Teulu Finlay Tarling yn diolch wedi marwolaeth y seiclwr â dyfodol 'disglair'

Finlay gyda'i rieni Michael a Dawn yn ystod y Tour of Britain y llyneddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Finlay gyda'i rieni Michael a Dawn yn ystod y Tour of Britain y llynedd

  • Cyhoeddwyd

Mae tad Finlay Tarling, y seiclwr o Aberaeron a fu farw yn wythfed cymal y ras Volta a Portugal ddydd Gwener wedi rhoi diolch am y llu negeseuon o gefnogaeth y mae'r teulu wedi'u derbyn.

Mae'r negeseuon yn dorcalonnus ond wedi dod â chysur hefyd, meddai Michael Tarling.

Ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd: "Dyma ddyddiau anoddaf ein bywyd ac mae wedi cymryd peth amser i ni allu rhannu'r neges hon.

"Un o'r pethau sydd wedi ein helpu i ymdopi yw'r llif o negeseuon, e-byst, erthyglau a galwadau ffôn gan deulu, ffrindiau, y tîm a gan rai o'r gymuned leol a byd chwaraeon.

"Mae clywed faint o gariad ac edmygedd oedd gan bobl tuag at Fin wedi bod yn gymorth mawr i ni."

Wrth roi teyrnged iddo ychwanegodd: "Roedd Fin, nid yn unig yn fab ac yn frawd, ond ein ffrind gorau hefyd.

"Roedd yn berson tyner a chariadus gyda hiwmor sych a byddwn yn ei golli'n ofnadwy.

"Er mai dim ond 19 oed oedd e, roedd ei fywyd byr yn llawn profiadau ac roedd wedi cyflawni llawer. Allen ni ddim bod yn fwy balch ohono."

Dywedodd y bydd yn rhannu manylion yr angladd pan fydd y trefniannau priodol wedi digwydd.

munudFfynhonnell y llun, EPA
Disgrifiad o’r llun,

Munud o dawelwch cyn i'r ras ailddechrau

Wedi'r farwolaeth fe wnaeth tîm Finlay Tarling, NSN Development, roi'r gorau i gystadlu ac fe ailddechreuodd y ras gyda sêl bendith y teulu.

Ddydd Sadwrn roedd y seiclwyr yn gwisgo bandiau braich du ac roedd arweinydd y ras, Alexis Guerin, yn gwisgo crys du.

Cyn cychwyn yn ninas Paredes roedd munud o dawelwch ac roedd munud o dawelwch hefyd ddydd Sadwrn yn ystod rasys beicio eraill yn Ewrop.

Wrth siarad ar y cyfryngau dywedodd Carlos Canatario, llefarydd ar ran heddlu Portugal fod Tarling yn un o dri seiclwr yng nghefn y ras.

"Roedd e wedi colli cysylltiad â cherbyd cymorth ei dîm a chafodd ei daro ar dro - doedd e ddim yn sylweddoli y gallai cerbyd arall fod ar y cwrs," meddai Mr Canatario.

"Yn anffodus, nid oes gennym y gallu i osod swyddogion ym mhob man. Nid oedd y cerbyd ar ochr anghywir y ffordd. Roedd yn y lôn dde yn teithio ffordd groes i'r ras.

"Croesodd y seiclwr y ffordd – fel sy'n naturiol ac fel y mae seiclwyr yn ei wneud – gan dorri'r gornel a defnyddio'r lôn ymhellach i'r chwith, a dyna a achosodd y gwrthdrawiad rhwng y seiclwr a'r cerbyd."

Ychwanegodd Carlos Canatario fod y GNR – heddlu diogelwch Portugal – yn ymchwilio i weld a oedd unrhyw arwyddion wedi'u symud o'r man lle gallai'r cerbyd gael mynediad i'r ras a'i bod yn annhebygol y byddai'r gyrrwr yn wynebu unrhyw gyhuddiadau.

Gruff LewisFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y gorau dal i ddod i Finlay, meddai'r seiclwr Gruff Lewis

Yn siarad ar Dros Frecwast dywedodd y seiclwr Gruff Lewis bod colli Finlay yn "aruthrol o drist", a'i fod yn "anodd rhoi mewn geiriau y teimlad".

Dywedodd iddo ddod i adnabod y teulu drwy rasio cyclocross ar draws Cymru, a'i fod wedi gweld ei dalent ers ei fod yn ifanc.

Roedd "bron a bod yn gwbod bod e'n mynd i fynd ymlaen i 'neud y pethe 'nath e yn ei yrfa fer", meddai.

Er hynny, dywedodd bod y "gorau dal i ddod" i Finlay, oedd dal yn datblygu, "o'dd pob dim a fwy i ddod".

"Roedd Josh [ei frawd] newydd reidio'r Tour de France, dwi'n siŵr oedd yn ysbrydoli fe, ac o'dd e'n cryfhau a cryfhau a fi'n siŵr o'dd y cytundeb proffesiynol cynta' ar y gorwel iddo fe... mae'n sicr mai rhywbeth disglair oedd yn aros i Finlay."

Ychwanegodd yn ddiweddarach ei "gydymdeimlad dwysaf i Michael, Dawn a Josh ar yr adeg anodd yma", ar ran pawb o dîm rhaglen Seiclo ar S4C.

"Gan obeithio y cawn nhw nerth o gariad ei gilydd, ei ffrindiau a'r gymuned seiclo ryngwladol sy'n sefyll y tu cefn iddyn nhw drwy eu galar."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig