'Canser, hysterectomi a'r menopos - er bo' fi ond yn fy arddegau'

Dywed Enlli Thompson bod ei bywyd wedi newid er gwell er iddi orfod cael hysterectomi a cemotherapi wedi diagnosis canser Cam 3
- Cyhoeddwyd
Dyw canser, hysterectomi a'r menopos ddim yn bethau sy'n cael effaith ar y mwyafrif o fenywod nes eu bod yn eu 40au o leiaf, ond fe ddigwyddodd y cyfan yn achos Enlli Thompson o Gaernarfon a hithau'n dal yn ei harddegau.
Roedd meddygon yn meddwl i ddechrau mai haint, gorbryder, haint dŵr neu broblem gyda'r dŵr yn ei hardal leol oedd yn achosi iddi gael trafferthion stumog a chur pen cyson.
Ond yna fe ddaeth i'r amlwg bod ganddi diwmor 10cm o hyd yn ei chroth - ac mae ei hachos, yn ôl un meddyg, yn "ffenomenon prin".
Bob blwyddyn yn y DU mae tua 120 o gleifion ifanc yn cael diagnosis canser ofarïaidd, ac mae un o bob 10,000 o fenywod yn dechrau ar y menopos yn eu harddegau.
Dywedodd Enlli ei bod yn "edrych yn bositif i'r dyfodol" er yr heriau mae hi wedi'u hwynebu
Yn 19 oed, cafodd Enlli wybod bod angen cael hysterectomi i atal y canser rhag lledu - triniaeth lawfeddygol i dynnu'r groth, sy'n golygu bod y menopos yn dechrau a bod y claf methu cael plentyn.
"Nes i dorri lawr a crio," meddai, ond a hithau bellach yn 20 oed, mae hi'n benderfynol o wneud y gorau o'i sefyllfa.
"Ella bod o'n swnio'n od, ond mae ca'l canser wedi newid fy mywyd er gwell.
"Ro'n i'n arfer bod yn ddistaw ac yn swil, ond dwi'n teimlo bo' fi mewn lle da iawn rŵan.
"Dwi methu ista'n llonydd - dwi'n caru helpu pobl er'ill a dwi'n fwy hyderus nag o'n i o'r blaen."

Roedd Enlli wedi dioddef poen a sawl symptom am flwyddyn cyn cael gwybod bod ganddi diwmor yn y groth
Pan ddechreuodd problemau iechyd Enlli yn 2024, cafodd wybod yn y lle cyntaf bod dim byd yn bod arni.
"Roedd fy periods yn newid, ro'n i'n ca'l poen dychrynllyd ond ro'n i'n dal yn ca'l gw'bod bo' fi'n iawn," meddai.
O ganlyniad, roedd hi'n teimlo "ar goll yn llwyr" ac fel pe tai'n "colli'r plot".
Gyda'r boen yn annioddefol, aeth i adran frys Ysbyty Gwyned ym Mangor.
Amlygodd sganiau syst posib yn y pelfis, ac fe gafodd ei chyflwr ei fonitro wrth iddi barhau â'i hyfforddiant trwsio ceir.
Ro'n i'n cymryd painkillers ac yn gweithio trwy'r boen," meddai Enlli.
'Bron yn teimlo rhyddhad'
Pan gafodd alwad ffôn i fynd i'r ysbyty am ragor o sganiau, meddyliodd "yn syth am ganser".
Roedd yn gywir i ofni'r gwaethaf - cafodd wybod bod canser ofarïaidd Cam 3 arni, gan olygu bod y cyflwr wedi lledu tu hwnt i'r pelfis.
Y peth anoddaf, meddai, oedd "ca'l gw'bod na fyswn i'n gallu ca'l plant fy hun. Nes i dorri lawr a crio.
"Roedd gen i gymaint o gefnogaeth, ond roedd clywed y geiria' yna'n anodd."
Er hynny, dywedodd ei bod "mewn ffordd ryfedd, bron yn teimlo rhyddhad pan ddudon nhw bod gen i ganser.
"Roedd gen i ateb, roedd gen i treatment plan, ro'n i'n mynd i wella."

