Erlyn dyn am bysgota â rhwyd anghyfreithlon yn harbwr Aberaeron

llun du a gwyn o Callum Matthewson yn pysgota yn yr afonFfynhonnell y llun, CNC
Disgrifiad o’r llun,

Plediodd Callum Matthewson yn euog i ddefnyddio rhwyd ddrysu (gill net) i ddal pysgod yn Afon Aeron heb ganiatâd

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn o Aberaeron wedi cael ei ddedfrydu am ddefnyddio rhwyd bysgota'n anghyfreithlon yn harbwr y dref.

Plediodd Callum Matthewson yn euog i ddefnyddio rhwyd ddrysu (gill net) i ddal pysgod yn Afon Aeron heb ganiatâd, ac i bysgota heb drwydded ddilys.

Yn Llys Ynadon Aberystwyth ddydd Mercher, cafodd ei ddedfrydu i 10 diwrnod o weithgarwch adsefydlu ac 85 awr o waith di-dâl.

Cafodd hefyd orchymyn i dalu £1,000 tuag at gostau Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a gordal dioddefwr o £114.

Dechreuodd CNC ymchwilio ar ôl derbyn adroddiad dienw ar 24 Chwefror bod rhwyd wedi'i gosod ar draws sianel Afon Aeron.

Aeth swyddogion CNC i'r harbwr a dod o hyd i raff wedi'i chlymu wrth bostyn metel ar wal yr harbwr ac yn arwain i'r dŵr.

Am tua 01:00 ar 25 Chwefror, gwelodd swyddogion ddyn yn agosáu at y rhwyd a dechrau ei thynnu o'r dŵr.

Pan gafodd ei herio, rhedodd y dyn i ffwrdd, ond cafodd ei stopio gan swyddog arall a'i adnabod fel Mr Matthewson.

rhwyd Callum MatthewsonFfynhonnell y llun, CNC
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y rhwyd yn gallu ymestyn ar draws lled Afon Aeron

Roedd y rhwyd, a oedd tua 25 metr o hyd, yn gallu ymestyn ar draws lled Afon Aeron.

Cafodd dwy leden fyw eu canfod yn y rhwyd a'u dychwelyd i'r dŵr.

'Tanseilio mesurau i amddiffyn afonydd'

Dywedodd Jeremy Goddard, Arweinydd Tîm Rheoleiddio a Gorfodi Gwastraff CNC, fod defnyddio rhwydi drysu yn anghyfreithlon.

Gall y rhwydi ddal rhywogaethau pysgod mudol, gan gynnwys eogiaid a brithyllod môr, a gallant hefyd beri risg i fywyd gwyllt arall, meddai.

Dywedodd nad oes trwydded ar gael sy'n caniatáu dal eogiaid neu frithyllod y môr drwy ddefnyddio'r dull hwn yn Afon Aeron nac unrhyw afon arall yng Nghymru.

"Mae pysgota anghyfreithlon yn peri risg i stociau pysgod dan fygythiad, ac yn tanseilio'r mesurau a roddwyd ar waith i amddiffyn afonydd ac aberoedd Cymru," meddai.

Ychwanegodd y byddai CNC yn cymryd camau os oes tystiolaeth bod deddfau pysgodfeydd wedi'u torri.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig