Gwyfyn prin wedi'i ddarganfod am y tro cyntaf mewn gwarchodfa natur

Gwyfyn prin Crambus silvellaFfynhonnell y llun, Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae gwyfyn prin wedi'i ddarganfod am y tro cyntaf erioed ar Benrhyn Llŷn, sy'n "arwydd o'r cynefin ffyniannus" yno yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru.

Cafodd 19 o wyfynod Crambus silvella, sy'n cael eu hadnabod yn Saesneg fel Bog Grass Moth, eu darganfod yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Geirch yng Ngwynedd.

Cafodd 446 o wyfynod o 91 o rywogaethau gwahanol eu casglu dros nos fel rhan o waith monitro gan Natur am Byth!, rhaglen gadwraeth yng Nghymru.

Dywedodd arbenigwyr fod y darganfyddiad yn ychwanegu at wybodaeth am bryfed yr ardal ac yn dangos bod llawer i'w ddarganfod o hyd yng nghynefinoedd arbenigol Cors Geirch.

'Byth yn gwybod beth sy'n mynd i droi i fyny!'

Mae Cors Geirch yn un o nifer o safleoedd sy'n cael eu monitro gan brosiect Natur am Byth! Llŷn ac Ynys Môn, sy'n gweithio i warchod rhai o'r rhywogaethau sydd fwyaf mewn perygl yng ngogledd Cymru.

Daeth swyddogion prosiect, gweithwyr cadwraeth a selogion ynghyd yng Nghors Geirch i arolygu'r infertebratau yno, gan osod tri thrap gwyfynod am un noson.

Mae rhywogaethau prin ar y safle yn dibynnu ar ddŵr glaw alcalïaidd y gors i oroesi, gan gynnwys y pryf cannwyll Idiocera sexguttata a'r chwilen Chlaenius tristis.

Mae'r cynefin hefyd yn caniatáu i hesg gwlyb dyfu, sef unig ffynhonnell fwyd larfa'r gwyfyn Crambus silvella.

Dywedodd Steve Palin a Charles Aron, arbenigwyr lleol a wnaeth adnabod y gwyfyn, fod dod o hyd iddo wedi bod yn syndod arbennig.

"Y peth gwych am ddal gwyfynod yw nad ydych chi byth yn gwybod beth sy'n mynd i droi i fyny!

"Ond roedd dod o hyd i'r gwyfyn yma, sy'n un arbennig o brin, yn syrpreis arbennig.

"Mae'n ychwanegiad sylweddol at ein gwybodaeth am bryfed asgellog yr ardal ac yn dangos gwerth targedu gwaith cofnodi gwyfynod yn y mathau arbenigol hyn o gynefin cors galchog, lle mae'n amlwg bod llawer i'w ddarganfod o hyd."

Dywedodd Clare Sampson, rheolwr prosiect Natur am Byth! ar ran yr RSPB yng Nghymru, fod llawer o gorsydd calchog wedi dioddef yn ystod yr haf poeth a sych.

Dywedodd fod o leiaf 80% o fawndiroedd y DU wedi'u colli neu eu difrodi, gan olygu bod "rhywogaethau sy'n dibynnu ar gynefinoedd penodol yn ei chael hi'n anodd goroesi".

"Ond o'u rheoli'n ofalus, gall y corsydd calchog pwysig hyn gael eu cynnal fel y gall cenedlaethau'r dyfodol ddal ati i wneud darganfyddiadau newydd," meddai.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.