Menyw anabl wedi gorfod 'cropian ar fy mhedwar' er mwyn gadael trên

Dywed Phoebe Tesoriere ei bod wedi treulio misoedd yn "brwydro am ateb" gan gwmni Great Western Railway wedi profiad "llawn cywilydd" wrth adael trên
- Cyhoeddwyd
Roedd menyw sy'n defnyddio cadair olwyn yn ei dagrau wrth "gropian ar fy mhedwar" trwy drên am nad oedd ramp ar gael yn y lle cywir iddi fynd oddi arno.
Roedd Phoebe Tesoriere, 24, a oedd yn byw yng Nghaerffili ar y pryd, ar drên Great Western Railway (GWR) o orsaf Paddington yn Llundain i Gaerfaddon gyda'i rhieni fis Rhagfyr y llynedd.
Roedd yn yr unig fan ar y trên ar gyfer cadeiriau olwyn ac wedi cael sicrwydd o ramp a chymorth ar ddiwedd ei thaith, ond wrth gyrraedd roedd y cerbyd roedd hi ynddo y tu hwnt i'r platfform.
Mae GWR wedi ymddiheuro, gan gydnabod eu bod "wedi ei siomi, wrth ei helpu i fynd ar y trên ac ar sawl pwynt yn ystod ei siwrne".
Mae Phoebe hefyd yn dal yn aros am iawndal, ac yn ôl ei mam mae'r oedi wedi estyn profiad trawmatig.
'Angen cydweithio' i wella trafnidiaeth ar gyfer pobl ag anableddau
- Cyhoeddwyd22 Ebrill
Mae Phoebe'n byw gyda pharaplegia sbastig etifeddol, sy'n achosi gwendid a stiffrwydd yng nghyhyrau'r coesau.
Dywedodd bod ei mam wedi "gofyn yn benodol a fyddai 'na ramp a chymorth" iddi yng Nghaerfaddon, a chael "sicrwydd y bydde' 'na".
Yn ystod y daith, fe wiriodd staff sawl tro i ba orsaf roedd yn teithio, ond doedd dim awgrym y byddai'r cerbyd roedd hi ynddo y tu hwnt i'r platfform, gan olygu bod dim modd defnyddio ramp ohono.
Roedd hi a'i rhieni'n dychwelyd i Gaerfaddon, ble mae hi bellach yn byw, ddiwrnod ar ôl gweld cyngerdd yn Llundain - anrheg Nadolig i'w rhieni a brynodd cyn ei diagnosis.
Wrth gyrraedd Caerfaddon, awgrymodd staff iddyn nhw aros ar y trên a gadael yng ngorsaf Temple Meads Bryste - taith 15-20 munud - a phrynu tocyn arall yn ôl i Gaerfaddon er mwyn gadael y trên gyda ramp.
Eglurodd y teulu bod hynny'n amhosib gan fod nain a thaid Phoebe'n aros yn yr orsaf i'w gyrru'n ôl i Gaerffili.

Daeth y trafferthion wrth adael y trên ar ddiwedd trip i Lundain gyda'i rhieni
Awgrymodd staff iddi geisio cael ei chadair olwyn trwy ganol y trên ond roedd yn rhy llydan a bu'n rhaid iddi gropian trwy dri cherbyd.
"Ro'n i'n crio," meddai. "Roedd pobl yn syllu.
"Mwythodd un teithiwr fy nghefn ac ymddiheuro, gan ddweud bod beth oedd yn digwydd yn annerbyniol.
"O'dd hi'n ceisio fy nghysuro ond yn y foment yna ro'n i'n teimlo fel ci."
Dywedodd ei mam, Kirstin Tesoriere bod gwylio'r holl beth yn "drawmatig".
"Pan rwy'n cau fy llygaid, rwy'n dal i'w weld - y tosturi yn llygaid teithwyr eraill. Roedd yn brofiad llawn cywiliydd iddi."
Cafodd ei chodi'n ôl i'w chadair olwyn er mwyn gadael y trên gyda ramp ond doedd dim staff yno i'w helpu.
'Dal i frwydro am ateb'
"Mae'n hurt bod disgwyl o hyd i deithwyr anabl fynd trwy hyn," dywed Phoebe, sy'n galw am welliannau mawr i'r ddarpariaeth.
Oherwydd natur ei diagnosis, mae disgwyl i'w chyflwr waethygu dros amser.
Dywed ei mam ei bod eisiau "creu atgofion hyfryd" gyda'i merch, ond dydy'r teulu heb ddefnyddio cludiant cyhoeddus ers y digwyddiad yma.
"Mae ganddi ofn nawr ac wedi colli gymaint yn barod ers ei diagnosis," dywedodd.
"Chi jest mo'yn i'ch plant fod yn hapus."

Mae Phoebe yn dal yn aros am iawndal dros y digwyddiad - dywed y cwmni eu bod yn gobeithio gwneud taliad gynted â phosib
Cwynodd Phoebe'n swyddogol i GWR ddiwrnod y digwyddiad, a bu'n rhaid aros tan fis Mai i'r cwmni gwblhau ymchwiliad.
Cyfaddefodd y cwmni bod profiad Phoebe yn un "eithriadol o wael" gan dderbyn cyfrifoldeb am yr hyn aeth o'i le.
Cadarnhodd fwriad i dalu iawndal, ac fe yrrodd Phoebe ei manylion banc, ond mae hi'n dal i aros amdano ac yn dweud bod GWR wedi "anwybyddu pob ebost gen i" ers Mehefin.
"Bron i naw mis ers i mi gwyno, rwy'n dal i frwydro am ateb. Ni ddylai unrhyw deithiwr anabl orfod cropian."
Dywed Kirstin ei bod yn deall bod "camgymeriadau wedi eu gwneud" ond bod "dim esgus" am y ffordd y mae Phoebe wedi ei thrin ers hynny.
"Galla'i ddim eu maddau am y ffordd y maen nhw wedi gwneud i brofiad ofnadwy, trawmatig barhau am fisoedd."
'Ni ddylai hyn fod wedi digwydd'
Mae BBC Cymru wedi gweld ebyst ble dywed GWR eu bod wedi newid dulliau "rheoli cymorth i gwmseriaid sy'n teithio o orsaf Paddington Llundain" o ganlyniad i gwyn Phoebe.
"Roedd yna gyfleoedd i ni sylweddoli y byddai yna broblem yng ngosaf Spa Caerfaddon, ac fe fethon ni â gwneud hynny.
"Roedd y sefyllfa y cawsoch ei rhoi ynddi - a'r ffordd y gadawoch y trên - yn gwbl bosib i'w hosgoi.
"Yn syml, ni ddyliau hyn fod wedi digwydd. Mae'n wir ddrwg gen i ynghylch y profiad gofidus ac annifyr y cawsoch wrth adael y gwasanaeth."
Mewn ymateb i BBC Cymru, dywedodd GWR: "Mae'n wir ddrwg ganddom. Ddylai Ms Tesoriere fod wedi gallu teithio gyda hyder ac urddas a gwnaethom ei siomi, wrth ei helpu i fynd ar y trên ac ar sawl pwynt yn ystod ei siwrne ble roedd cyfleoedd i gywiro'r sefyllfa.
"Rydym wedi ymddiheuro iddi'n bersonol ac wedi gwella sut rydym yn cefnogi cwmseriaid o orsaf Paddington Llundain, fel bod neb arall yn mynd trwy hyn."
O ran iawndal, dywedodd llefarydd bod y cwmni'n "gwneud popeth posib i gwblhau'r camau olaf gynted â phosib".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.