Cadarnhad mai corff dynes oedd mewn fan ar dân, wrth barhau i holi dyn, 38

Cerbydau a swyddogion heddlu yn ardal y digwyddiad ym Mhrestatyn yn gynnar ddydd Llun
- Cyhoeddwyd
Daeth cadarnhad mai corff dynes a gafodd ei ganfod mewn fan ar dân yn Sir Ddinbych dros y penwythnos, yn dilyn archwiliad post mortem gan y Swyddfa Gartref.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Gas Works Lane ym Mhrestatyn tua 23:30 nos Sul, yn dilyn adroddiad bod cerbyd ar dân.
Mae dyn 38 oed yn parhau i gael ei holi ar ôl cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio, meddai'r llu mewn diweddariad ddydd Mercher.
Nid yw'r corff wedi cael ei adnabod yn ffurfiol eto.
Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Zoie Dunkerley: "Rydw i'n deall y bydd y digwyddiad hwn wedi achosi pryder i'r gymuned leol, a bydd ein swyddogion yn cynnal presenoldeb mwy amlwg yn yr ardal rhag ofn bod angen i unrhyw un siarad â ni."

Cafodd y corff ei ganfod mewn fan ar dân yn ardal Gas Works Lane ym Mhrestatyn
Yn eu datganiad gwreiddiol, dywedodd y Ditectif Brif Uwch-arolygydd Chris Bell fod swyddogion yn "gweithio'n gyflym i geisio adnabod y person".
Ychwanegodd: "Rydyn ni'n deall y gall y digwyddiad yma achosi pryder yn y gymuned leol a hoffwn roi sicrwydd i'r cyhoedd bod presenoldeb gweladwy gan yr heddlu yn yr ardal.
"Hoffwn apelio ar unrhyw un oedd yn ardal Gas Works Lane ym Mhrestatyn rhwng 22:45 a 23:45 [ddydd Sul], a welodd neu glywodd unrhyw beth anarferol, i gysylltu â ni."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
