
Disgrifiad o’r llun,

Catrin Finch

Cerys HafanaFfynhonnell y llun, Mwldan
Disgrifiad o’r llun,

Cerys Hafana

Melin MelynFfynhonnell y llun, Mwldan
Disgrifiad o’r llun,

Melin Melyn

Gruff RhysFfynhonnell y llun, Mwldan
Disgrifiad o’r llun,

Gruff Rhys

Sage TodzFfynhonnell y llun, Mwldan
Disgrifiad o’r llun,

Sage Todz

Band Pres LlareggubFfynhonnell y llun, Mwldan
Disgrifiad o’r llun,

Band Pres Llareggub

Los BlancosFfynhonnell y llun, Mwldan
Disgrifiad o’r llun,

Los Blancos

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb: