Dathlu 70 mlynedd ers i Hollywood ymweld ag Abergwaun

Daeth sêr fel Gregory Peck ac Orson Welles i Abergwaun i ffilmio Moby Dick
- Cyhoeddwyd
Mae trigolion Abergwaun yn dathlu 70 mlynedd ers rhyddhau ffilm Moby Dick, gafodd ei ffilmio'n rhannol yn yr ardal yn y 50au.
Cafodd Moby Dick ei rhyddhau ym 1956, gyda'r actor poblogaidd Gregory Peck yn serennu ynddi fel Captain Ahab.
Dewisodd cyfarwyddwr y ffilm, John Huston, Abergwaun fel un o'r lleoliadau ar gyfer y ffilm, lle'r oedd y Pequod enwog yn hwylio.
Er nad oedd Abergwaun ei hun yn ymddangos yn y ffilm – gan fod yr holl ffilmio wedi digwydd allan ar y môr – mae rhai oedd yn byw yno ar y pryd yn dal i gofio'r adeg pan ddaeth sêr mwyaf Hollywood i'r dref.

Roedd y ffilmio "fel byd arall" yn ôl Margaret Andrews
Roedd Margaret Andrews yn y chweched dosbarth adeg y ffilmio, ac fe gafodd swydd fel rhan o'r adran colur a oedd wedi'i lleoli yn y Fishguard Bay Hotel.
"Rwy'n cofio modryb i mi yn dweud wrth fy rhieni, 'rwy'n clywed bod Margaret wedi cael swydd haf ac yn gweithio yn y Bay Hotel gyda'r holl ddynion yna!'
"Ond yn y pendraw, derbyniodd pawb nhw a sylweddoli mai pobl arferol oedden nhw."
Cafodd y swydd drwy ei chariad, a oedd yn rhan o'r tîm a oedd yn creu'r creithiau enwog ar wyneb Capten Ahab.
Mae Margaret yn cofio gweld sêr fel Gregory Peck yn ddyddiol, ac weithiau byddai'n cael lifft adref mewn un o geir Bentley neu Rolls Royce y gyrwyr.
"Roedd y dyn colur yn uchel lan yn Max Factor - ef oedd yr unig un a oedd â hawl i wneud colur Gregory Peck," meddai.
Fel merch yn ei harddegau, dywedodd fod gweld sêr fel Peck yn "gyffrous iawn".
"Roedd e'n ddyn hyfryd iawn. Rwy'n falch iawn fy mod wedi cael y profiad hwnnw.
"Doeddwn i ddim yn sylweddoli hynny ar y pryd - roedd yn gipolwg ar fyd gwahanol."

Bydd morfil 18 troedfedd yn rhan o ŵyl llusernau flynyddol Abergwaun
I ddathlu 70 mlynedd ers rhyddhau'r ffilm, fe fydd y morfil enwog yn chwarae rhan fawr yng ngŵyl Ar Ymyl y Tir eleni - dathliad blynyddol o gerddoriaeth, theatr, ffilm a llenyddiaeth yng ngogledd Sir Benfro.
Dydd Gwener, bydd y parêd llusernau blynyddol yn cynnwys fersiwn enfawr, wyth troedfedd o hyd o Moby Dick, wedi'i oleuo, yn ogystal â llusernau o bysgod a llongau wedi'u creu gan ddisgyblion Ysgol Bro Gwaun.
Mae arddangosfa o'r enw "The Making of Moby Dick: An Exhibition of Memories" hefyd yn cael ei chynnal yn Theatr Gwaun.

Roedd Gareth Rees (chwith) a Huw Lewis (dde) yn 16 ac 17 adeg y ffilmio
Roedd Huw Lewis yn 16 oed ar y pryd ac yn aelod o'r Cadlanciau Môr (Sea Cadets).
Fe gymerodd ran mewn ras rhwyfo arbennig rhwng y cadlanciau a'r cast, gan gynnwys Gregory Peck.
Yn ôl Huw, doedd "dim cystadleuaeth" rhwng y cadlanciau a'r sêr Hollywood - fe enillodd y criw lleol y ras, ac fe gafodd wobr gan Gregory Peck.
"Dim ond cwpl o eiliadau gymerodd e, 'How do you do? There's your award', gweud diolch yn fawr, ag off â fe."
Dywedodd y byddai "byth wedi credu" y byddai'n cael y cyfle i rasio yn erbyn sêr enwog.
"Roedd e'n gyfnod hapus dros ben."

Costiodd y ffilm tua $4m i'w chreu ar y pryd, sydd gyfystyr â dros £40m heddiw
Yn ôl Jamie Rees, swyddog marchnata Theatr Gwaun, mae wedi bod yn "anhygoel" i weld faint o bobl sydd wedi ymweld â'r arddangosfa yn y theatr.
"Dwi wedi tyfu lan yma a mae'r teulu i gyd wastad yn dweud pa mor prowd ydyn nhw am y ffaith bod y ffilm yma o Hollywodd wedi cael ei wneud yma yn Abergwaun.
"Wnaethon nhw golli pedwar o'r Moby Dicks mas yn y môr, felly mae pedwar o' nhw mas 'na rhywle! Mae pob un wastad yn dweud y stori honno.
"Mae lot o straeon personol gyda phobl, o'n nhw'n gweithio ar y ffilm - o'n nhw wedi gwneud ffrindiau newydd.
"Oedd e'n gyffrous i gael ffilm Hollywood yma back in the day!"
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Medi 2023

- Cyhoeddwyd16 Mai
