Sefyllfa tai cymdeithasol Pen Llŷn yn 'annheg' ar bobl ifanc lleol

Aberdaron
Disgrifiad o’r llun,

Mae wyth o dai newydd wedi eu hadeiladu ar gyrion pentref Aberdaron gyda chwech o'r rheini yn dai rhent cymdeithasol

  • Cyhoeddwyd

Mae angen ail-flaenoriaethu pwy sy'n derbyn tai cymdeithasol mewn ardaloedd gwledig, yn ôl ymgyrchwyr ym Mhen Llŷn.

Mae rhai yn Aberdaron yn poeni am stad newydd o dai ar gyrion y pentref am fod chwech ohonyn nhw yn dai rhent cymdeithasol.

Yn ôl ymgyrchwyr, mae hynny'n golygu nad yw pobl leol ifanc sy'n siarad Cymraeg o reidrwydd yn cael blaenoriaeth bob tro.

Dywedodd Cyngor Gwynedd fod 97% o dai tebyg yn mynd i bobl yn y sir a bod 60% â chysylltiad gyda'r gymuned y maen nhw'n derbyn cartref ynddi.

Mae chwech o gartrefi ar Lôn Deunant yn gartrefi rhent cymdeithasol, a dau yn rhagor yn gartrefi rhent canolraddol.

Ond dweud mae'r cyngor cymuned lleol fod nifer o bobl ifanc yn yr ardal wedi eu siomi gan gredu na fyddan nhw'n gymwys i dderbyn tŷ ar y stad am fod polisi Cyngor Gwynedd, sy'n dilyn deddf gwlad, yn blaenoriaethu pobl allai fod mewn sefyllfa fregus.

'Teuluoedd lleol yn desperate'

"Mi oedd o'n swnio'n grêt ar y cychwyn", meddai'r cynghorydd sir dros Ben draw Llŷn, Gareth Williams.

"Stad o dai fforddiadwy yma yn Aberdaron, ond erbyn rŵan mae'r tai wedi eu codi a 'dan ni'n gwybod fod chwech allan o'r wyth tŷ yn mynd i fod yn dai rhent cymdeithasol a dim amod lleol, dim amod ieithyddol a'r cwestiwn felly ydi be ydi lleol?

"Yn llygaid Cyngor Gwynedd dyna oedd y tai i fod, i bobl leol ar gyfer yr argyfwng 'dan ni'n ei wynebu.

"Ond rŵan mae'r teuluoedd lleol sy'n aros am dŷ, sy'n deseprate, yn cael gwybod na fydda nhw'n gymwys."

Yn ôl Cyngor Gwynedd, mae'r Polisi Gosod Tai Gyffredin yn blaenoriaethu'r rhai sydd â'r angen mwyaf am dai yng Ngwynedd ac mae'r cyngor wedi "mynd hyd eithaf" ei allu i sicrhau bod y polisi yn rhoi blaenoriaeth i deuluoedd ac unigolion lleol.

Manon Llyn Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae Manon Llyn Williams yn dweud ei bod hi bron yn "amhosib" iddi brynu tŷ yn ei hardal leol

18 mis yn ôl mi symudodd Manon Llyn Williams, 26, yn ôl i fyw yn Aberdaron o Groesoswallt.

Ers rhai misoedd mae hi wedi bod yn chwilio am gartref yn yr ardal ond yn dweud fod prisiau tu hwnt i'w chyrraedd er gwaethaf ei hymdrechion i arbed.

"Dydi prisiau ym Mhen Llŷn ddim o fewn cyrraedd i bobl oed fi", meddai.

"Dwi'n gweithio'n llawn amser a fues i dros yr haf yn chwilio... mae'n lot o bwysau, yn enwedig os 'da chi'n chwilio am dŷ ben eich hun.

"Ma'n ofnadwy o anodd os nad yn amhosib."

Mae Manon yn dweud iddi fynychu diwrnod agored i ystyried a fyddai un o'r wyth o dai newydd yn opsiwn ond yn dweud wrth drafod efo'r gymdeithas dai a gweld pwy oedd yn cael eu blaenoriaethu daeth i'r amlwg "na fyddai ganddi gyfle".

"Mae 'na bedwar band ac fel oedda' nhw'n mynd drwy'r bandiau oedd fy nghalon i yn suddo bach mwy a mwy... oedd o'n dissapointing."

Arwydd Aberdaron
Disgrifiad o’r llun,

Mae 97% o dai cymdeithasol yn cael eu gosod i aelwydydd â chysylltiad lleol â Gwynedd, yn ôl yr awdurdod lleol

Yn ôl Cyngor Gwynedd, mae amryw o ffactorau yn gwneud rhywun yn gymwys am gartref ond mae deddf gwlad yn blaenoriaethu;

  • Pobl sy'n byw mewn tai heb gyfleusterau glanweithiol neu'n orlawn;

  • Pobl sydd angen eu symud oherwydd rhesymau meddygol neu lles;

  • Pobl sydd angen symud ardal oherwydd y gallai peidio achosi caledi.

Mae ymchwil y cyngor yn dangos fod 65% o bobl yng Ngwynedd wedi eu prisio allan o'r farchnad leol a hynny'n debygol o fod yn waeth mewn ardaloedd gwledig a phoblogaidd.

Tai newydd
Disgrifiad o’r llun,

Bydd chwech o'r tai newydd yn dai rhent cymdeithasol

"Mae gennym ni gynllun gweithredu tai a'n polisi gosod tai cymdeithasol", meddai'r cynghorydd Paul Rowlinson, deilydd portffolio tai ac eiddo Cyngor Gwynedd.

"Mae hynny'n helpu sicrhau fod pobl yn gallu aros yn yr ardal a drwy hynny helpu cadw'r iaith Gymraeg yn fyw."

Ar gyfartaledd, mae 97% o dai cymdeithasol yn cael eu gosod i aelwydydd â chysylltiad lleol â Gwynedd, a thua 60% i aelwydydd sydd â chysylltiad â'r gymuned y maent yn dymuno byw ynddi, meddai Cyngor Gwynedd.

'Haeddu byw a joio yma fel pawb arall'

Er bod Manon yn dweud ei bod yn deall yr angen i flaenoriaethu pobl sy'n fregus, mae'n dweud bod pobl ifanc fel hi yn cael eu gwasgu ac yn talu'r pris.

"Dwi'n 26 rŵan a dwi'n gobeithio fydd gennai dy erbyn fy mod i'n 30," meddai.

Ychwanegodd nad yw'r sefyllfa'n un deg: "Dwi'n gweithio'n galed, mae pawb arall yn gweithio'n galed a 'dan ni gyd yn rhoi yn ôl i'n cymunedau ni.

"'Dan ni'n haeddu byw 'ma a joio byw 'ma fel pawb arall."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig