Gorfod dewis rhwng 'byw gyda stoma' a 'theithio ar wyliau'

Mae Paul Scanlon yn dweud bod ei brofiadau mewn meysydd awyr wedi gwneud iddo eisiau osgoi hedfan
- Cyhoeddwyd
Mae dyn sy'n byw gyda stoma yn dweud bod staff maes awyr wedi "gweiddi arno" a'i wneud i "deimlo fel troseddwr" ar ôl iddo geisio nôl ei gyfarpar o'i fagiau.
Mae Paul Scanlon wedi byw gyda stoma ers bron i bedair blynedd, ar ôl cael diagnosis o ganser y coluddyn.
Ond ers hynny, mae wedi cael sawl profiad "diraddiol" a "bychanol" mewn meysydd awyr, meddai – gan gynnwys cael ei "weiddi arno", cael ei gymryd i ystafelloedd preifat a chael ei chwilio oherwydd ei stoma.
Nawr, mae elusen yn galw am well hyfforddiant ac ymwybyddiaeth ymhlith staff meysydd awyr, ac am i bobl â stoma gael eu trin ag "urddas" a "pharch".

Cafodd Paul Scanoln stoma ar ôl cael triniaeth ar gyfer canser y coluddyn
Dywedodd Awdurdod Hedfan Sifil y DU (CAA) fod yn rhaid i feysydd awyr sicrhau bod staff yn cael hyfforddiant ar ymwybyddiaeth o anabledd, a bod disgwyl i swyddogion diogelwch drin pobl mewn ffordd "sensitif a deallgar".
Mae mynd ar wyliau bob amser wedi bod yn bwysig i Paul, sy'n 57 oed.
Ac ers cael diagnosis o ganser, mae'n dweud ei fod yn gwerthfawrogi'r cyfle i fynd i ffwrdd hyd yn oed yn fwy.
"Pan 'dych chi wedi bod drwy'r hyn 'dyn ni wedi bod drwyddo dros y pedair blynedd diwethaf, mae'n gwneud i chi werthfawrogi'n fawr eich bod chi'n gallu mynd i ffwrdd," meddai.
Roedd Paul yn ansicr am gael stoma i ddechrau.
Ond oherwydd maint ei diwmorau, cafodd ei goluddyn mawr ei dynnu, ynghyd â rhan o'i goluddyn. Cafodd stoma ei osod drwy lawdriniaeth er mwyn i wastraff allu gadael y corff.
"Mae fel cael eich pen ôl ar eich bol a dyw hynny ddim at ddant pawb, ond mae'n achub bywydau," meddai.
"Dydw i ddim yn gwybod a ydych chi byth yn dod i dderbyn e. Yn y pen draw, mae jest angen byw gyda'r peth."

