Aelodau cabinet yn cymeradwyo cau dwy ysgol yn Sir Gâr

Bwriad Cyngor Sir Caerfyrddin ydy cau Ysgol Meidrim fis Rhagfyr 2026
- Cyhoeddwyd
Mae aelodau'r cabinet wedi cymeradwyo'r penderfyniad i gau dwy ysgol yn Sir Gaerfyrddin.
Mae Cyngor Sir Gâr yn bwriadu cau Ysgol Meidrim ac Ysgol y Fro oherwydd "niferoedd isel o ddisgyblion" a "phwysau ariannol".
Ym mis Mehefin, gwrthodwyd cais am adolygiad barnwrol gan ymgyrchwyr oedd yn gwrthwynebu cau Ysgol Meidrim gan yr Uchel Lys. Roedd yr ymgyrchwyr yn honni bod y broses ymgynghori wedi bod yn annheg.
Bydd y penderfyniad terfynol ar ddyfodol y ddwy ysgol yn cael ei drafod gan y cyngor llawn ar 14 Hydref.
'Dadleuon grymus'
Ddydd Llun, roedd y Cabinet yn ystyried adroddiadau gwrthwynebu ar y ddwy ysgol. Cafwyd "ymateb sylweddol" ar gyfer Ysgol Meidrim, gyda 260 o ymatebion a'r mwyafrif yn gwrthwynebu'r penderfyniad.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans wrth y cyfarfod fod angen i gynghorwyr "gydbwyso'r cysylltiad dwfn â'r ysgolion lleol â sicrhau bod ysgolion yn parhau i fod yn gynaliadwy i ddysgwyr".
Dywedodd y Cynghorydd Evans fod disgyblion, staff, rhieni ac aelodau o'r gymuned wedi cyflwyno "dadleuon grymus", gan gynnwys yr effaith bosibl ar yr iaith Gymraeg, anghenion dysgu ychwanegol a lles disgyblion.
Ychwanegodd fod Ysgol Meidrim yn amlwg yn "cael ei gwerthfawrogi" ond bod heriau'n cynnwys pwysau ariannol a niferoedd isel o ddisgyblion.
Bydd gan ddisgyblion Ysgol Meidrim fynediad o hyd at addysg Gymraeg, bydd plant yn cael eu symud i naill ai Ysgol Hafodwenog neu Ysgol Grufudd Jones.

Roedd ymgyrchwyr sy'n ceisio achub Ysgol Meidrim wedi cyflwyno her gyfreithiol ym mis Mai
Dywedodd yr aelod cabinet dros adnoddau, Alun Lenny, fod y cyngor yn gwario £60m ar addysg, mwy nag ar unrhyw sector arall. Mae'r gyllideb addysg dan "bwysau sylweddol" ledled Sir Gaerfyrddin.
Dywedodd y Cynghorydd Lenny: "Mae'r gyfradd geni yn gostwng, mae cefn gwlad yn newid ac mae hynny'n creu llawer o heriau mewn ffyrdd amrywiol."
Ychwanegodd fod "llai o blant oed ysgol yn Sir Gaerfyrddin nag oedd bum mlynedd yn ôl; ar hyn o bryd mae 3,500 o leoedd gwag yn ein hysgolion".
Clywodd y cyfarfod fod Ysgol Meidrim "yn llythrennol hanner gwag" ac yn gorwario £62,000.
Dywedodd y Cynghorydd dros ward Trelech, Jean Evans, wrth y cyfarfod fod y gymuned wedi "cynnig opsiynau amgen ymarferol a chynaliadwy...opsiynau gallai nid yn unig ddiogelu'r ysgol ond hefyd wasanaethu fel patrwm i ysgolion eraill sy'n wynebu heriau tebyg."
Ychwanegodd nad yw'r ysgol "wedi cael cyfle teg i brofi a allai'r opsiynau hyn weithio".
Meddai: "Mae'r arbediad net disgwyliedig o tua £13,000 yn swm bach iawn yng nghyd-destun cyllideb gyffredinol yr awdurdod."
Cyngor yn argymell cau dwy ysgol wledig er gwaethaf gwrthwynebiad
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
Wrth drafod dyfodol Ysgol y Fro yn Llangyndeyrn, dywedodd yr aelod cabinet dros addysg, Glynog Davies, bod 22 o ymatebion wedi dod i law gan y cyhoedd, a phob un yn gwrthwynebu'r cau.
Dywedodd: "Mae'n rhaid i ni dderbyn bod nifer y plant wedi gostwng" gyda 68 o blant yn cael eu haddysg mewn ysgolion eraill, "o ganlyniad i ddewis y rhieni".
Ychwanegodd na chafodd unrhyw blant eu cofrestru yn yr ysgol ym mis Medi.
Dywedodd y Cynghorydd Alun Lenny bod disgwyl i'r ysgol orwario hyd at £130,000 y flwyddyn nesaf.
Bydd y penderfyniad terfynol ar y ddwy ysgol yn cael ei drafod gan y cyngor llawn ar 14 Hydref.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.