Cyngor yn argymell cau dwy ysgol wledig er gwaethaf gwrthwynebiad

Y cynllun ydy i'r ddwy ysgol gau ar 31 Awst, 2027
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Sir Conwy wedi argymell cau dwy ysgol gynradd yng nghefn gwlad, er gwaethaf ymgynghoriad cyhoeddus yn dangos bod cymunedau yn erbyn hynny.
Parhau gyda'r cynlluniau i gau Ysgol Betws y Coed ac Ysgol Ysbyty Ifan y mae cabinet y cyngor er bod gwrthwynebiad cryf gan drigolion.
Cafodd pryderon sylweddol eu codi yn y ddwy ardal - gan gynnwys deiseb ag arni 600 o lofnodion, 24 gwrthwynebiad ffurfiol a dros 100 o wrthwynebiadau ar y we.
Daeth swyddogion y cyngor i'r canlyniad nad oedd unrhyw dystiolaeth newydd yn cyfiawnhau newid y cynlluniau ac maen nhw'n argymell i arweinwyr fwrw ymlaen i gau'r ysgolion.

Dim ond 14 o ddisgyblion oedd yn Ysgol Ysbyty Ifan adeg yr ymgynghoriad
Mae Estyn wedi dweud yn y gorffennol ei bod yn ymddangos mai "ychydig iawn o dystiolaeth" oedd bod y cyngor wedi ystyried yn ddigonol yr effaith ar ddysgu a lles disgyblion.
Ond fe wnaeth y corff arolygu gydnabod bod yr awdurdod wedi darparu cyfiawnhad yn seiliedig ar niferoedd isel o ddisgyblion, llefydd gwag a phwysau ariannol.
Yn ôl yr adroddiad, mae lle i 40 yn Ysgol Ysbyty Ifan a dim ond 14 o ddisgyblion oedd yno ar amser yr ymgynghoriad.
Mae adroddiad ar wahân yn datgan bod lle i 100 disgybl yn Ysgol Betws-y-coed a dim ond 14 oedd yno hefyd ar amser yr ymgynghoriad.

Mae adroddiad ar wahân yn datgan bod lle i 100 disgybl yn Ysgol Betws-y-coed
Pan gafodd y cynlluniau i gau eu cyhoeddi gyntaf, roedd rhieni ym Metws-y -coed yn poeni y byddai'r ardal yn gallu troi i mewn i'r "Abersoch nesa'".
Mae'r ysgol honno wedi bod yn rhan o ffederasiwn ffurfiol gydag Ysgol Dolwyddelan ac Ysgol Capel Garmon ers 2016, gan weithredu o dan un corff llywodraethu ac un pennaeth.
Y cynllun ydy i'r ddwy ysgol gau ar 31 Awst, 2027.
Bydd aelodau'r cabinet yn cyfarfod ddydd Mawrth yn eu pencadlys yng Nghoed Pella, Bae Colwyn, i drafod y mater.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mehefin

- Cyhoeddwyd7 Ionawr