Beth oedd Paul ddim yn disgwyl wynebu oedd y profiadau anodd y mae wedi'u cael mewn meysydd awyr.
Digwyddodd ei brofiad diweddaraf ym Maes Awyr Caerdydd, wrth iddo fynd ar wyliau gyda'i wraig a'i ffrindiau.
Dywedodd Paul iddo gael ei "weiddi arno" ar ôl iddo geisio tynnu ei fag o gyflenwadau stoma oddi ar y belt sy'n sganio bagiau yn ystod y camau diogelwch.
"Dechreuodd y dyn mawr yma weiddi a sgrechian, 'Paid â chyffwrdd â'r bag yna, gadewch lonydd iddo, ewch i ffwrdd,'" meddai.
"Roedd yn dal i gerdded tuag ataf, yn gweiddi ac yn sgrechian. Doedd fy ngwraig ddim yn gwybod beth i'w wneud.
"Fe wnaeth ef a'i gydweithiwr fy hebrwng, un ar bob ochr i mi, i ystafell gyfweld lle cefais fy chwilio."
Dywedodd Paul fod y profiad wedi'i adael yn ofidus dros ben.
Menyw anabl wedi gorfod 'cropian ar fy mhedwar' er mwyn gadael trên
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
'Diagnosis i'n babi fel dringo mynydd, ac mae taith hyd yn oed yn fwy i ddod'
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
Dwy fam eisiau creu lle arbennig i blant ag anghenion yng Ngwynedd
- Cyhoeddwyd26 Medi
Mae'n dweud ei fod yn deall bod diogelwch yn bwysig ac y dylai pawb deimlo'n ddiogel.
Ond roedd yn teimlo bod diffyg "urddas", "trugaredd" ac "empathi" yn y ffordd y cafodd ei drin.
Cafodd ei wraig a'i ffrindiau hefyd eu gadael yn aros heb unrhyw esboniad o ble roedd Paul wedi cael ei gymryd, tra bod teithwyr eraill yn syllu arnyn nhw.
"Os ydych chi yn y swydd yna, dylech chi fod yn meddwl am drin pobl â pharch," meddai.
Dywedodd Maes Awyr Caerdydd, pan fo angen cynnal sgrinio ychwanegol, mae modd cynnig ystafell chwilio breifat "er mwyn helpu i sicrhau bod y broses yn cael ei chynnal gydag urddas a disgresiwn".
Dywedodd y maes awyr hefyd bod staff wedi "cwblhau hyfforddiant ymwybyddiaeth o stoma" er mwyn eu helpu i ddeall yn well profiadau pobl sy'n byw gyda stoma, ac i sicrhau bod unrhyw sgrinio angenrheidiol yn cael ei gynnal mewn modd "sensitif, parchus a phriodol".
Dywedon nhw hefyd nad ydyn nhw'n gwneud sylw ar achosion unigol, ond eu bod yn annog unrhyw un sy'n anhapus â'i brofiad i gysylltu â'r maes awyr yn uniongyrchol er mwyn i'r hyn a ddigwyddodd gael ei adolygu.
'Dwi ddim eisiau hedfan'
Mae'r digwyddiad yng Nghaerdydd yn un o sawl profiad y mae Paul yn dweud ei fod wedi'i brofi mewn meysydd awyr yn y DU.
Ar achlysur arall, dywedodd fod staff diogelwch wedi gofyn iddo dynnu ei stoma – rhywbeth nad yw'n gallu ei wneud.
Mae'r profiadau hynny wedi newid ei agwedd tuag at deithio mewn awyren.
"Mae wedi newid fy meddylfryd yn llwyr ynglŷn â mynd ar wyliau. Dydw i ddim eisiau hedfan," meddai.
"Mae gennai'r flwyddyn nesaf i fynd drwyddi a gobeithio y byddaf yn rhydd o ganser.
"Mae gennym ni lwyth o fywyd ar ôl ynom ac rydyn ni dal eisiau mynd ar wyliau."
Nid yw profiad Paul yn unigryw, yn ôl yr elusen Ileostomy and Internal Pouch Association (IA).
Mae gan y sefydliad arolwg ar agor ar hyn o bryd sydd wedi derbyn bron i 70 o ymatebion.
Mae pobl wedi nodi 16 o wahanol feysydd awyr yn y DU lle maen nhw wedi cael profiadau negyddol yn ymwneud â'u stoma.

Mae Lisa Barker'n dweud y gall staff diogelwch meysydd awyr gael "effaith seicolegol" ar bobl sy'n byw gyda stoma
Dywedodd prif weithredwr yr elusen, Lisa Barker, fod rhai pobl yn teimlo eu bod yn gorfod dewis rhwng "byw gyda stoma" a "gallu teithio ar wyliau".
Mae hi'n dweud bod prosesau diogelwch mewn meysydd awyr yn achosi "llawer o straen a phryder" i bobl â stoma.
Mae Emma Greenwood yn nyrs arbenigol ar gyfer pwrs mewnol ac mae ganddi stoma ei hun.
Mae hithau wedi cael profiadau gofidus mewn meysydd awyr.
"Mae'n beth hawdd iawn i fod yn garedig wrth rywun," meddai.
"Nid yw'n addasiad enfawr y mae'r mwyafrif o bobl yn gofyn amdano."
Dywedodd llefarydd ar ran Awdurdod Hedfan Sifil y DU fod yr awdurdod yn "gosod rhwymedigaethau ar feysydd awyr i sicrhau bod eu staff yn cael hyfforddiant ymwybyddiaeth o anabledd".
Ychwanegodd ei fod "bob amser yn disgwyl i swyddogion diogelwch ymgysylltu â theithwyr mewn modd sensitif ac ystyriol".

Mae Kat Watkins yn dweud bod nifer o bobl anabl yn cael trafferthion wrth deithio
Mae Anabledd Cymru'n dweud fod yna broblem ehangach gyda theithwyr anabl yn gyffredinol yn cael profiadau gwael nid pobl â stoma yn unig.
Dywedodd un o'u swyddogion, Kat Watkins, sy'n gorfod defnyddio cadair olwyn, ei bod wedi cael sawl profiad negyddol mewn meysydd awyr - gan gynnwys cael ei gadael ar awyren am awr wrth aros am gymorth.
Mae Anabledd Cymru'n galw am newid er mwyn sicrhau y gall teithio mewn awyren fod "yn fwy cyfartal i bobl anabl".
Dywedodd llefarydd ar ran Awdurdod Hedfan Sifil y DU ei fod yn "credu'n gryf y dylai pawb gael mynediad at deithio mewn awyren".
Ychwanegodd ei fod yn "parhau i weithio'n agos gyda sefydliadau ac elusennau sy'n cynrychioli teithwyr anabl er mwyn sicrhau bod y canllawiau i feysydd awyr a theithwyr yn glir ac yn gryno".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.