Dywed Enlli ei bod yn ffyddiog y byddai'n gwella wedi'r "rhyddhad" o gael cadarnhad beth oedd yn bod arni a chynllun i'w thrin
Fe gafodd Enlli driniaeth ffrwythlondeb hefyd, gan rewi saith ŵy yn y gobaith o geisio am blentyn yn y dyfodol.
Daeth sesiynau cemotherapi i ben fis Medi y llynedd, ac fe basiodd ei phrawf gyrru wythnos wedi hynny.
Mae Enlli bellach yn cael pyliau o wres, meddwl niwlog, poen yn y cymalau a'r cyhyrau a blinder, ac mae'n anodd gwybod ai'r menopos ynteu effeithiau'r cemotherapi sy'n eu hachosi.
"Mae fy ngho' i'n rhacs," dywedodd.
'Cael canser yn ifanc yn anodd ac mae angen pob cefnogaeth'
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2025
'Ges i wybod yn ifanc na fyddwn yn cael plant'
- Cyhoeddwyd20 Mai 2023
Mae Enlli'n credu taw ei hoedran wnaeth atal unrhyw un rhag amau mai canser ofarïaidd oedd arni yn y lle cyntaf.
Dyw hi ddim yn gweld bai ar y meddygon, gan fod achosion fel hi mor brin, ond mae hi'n gobeithio y bydd modd dysgu gwersi.
"Dwi isio i rwbath gael ei 'neud ac i betha' newid fel bod hyn ddim yn digwydd i ferched ifanc er'ill," meddai.
Mae hi'n ofni bod yna ddim digon o wrando ar yr hyn y mae merched ifanc yn ei ddweud wrth ddisgrifio'u symptomau, "gan arwain at golli petha' pwysig fel hyn".

Dywed Enlli ei bod yn fwy hyderus o lawer ers ei salwch, ac mae wedi cymryd rhan mewn sioe ffasiwn er budd elusen Tenovus
Mae profiad Enlli wedi rhoi hyder iddi a phwrpas newydd i'w bywyd - mae hi'n codi ymwybyddiaeth ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn siarad yn gyhoeddus.
Mae hi hefyd wedi penderfynu newid gyrfa ac yn awyddus i weithio ym maes gofal canser.
Ar ôl colli rhywfaint o'i gwallt yn sgil ei thriniaeth cemotherapi, aeth Enlli ati i siafio ei phen ac mae hi wrth ei bod gyda'i hedrychiad newydd.
"Ella 'na i wisgio wig os dwi'n gwisgo i fyny, ond fel arfer dydw i ddim, a dwi'n ca'l gymaint o compliments neis."

Mae Dr Rebeccah Tomlinson yn feddyg teulu, yn aelod cofrestredig o'r Gymdeithas Menopos Brydeinig a'r Coleg Gofal Iechyd Rhywiol ac Atgenhedol
Mae achos Enlli'n "ffenomenon prin", yn ôl y meddyg teulu Rebeccah Tomlinson.
Mae'n anodd cadarnhau diagnosis canser ofarïaidd, meddai, oherwydd mae'r symptomau'n gallu bod yn "amhendant".
"Fel arbenigwr meddygol, bol chwyddedig fyddai'r prif gliw bob tro," dywedodd.
"Os mae rhywun yn crybwyll hynny i mi, dwi eisiau archwiliad oherwydd mae'n un o brif arwyddion canser ofarïaidd ac mae'n aml yn cael ei gamgymryd am syndrom coluddyn llidus (IBS) sy'n gyffredin."
Mae'r rhan fwyaf o achosion canser ofarïaidd yn cael eu cadarnhau mewn cleifion sydd yn eu 50au neu'n hŷn, ond mae'n codi'n amlach ymhlith merched yn eu harddegau ac oedolion ifanc, medd elusen Teenage Cancer Trust.
Yn ôl ystadegau Cancer Research UK mae tua 120 o gleifion rhwng 15 a 24 oed yn cael diagnosis canser ofarïaidd yn y DU bob blwyddyn - tua phump yng Nghymru.
Ychwanegodd Dr Tomlinson: "Mae'n bosib weithiau i drin canser ofarïaidd heb hysterectomi llawn, gan ddibynnu pa mor fuan y mae'n cael ei ddarganfod a sut fath o diwmor ydy o.
"Ond yn anffodus mewn pobl iau, weithiau mae'r canser yn fwy ffyrnig, felly mae eu dal yn gynnar weithiau'n gallu bod yn fwy cymhleth."
Mae mynd trwy fenopos llawfeddygol yn ifanc yn wahanol i fynd trwyddo pan yn hÅ·n, meddai, pan mae lefelau hormonau'n lleihau'n naturiol.
"Dydych chi ddim mewn menopos un diwrnod, yna 'dach chi'n dod allan o'r theatr mewn menopos, felly mae'n drastig iawn."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2025

- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2023
